Jump to content
Llesiant: gofalu amdanoch eich hun yn y gwaith

Lle i gael cyngor, gwybodaeth neu adnoddau i'ch helpu i ofalu am eich llesiant yn y gwaith.

Mae gofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol eich hun yn bwysig os ydych chi’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, a'r blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Mae bod yn egnïol, bwyta'n iach, gorffwyso a neilltuo amser i chi'ch hun i gyd yn ffyrdd da o gael bywyd iach yn y gwaith a gartref.

Lle i ddechrau

Pan fydd amgylchiadau personol yn effeithio ar eich gallu i wneud eich gwaith

Siarad gyda'ch rheolwr

Efallai y byddwch yn mynd trwy brofiadau bywyd ac amgylchiadau a allai effeithio ar eich gallu i wneud eich swydd.

Gallai'r rhain gynnwys beichiogrwydd, y menopos, cyfrifoldeb gofalu, cyfnod o salwch neu fyw gyda chyflwr hirdymor.

Mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch rheolwr am unrhyw anawsterau neu heriau rydych chi'n eu hwynebu.

Gall eich rheolwr weithio gyda chi i benderfynu sut y gellir eich cefnogi, fel y gallwch barhau i weithio mewn ffordd nad yw'n cael effaith negyddol ar eich iechyd a'ch llesiant.

Os nad ydych yn teimlo y gallwch siarad â'ch rheolwr, efallai y bydd y sefydliadau isod yn gallu eich helpu i gael y cymorth cywir.

Lle i gael cefnogaeth

Gall y sefydliadau hyn roi cefnogaeth, gwybodaeth neu gyngor i chi os ydych chi’n delio â rhywbeth a allai gael effaith wael ar eich llesiant yn y gwaith. Cliciwch ar y pynciau isod i ddangos sefydliadau a gwasanaethau.

Efallai na fydd y gwefannau neu gwasanaethau hyn yn ddwyieithog nac mewn gwahanol ffurfiau. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys sefydliadau eraill.

Cyflyrau tymor hir

Iechyd meddwl

Canser: gweithio pan fyddwch yn dioddef o ganser neu'n gwella o ganser

Beichiogrwydd

Menopos

Cyfrifoldebau gofalu

Pryderon ynghylch costau byw ac ariannol

Angen help nawr

Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl a bod angen siarad arnoch, mae rhywun bob amser ar gael i wrando. Gall y llinellau cymorth am ddim hyn gynnig gwybodaeth, cyngor neu gefnogaeth i chi.

  • Samariaid
    Gallwch ffonio'r Samariaid am ddim 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ar 116 123. Os oes arnoch angen rhywun i siarad â nhw, byddan nhw'n gwrando. Ni fyddant yn barnu nac yn dweud wrthych beth i'w wneud.

    Os hoffech chi gael cefnogaeth emosiynol yn Gymraeg, gallwch ffonio'r llinell Gymraeg am ddim ar 0808 164 0123. Mae ar gael bob dydd, o 7pm tan 11pm.

  • National bullying helpline
    Llinell gymorth i helpu chi ddarganfod pa gamau gallwch chi gymryd er mwyn delio gyda bwlio yn y gweithle. Mae ar gael yn Saesneg yn unig, dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.
    Ffôn: 0300 323 0169
  • Llinell gymorth C.A.L.L.
    Llinell gymorth sy’n cynnig gwasanaeth gwrando cyfrinachol a chefnogaeth os oes angen i chi siarad â rhywun am eich iechyd meddwl. Mae ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
    Ffôn: 0800 132 737
    Tecstiwch ‘help’ i 81066
  • SHOUT
    Gwasanaeth testun 24/7, am ddim ar bob prif rwydwaith ffôn symudol i unrhyw un mewn argyfwng, unrhyw bryd, unrhyw le.
    I gysylltu â SHOUT, tecstiwch ‘FRONTLINE i 85258
  • Childline
    Os ydych chi o dan 19 oed, gallwch ffonio 0800 1111 i gael cymorth iechyd meddwl.
  • GIG Cymru Gwasanaeth cyngor a gwybodaeth am iechyd yw GIG Cymru. Ffoniwch 111, mae ar gael 24 awr y dydd, bob dydd.

Rhwydwaith 'mae eich llesiant yn bwysig'

Rydyn ni’n cynnal digwyddiadau a sesiynau rheolaidd am lesiant i reolwyr. Cadwch olwg ar ein tudalennau digwyddiadau.

Os hoffech ymuno â'n cymuned llesiant ar-lein, e-bostiwch ni ar lles@gofalcymdeithasol.cymru i gael gwybod mwy.

Cyhoeddwyd gyntaf: 28 Gorffennaf 2023
Diweddariad olaf: 19 Mawrth 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (55.7 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch