Jump to content
Cefnogi pobl i reoli cyflyrau iechyd a dychwelyd i'r gwaith neu aros yn y gwaith
Digwyddiad

Cefnogi pobl i reoli cyflyrau iechyd a dychwelyd i'r gwaith neu aros yn y gwaith

Dyddiad
23 Ionawr 2026, 10am i 11.30am
Lleoliad
Ar-lein
Sefydliad
Cymru Iach ar Waith, Case UK, Mind Powys, a Busnes Cymru

Digwyddiad Wythnos Llesiant 2026.

Ymunwch â ni i archwilio sut i adeiladu diwylliant gweithle tosturiol a grymuso pobl i gymryd camau rhagweithiol i reoli eu hiechyd. Mae gan bawb rôl wrth gefnogi gweithwyr â chyflyrau iechyd hirdymor fel y gallant ffynnu yn y gwaith, yn rhydd rhag gwahaniaethu.

Yn y sesiwn hon, byddwch yn darganfod:

  • manteision cefnogi pobl i reoli eu cyflyrau iechyd
  • y cymorth iechyd meddwl a chymorth yn y gwaith am ddim sydd ar gael i weithwyr ledled Cymru.

Mae'r digwyddiad hwn yn cyd-fynd â:

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer:

  • unrhyw un sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar sy'n cefnogi pobl yn eu rôl, gan gynnwys rheolwyr, arweinwyr tîm, ac arweinwyr llesiant.