Jump to content
Ymunwch â'n cymuned newydd ar gyfer Unigolion Cyfrifol
Newyddion

Ymunwch â'n cymuned newydd ar gyfer Unigolion Cyfrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n lansio cymuned newydd ar gyfer Unigolion Cyfrifol.

Unigolyn Cyfrifol yw uwch gynrychiolydd darparwr gofal cymdeithasol sydd wedi’i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) fel y person sy’n gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni’r rheoliadau.

P’un a oes gennych gyfoeth o brofiad neu newydd ddechrau, mae ein cymuned yn cynnig amgylchedd cefnogol i gysylltu ag aelodau eraill a dysgu ganddynt.

Byddwn yn rhoi mynediad i blatfform ar-lein i aelodau i rannu eu syniadau, tra byddwn hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar bynciau sydd o bwys i'r gymuned.

Cofrestrwch nawr neu cysylltwch â charlotte.powell@gofalcymdeithasol.cymru am ragor o wybodaeth.

Pam ddylech chi ymuno â'r gymuned?

  • Mae’n rhad ac am ddim, ac yn agored i bob Unigolyn Gyfrifol yng Nghymru.
  • Gallwch ddefnyddio ein platfform ar-lein i rannu gwybodaeth, syniadau, digwyddiadau ac adnoddau gydag eraill.
  • Byddwn yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ar gyfer aelodau ein cymuned, lle byddwn yn canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei ddysgu oddi wrth ein gilydd a sut y gallwn roi ein dysgu ar waith.
  • Gallwch helpu i lunio’r cymuned.

Ymunwch â'n digwyddiad cyntaf!

Byddwch yn dod i adnabod aelodau eraill ac yn clywed gan Sarah Glynn Jones, Pennaeth Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant AGC, am sut mae’r rheolydd yn meincnodi ei arolygiadau.

Rydyn ni’n cynnal y digwyddiad ar Zoom am 2pm ar 15 Awst.

Ymunwch â'r gymuned i archebu eich lle a chael gwybod am ddigwyddiadau eraill sydd i ddod.