Rydyn ni wedi datblygu adnodd i gefnogi rheolwyr newydd gofal plant a blynyddoedd cynnar gyda’u taith i ddod yn arweinwyr.
Ar 28 Tachwedd, yn ein cynhadledd cenedlaethol gofal plant a’r blynyddoedd cynnar, byddwn ni’n lansio’r Fframwaith sefydlu Cymru gyfan (AWIF) ar gyfer rheolwyr y blynyddoedd cynnar a gofal plant
Mae’r fframwaith sefydlu wedi’i seilio ar weledigaeth Llywodraeth Cymru i gael gweithlu proffesiynol cymwysedig a medrus. Gall reolwyr newydd sy’n defnyddio’r adnodd ddysgu am yr elfennau gwybodaeth ac ymarfer pwysicaf i reoli ac arwain yn y blynyddoedd cynnar. Cant hefyd fynediad at adnoddau i gefnogi datblygiad a thwf proffesiynol.
Mae’r AWIF yn adnodd gwych i gefnogi dysgu proffesiynol parhaus (CPD), a gall rheolwyr ei defnyddio i gwrdd ag amcanion dysgu gorfodol cymwysterau rheoli ac arwain.
Gall yr AWIF hefyd helpu rheolwyr i setlo mewn i rolau newydd, a’u galluogi i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi timoedd i gynnig safonau uchaf ymarfer, gofal ac addysg sy’n seiliedig ar blant.