Esbonio sut i ddatblygu arferion sy'n seiliedig ar gryfderau yn eich sefydliad.
Ynglŷn â'r canllaw hwn
Ysgrifennon ni’r canllaw hwn gan ddefnyddio profiadau ac adborth pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae'r canllawiau'n esbonio:
- y sgiliau, gwybodaeth a gwerthoedd gwahanol sydd eu hangen ar weithwyr, rheolwyr ac arweinwyr
- sut i benderfynu pa hyfforddiant sy'n diwallu eich anghenion
- sut i sicrhau bod yr hyfforddiant o ansawdd uchel, ta waeth os yw'n cael ei redeg yn fewnol neu'n allanol.
Nid yw'n ganllaw cynhwysfawr ond gall fod yn fan cychwyn defnyddiol.
Ar gyfer pwy mae'r canllaw hwn
Mae'r canllaw hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau helpu eu sefydliadau i weithio mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau, gan gynnwys:
- arweinwyr
- rheolwyr comisiynu
- arweinwyr hyfforddiant y gweithlu.
Pam rydyn ni wedi ysgrifennu'r canllaw hwn
Ysgrifennon y canllaw hwn i helpu pobl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru i gael hyfforddiant, dysgu a datblygiad cyson o ansawdd uchel sy'n berthnasol i'w rôl a'u cyfrifoldebau.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y dylai gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd defnyddio model cydgynhyrchiol o ofal cymdeithasol sy'n seiliedig ar gryfderau.
Mae hyn yn golygu symud i ffwrdd o atebion sy'n cael eu harwain gan wasanaethau neu sy’n defnyddio adnoddau i ddatrys problemau.
Yn hytrach, dylen ni gweithio gyda chryfderau rhywun i'w helpu i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Er bod llawer o dimau eisoes yn gweithio fel hyn, gall fod yn anodd sicrhau bod y ffordd hon o weithio yn gyson ar draws gwahanol sefydliadau.
Mae'r canllaw hwn yn rhoi strwythur i sefydliadau i'w gwneud yn haws gweithio gyda chryfderau, mewn ffordd realistig, hylaw a chyson.
Mae ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau yn cefnogi egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014), ac yn ein helpu i hyrwyddo llais, dewis a rheolaeth.
Mae'r Ddeddf yn hyrwyddo llesiant dinasyddion Cymru, gan ganolbwyntio ar atal, ymyrraeth gynnar a chydweithio ag unigolion a'u teuluoedd.
Dysgwch fwy am arferion sy'n seiliedig ar gryfderau ym maes gofal cymdeithasol.
Gweithio gyda sefydliadau eraill
Mae manteision i weithio gyda sefydliadau eraill i adeiladu diwylliannau sy'n seiliedig ar gryfderau mewn sefydliadau.
Os hoffech wybod mwy am hyn, e-bostiwch, cryfderau@gofalcymdeithasol.cymru
Lle i ddechrau: dewis eich grŵp
Mae angen gwahanol lefelau o wybodaeth ar bobl, yn dibynnu ar eu rôl.
Mae'r canllaw hwn yn rhannu rolau yn dri grŵp, i'ch helpu i benderfynu sut i ddatblygu arferion sy'n seiliedig ar gryfderau yn eich sefydliad.
Grŵp 1: pobl sy'n gweithio gyda dinasyddion
Mae angen i'r bobl yn y grŵp hwn ddeall pam mae dull seiliedig ar gryfderau yn well i fodel diffyg neu "beth sy'n bod".
Dylen nhw wybod ysbryd ac egwyddorion arferion sy'n seiliedig ar gryfderau a disgrifio buddion y ffordd hon o weithio.
Grŵp 2: goruchwylwyr a rheolwyr
Dylai'r bobl yn y grŵp hwn fod yn gyfarwydd â dulliau seiliedig ar gryfderau.
Dylen nhw wybod sut i oruchwylio mewn ffordd sy'n hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i'w cydweithwyr a'r bobl y maent yn eu cefnogi.
Dylen nhw fod wedi gwneud popeth mewn grŵp 1.
Grŵp 3: arweinwyr a chomisiynwyr
Dylai pobl yn y grŵp hwn fod yn gyfarwydd â dulliau seiliedig ar gryfderau.
Dylen nhw wybod sut i wella, mesur a monitro ansawdd ymarfer yn eu sefydliad.
Mae'n ddefnyddiol i bobl yn y grŵp hwn fod yn gyfarwydd â'r wybodaeth a'r sgiliau rydyn nhw wedi'u hamlinellu ar gyfer grwpiau 1 a 2.