Jump to content
Grŵp 1: pobl sy'n gweithio gyda dinasyddion

Sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol i bobl yng ngrŵp 1 sydd am weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau.

Os yw pawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gyfarwydd â dulliau seiliedig ar gryfderau, gallan nhw eu defnyddio i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i'r bobl y maent yn eu cefnogi.

Pwy sydd yn y grŵp hwn

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys unrhyw un sy'n gweithio gyda dinasyddion, gan gynnwys pobl sy’n:

  • cynnal gweithgareddau ymgysylltu, fel grwpiau ffocws
  • delio â chanmoliaeth neu gwynion am wasanaethau
  • asesu anghenion a chynllunio ymyriadau
  • rhoi gofal a chefnogaeth.

Gallan nhw fod yn:

  • weithwyr gofal cymdeithasol neu ymarferwyr
  • weithiwr cymorth
  • weithwyr cymdeithasol
  • bobl sy'n gweithio ym maes iechyd, blynyddoedd cynnar a gofal plant, addysg a gwasanaethau tebyg.

Gwybodaeth

Dylai pawb yn y grŵp hwn:

  • deall egwyddorion allweddol ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a pham rydyn ni’n eu defnyddio
  • deall manteision gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau
  • cydnabod y gwahaniaeth rhwng arferion sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n seiliedig ar ddiffyg
  • deall pam mae sefydliadau'n symud i ffwrdd o arfer sy'n seiliedig ar ddiffyg i arfer sy’n seiliedig ar gryfderau
  • bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a sut mae'n hyrwyddo llais, dewis a rheolaeth pobl
  • deall y polisïau a'r canllawiau sy'n cefnogi arferion sy'n seiliedig ar gryfderau yn eu sefydliad
  • gwybod pryd i ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau mewn maes gwaith penodol, megis amddiffyn plant, diogelu, gwaith cymdeithasol neu ymyriadau cyffuriau ac alcohol
  • adnabod sut olwg sydd ar rwydwaith cymorth da i rywun, gan ddechrau gyda theulu’r unigolyn ac yna’r gymuned a gwasanaethau lleol
  • cydnabod y pethau yn eu sefydliad sy'n ei gwneud hi'n anodd gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau, a sut i weithio gydag eraill i oresgyn y rhain.

Sgiliau

Dylai pawb yn y grŵp hwn allu:

  • cynnal sgwrs 'beth sy'n bwysig', gan ddefnyddio sgiliau fel 'OARS', sy'n dod o gyfweld ysgogol:
    • cwestiynau agored
    • datganiadau
    • sylwadau
    • crynodebau.
  • meithrin perthynas gref, hyderus a pharchus gyda dinasyddion a chydweithwyr drwy:
    • ymgysylltu â'r person ar ei lefel nhw eu hun
    • canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig
    • bod yn sensitif i’w hangenhion a’u profiadau bywyd
    • meddwl am y posibiliadau ar gyfer y person hwnnw
    • cynllunio gyda 'r person yn hytrach nag i'r person.
  • cael sgyrsiau anodd mewn ffordd dosturiol
  • ysgrifennu adroddiadau a chynlluniau mewn ffordd sy'n:
    • canolbwyntio ar gryfderau'r unigolyn
    • defnyddio geiriau'r person ei hun
    • esbonio'r penderfyniadau yn glir
    • dangos sut y daethant i benderfyniad
    • esbonio sut mae'r person yn teimlo am benderfyniadau.
  • gwneud asesiadau sy'n cofnodi ac yn adeiladu ar gryfderau unigol, teulu a chymunedol
  • cynnal sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' sy'n osgoi labeli, jargon ac iaith oddefol
  • defnyddio arfer sy'n seiliedig ar gryfderau mewn maes gwaith penodol, megis amddiffyn plant, diogelu, gwaith cymdeithasol neu ymyriadau cyffuriau ac alcohol
  • gwrando ar – ac eirioli dros – pobl eraill sy'n gweithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau.

Sut i gefnogi pobl yn y grŵp hwn

Gallwch gefnogi pobl yn y grŵp hwn drwy:

Cyhoeddwyd gyntaf: 29 Ionawr 2025
Diweddariad olaf: 6 Chwefror 2025
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (39.4 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch