C1. Ydych chi’n cytuno bod y safonau hyfforddi hyn yn cyd-fynd â’r trefniadau diogelu presennol?
Fe wnaethoch chi ymateb:
- ydw: 93 y cant
- nac ydw: 7 y cant.
Fe ddywedoch chi wrthym fod hwn yn ddull cyson a safonol. Mae’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Diogelu yn cyd-fynd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru a byddant yn atal dyblygu yn ymarferol.
Cawsom rai awgrymiadau i gynnwys deddfwriaeth ehangach a bod angen i ni fod yn gliriach ynglŷn â hyfforddiant ar gyfer rolau a chyfrifoldebau.
C2. Ydy’r chwe grŵp (A i F) a nodir yn y safonau yn cynrychioli’r prif rolau yn y broses ddiogelu?
Fe wnaethoch chi ymateb:
- ydyn: 83 y cant
- nac ydyn: 17 y cant.
Fe ddywedoch chi wrthym fod y safonau hyfforddi’n cynnwys pob gweithiwr a bod yr hyfforddiant yn cael ei ddatblygu’n raddol.
Cawsom rai awgrymiadau y dylai’r grwpiau adlewyrchu rolau ehangach ac y dylai “chwythu’r chwiban” gael ei ddiffinio ymhellach.
C3. Ydy Grŵp A yn glir ac a yw’n rhoi digon o wybodaeth?
Fe wnaethoch chi ymateb:
- ydy: 83 y cant
- nac ydy: 17 y cant.
Fe ddywedoch chi wrthym ei fod yn glir ac yn gryno. Cawsom awgrym bod angen inni wneud y grŵp targed yn gliriach.
C4. Ydy Grŵp B yn glir ac a yw’n rhoi digon o wybodaeth?
Fe wnaethoch chi ymateb:
- ydy: 83 y cant
- nac ydy: 17 y cant.
Fe ddywedoch chi wrthym fod yna ddisgwyliadau clir a bod y ffocws yn iawn ar gyfer y rolau. Cawsom rai awgrymiadau penodol am y safonau.
C5. Ydy Grŵp C yn glir ac a yw’n rhoi digon o wybodaeth?
Fe wnaethoch chi ymateb:
- ydy: 70 y cant
- nac ydy: 30 y cant.
Fe ddywedoch chi wrthym ei fod yn wych ar gyfer cynllunio sesiynau cynefino a rheoli cymwyseddau staff. Roeddech chi’n croesawu cael y sgiliau gofynnol wedi’u nodi ac roeddech chi’n falch o weld yr agwedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn/person.
Cawsom rai awgrymiadau ynglŷn â mireinio’r grŵp hwn o ymarferwyr ymhellach a chaniatáu mwy o hyblygrwydd o ran yr hyfforddiant sydd ei angen.
C6. Ydy Grŵp D yn glir ac a yw’n rhoi digon o wybodaeth?
Fe wnaethoch chi ymateb:
- ydy: 83 y cant
- nac ydy: 17 y cant.
Fe ddywedoch chi wrthym fod y canllawiau’n glir ac yn gryno ynglŷn â’r hyn a ddisgwylir gan y grŵp hwn o ymarferwyr. Cawsom rai awgrymiadau ynglŷn â’i wneud yn gliriach ac yn fwy manwl.
C7. Ydy Grŵp E yn glir ac a yw’n rhoi digon o wybodaeth?
Fe wnaethoch chi ymateb:
- ydy: 92 y cant
- nac ydy: 8 y cant.
Fe ddywedoch chi wrthym fod defnydd clir o ddirprwyo i wahaniaethu rhwng grwpiau D ac E, ac roedd yn amlwg bod diogelu yn dal yn gyfrifoldeb i’r grŵp hwn o ymarferwyr.
Cawsom rai awgrymiadau ynglŷn â chyfeirio’n benodol at y gwaith aml-asiantaethol a ddisgwylir ar y lefel hon.
C8. Ydy Grŵp F yn glir ac a yw’n rhoi digon o wybodaeth?
Fe wnaethoch chi ymateb:
- ydy: 87 y cant
- nac ydy: 13 y cant.
Fe ddywedoch chi wrthym y byddai’r canllawiau hyn yn ddefnyddiol i annog hyfforddiant gorfodol ar gyfer y grŵp hwn. Cawsom rai awgrymiadau ynglŷn â beth i’w ychwanegu at yr hyfforddiant hwn.
C9. Ydych chi’n adnabod eich gweithlu neu eich rôl eich hun yn y disgrifiadau grŵp?
Fe wnaethoch chi ymateb:
- ydw: 77 y cant
- nac ydw: 23 y cant.
Yn gyffredinol, fe ddywedoch chi wrthym y gallech chi weld yn glir sut y byddai’r grwpiau’n mapio i’ch sefydliad. Galwodd rhai am fwy o eglurder ynglŷn â’r grwpiau a sut i reoli’r rhai a allai syrthio i “ardal lwyd”.
C10. Pa gyfleoedd y mae angen i sefydliadau feddwl amdanynt wrth ymgorffori’r safonau?
Fe ddywedoch chi: “Bydd y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Diogelu yn darparu fframwaith ar gyfer cysondeb ac yn helpu i godi ansawdd hyfforddiant diogelu ar gyfer pob ymarferwr, a’r gobaith yw y bydd yn arwain at ganlyniadau gwell mewn perthynas ag amddiffyn plant ac oedolion yng Nghymru.”
Mynegwyd rhai pryderon ynglŷn â pholisïau, gweithdrefnau a rheoliadau mewnol y mae angen eu dilyn o hyd a bod angen ystyried hyn fel rhan o’r cam gweithredu.
C11. Pa heriau y mae angen i sefydliadau eu hystyried wrth ymgorffori’r safonau?
Fe ddywedoch chi:
- “Symud o ddiwylliant o feio i ddiwylliant o ddysgu, tra’n cydnabod y dylai gweithwyr proffesiynol fod yn atebol.”
- “Mae’n beth cadarnhaol bod y safonau’n cydnabod yr heriau emosiynol sy’n gysylltiedig â gwaith diogelu o safbwynt ymarferwyr.”
- “Sicrhau bod ymarferwyr/rheolwyr yn hyderus o ran eu barn broffesiynol a bod diogelu’n gyfrifoldeb ar bawb.”
Roedd adborth arall yn cynnwys:
- “Mae’n bwysig bod sefydliadau’n gallu cael gafael ar ddeunyddiau a chyrsiau hyfforddi newydd, ac nad yw eu costau’n cynyddu’n ormodol oherwydd y galw.”
- “Lefelau staffio: oes gan sefydliadau staff cymwys a phrofiadol i ddelio â sefyllfaoedd cymhleth ac ydynt yn meddu ar y sgiliau i’w rheoli?”
- “Negeseuon a chanllawiau clir y gall yr holl staff uniaethu â nhw yn eu maes gwaith unigol eu hunain, gan roi atebolrwydd ar lefelau amrywiol i bawb, gan fod llawer yn dal i weld diogelu fel rhywbeth y dylai eu rheolwyr ddelio ag ef.”
- “Coladu ceisiadau hyfforddi/dadansoddi bylchau llwyr i sicrhau bod y rhaglen yn diwallu anghenion pob asiantaeth ac agenda ddiogelu sy’n newid o hyd.”
C12. Oes yna unrhyw beth arall y dylem ei gynnwys yn y safonau? Os felly, beth ddylai fod?
Fe ddywedoch chi wrthym eu bod “yn gynhwysfawr iawn ac wedi’u hysgrifennu’n dda”. Doedd y rhan fwyaf o’r bobl a ymatebodd ddim yn meddwl bod unrhyw beth wedi cael ei adael allan.
Cawsom rai ceisiadau penodol i gynnwys deddfwriaeth ac i bwysleisio ymhellach yr angen i rannu gwybodaeth a chwilfrydedd proffesiynol.
C13. Ydy ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn/person yn cael sylw digonol yn y safonau?
Fe wnaethoch chi ymateb:
- ydy: 90 y cant
- nac ydy: 10 y cant.
Fe ddywedoch chi wrthym fod tystiolaeth dda o hyn yn y safonau ac nad oedd angen dim mwy.
Cawsom rai awgrymiadau i gynnwys ymarfer sy’n seiliedig ar drawma ac i roi mwy o bwyslais ar gam-drin pobl hŷn a cham-drin domestig.
C14. Pa effeithiau fydd ein cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:
- cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
- peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Sut gallem ni gynyddu’r effeithiau cadarnhaol neu leihau’r rhai negyddol?
Fe ddywedoch chi wrthym y byddai’r cynigion hyn yn cael effaith fach iawn ar y Gymraeg. Cawsom rai awgrymiadau penodol am ddarparu hyfforddiant.
C15. Ydy’r safonau’n effeithio ar y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig? Y nodweddion gwarchodedig yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Fe ddywedoch chi:
“Ydyn, ond roeddem ni’n teimlo bod y safonau’n trafod hyn yn ddigonol. Er enghraifft, nodi y dylid ystyried diwylliant ethnig rhywun mewn perthynas â’r egwyddorion. Nid oeddem yn teimlo bod unrhyw ofynion pellach.”
Cawsom rai awgrymiadau ynglŷn â’r angen i fod yn hyblyg gyda’r disgwyliadau ynglŷn â hyfforddiant gloywi sy’n gysylltiedig â rhai o’r nodweddion gwarchodedig.