Jump to content
Wythnos Llesiant 2026

Dyma rhaglen y digwyddiadau ar gyfer Wythnos Llesiant 2026, sy'n rhedeg o 19 i 23 Ionawr 2026.

Mae Wythnos Llesiant 2026 yn wythnos o ddigwyddiadau ar-lein lle gall pobl yn y sector ddod at ei gilydd i ddysgu am lesiant a rhannu arferion gorau.

Gallwch ymuno â chymaint o ddigwyddiadau ag y dymunwch.

Dydd Llun, 19 Ionawr: 9.45am i 11.15am

Cefnogi straen a phryder yn y gwaith

Cynhelir y digwyddiad hwn gan Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar iechyd meddwl yn y gweithlu gofal. Byddwch yn archwilio eich hawliau ynghylch straen yn y gwaith ac yn dysgu'r gwahaniaethau rhwng straen, pryder a llosgi allan. Gyda'n gilydd, byddwn yn rhannu syniadau ymarferol i gefnogi llesiant staff wrth barhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Llun, Ionawr 19: 1pm i 3pm

Arwain gyda deallusrwydd emosiynol

Cynhelir y digwyddiad hwn gan Gofal Cymdeithasol Cymru

Ym maes gofal heddiw, nid yw deallusrwydd emosiynol yn rhywbeth da i'w gael yn unig; mae'n hanfodol. Gall cael ymwybyddiaeth emosiynol drawsnewid sut rydyn ni'n arwain, yn diogelu ein llesiant, ac yn adeiladu timau cydnerth.

Bydd y sesiwn hwn yn archwilio pam bod deallusrwydd emosiynol yn bwysig a sut gall helpu chi i gefnogi eich hun a'ch tîm, bob dydd ac yn ystod cyfnodau heriol. Byddwch yn ennill strategaethau ymarferol i helpu chi reoli emosiynau, ymateb gyda thosturi, ac arwain gyda hyder.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Mawrth, 20 Ionawr: 9.45am i 11.45am

Lle gwych i weithio

Cynhelir y digwyddiad hwn gan Awen Cultural Trust, Woodlands Limited a Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymunwch â ni i glywed gan bobl sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar sy'n cael eu disgrifio fel llefydd gwych i weithio.

Byddant yn rhannu sut olwg sydd ar ddiwylliant gweithle cadarnhaol a sut mae'n teimlo, hyd yn oed pan fydd y gwaith yn brysur, yn heriol yn emosiynol ac yn gyflym.

Byddwn hefyd yn eich gwahodd i rannu eich awgrymiadau eich hun ar gyfer cefnogi llesiant yn y gwaith. Gadewch i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd a dathlu beth sy'n gwneud i weithle deimlo'n dda.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Mawrth, 20 Ionawr: 1pm i 3pm

Pŵer adrodd straeon yn y gwaith

Cynhelir y digwyddiad hwn gan Gofal Cymdeithasol Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Ymunwch â ni i ddysgu am fforymau strwythuredig sy'n rhoi lle diogel i staff gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant siarad am effaith emosiynol a chymdeithasol eu gwaith.

Mae’r mannau hyn yn gefnogol ac yn ddi-hierarchaidd ac mae llais pawb yn bwysig.

Drwy rannu straeon a myfyrio ar heriau, gall staff deimlo'n fwy cysylltiedig, yn llai ynysig ac yn fwy abl i ddangos tosturi i cydweithwyr a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Mercher, 21 Ionawr: 10am i 11.30am

Hyder menywod

Cynhelir y digwyddiad hwn gan Gofal Cymdeithasol Cymru a Unison

Ymunwch â ni yn y gweithdy rhyngweithiol hwn i ddarganfod sut allwch chi feithrin eich sgiliau hyder yn y gwaith.

Bydd y gweithdy byr hwn yn eich helpu i:

  • ddeall beth yw hunan-barch, hunanhyder a phendantrwydd, a sut maen nhw'n gysylltiedig
  • cydnabod eich sgiliau a'ch cryfderau eich hun
  • adeiladu eich strategaeth eich hun ar gyfer meithrin hyder.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Mercher, 21 Ionawr: 1pm i 4pm

Iechyd meddwl dynion

Cynhelir y digwyddiad hwn gan JMG training and consultancy

Gall iechyd meddwl gwael effeithio ar unrhyw un. Mae pwysau cymdeithasol, disgwyliadau a stigma yn aml yn dylanwadu ar sut mae pobl yn profi ac yn ymateb i heriau iechyd meddwl.

Mae ymchwil yn dangos bod dynion yn llai tebygol yn ystadegol o geisio cymorth iechyd meddwl, a all arwain at oedi cyn cael cymorth.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Iau, 22 Ionawr: 10am i 11.30am

Blaenoriaethu llesiant personol yn rôl Unigolyn Cyfrifol (UC)

Cynhelir y digwyddiad hwn gan Gofal Cymdeithasol Cymru

Gall arwain gyda chyfrifoldeb fod yn werth chweil ac yn heriol. Ymunwch â ni am sesiwn ddiddorol lle byddwn yn rhannu strategaethau ymarferol i gefnogi eich llesiant emosiynol fel Unigolyn Cyfrifol (UC). Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i gysylltu â chyfoedion, cyfnewid profiadau, ac adeiladu rhwydwaith cefnogol.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Iau, 22 Ionawr: 1.30pm i 2:45pm

Gwrando a chysylltu: Deall llesiant yn eich gweithle

Cynhelir y digwyddiad hwn gan Cymru Iach ar Waith

Mae gweithlu gwybodus a chymwys yn hanfodol ar gyfer creu diwylliant gweithle cadarnhaol a chefnogi llesiant. Pan fydd staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u gwrando, mae'n arwain at newid ystyrlon a gwelliant parhaus.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Dydd Gwener, 23 Ionawr: 10am i 11.30am

Cefnogi pobl i reoli cyflyrau iechyd a dychwelyd i'r gwaith neu aros yn y gwaith

Cynhelir y digwyddiad hwn gan Cymru Iach ar Waith, RCS, Case UK, Powys Mind a Busnes Cymru

Ymunwch â ni i archwilio sut i adeiladu diwylliant gweithle tosturiol a grymuso pobl i gymryd camau rhagweithiol i reoli eu hiechyd. Mae gan bawb rôl wrth gefnogi gweithwyr â chyflyrau iechyd hirdymor fel y gallant ffynnu yn y gwaith, yn rhydd rhag gwahaniaethu.

Yn y sesiwn hon, byddwch yn darganfod:

  • manteision cefnogi pobl i reoli eu cyflyrau iechyd
  • y cymorth iechyd meddwl a chymorth yn y gwaith am ddim sydd ar gael i weithwyr ledled Cymru.

Dysgu mwy ac archebu eich lle

Y safbwyntiau a fynegir yn y gweithdai hyn yw barn y siaradwyr ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn y sefydliadau y maent yn eu cynrychioli, na barn Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cynnwys cysylltiedig