Jump to content
Ymlaen - y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella newydd ar gyfer gofal cymdeithasol
Newyddion

Ymlaen - y strategaeth ymchwil, arloesi a gwella newydd ar gyfer gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Heddiw rydyn ni wedi lansio Ymlaen, ein strategaeth ymchwil, arloesi a gwella newydd.

Nod y strategaeth hon yw creu diwylliant lle mae tystiolaeth yn ganolog i ddarpariaeth gofal cymdeithasol, a lle mae pobl yn teimlo cefnogaeth ag ysbrydoliaeth i drio pethau newydd.

Strategaeth ar y cyd yw Ymlaen. Gyda’n partneriaid, rydyn ni am greu awyrgylch cynhwysol a hygyrch lle mae ymchwil a thystiolaeth yn helpu i lywio ac ysbrydoli penderfyniadau ar bob lefel.

Rydyn ni eisiau i bobl sy’n arwain, yn datblygu ac yn darparu gofal cymdeithasol i deimlo’n hyderus i ddefnyddio tystiolaeth ac arloesedd i wneud gwahaniaeth positif i ofal a chymorth yng Nghymru.

Drwy weithio gyda’n parterniaid, byddwn ni'n:

  • Pennu cyfeiriad: nodi blaenoriaethau cyffredin ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella fel y gallwn gyfeirio sylw, adnoddau a chamau gweithredu i’r mannau lle mae eu hangen fwyaf.
  • Cysylltu: ‘uno’r dotiau’ rhwng gwahanol fathau o gymorth ar gyfer ymchwil, arloesi a gwella ym maes gofal cymdeithasol.
  • Galluogi: creu amodau sy’n galluogi newid positif a pharhaol ym maes gofal cymdeithasol.
  • Cefnogi: rhoi cymorth uniongyrchol i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i annog ymchwil, arloesi a gwella.
  • Amharu: ysbrydoli ffyrdd newydd o weithio.

Rydyn ni’n gwybod bod gwaith gwych yn digwydd ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru. Byddwn ni'n defnyddio gwybodaeth a phrofiad ymarferwyr i ganolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig ac i sicrhau newid sy'n gweithio'n ymarferol.

Bydd Ymlaen hefyd yn ein helpu i ddatblygu dealltwriaeth well o effaith ein gwaith. Mae’n bwysig ein bod ni’n dysgu’n barhaus, ac yn addasu beth rydyn ni’n ei wneud i wneud y gorau o’r effaith positif gallwn ni ei chael ar bobl sy'n darparu gofal a chymorth.

Wrth gyd-weithio gyda’n partneriaid i roi’r strategaeth ar waith, byddwn ni'n dysgu gan bobl sy’n gweithio yng ngofal cymdeithasol ac yn defnyddio gofal a chymorth, a gan ymchwil a data.

Byddwn ni’n gwerthuso ein heffaith wrth fynd ymlaen a byddwn yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â’r hyn sy'n gweithio a’r hyn nad yw'n gweithio. Byddwn ni’n hyblyg, gan ddefnyddio'r hyn rydyn ni’n ei ddysgu i addasu ein ffordd o weithredu lle bo angen.

Darllen y strategaeth

Darganfyddwch fwy trwy ddarllen y strategaeth lawn.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ymlaen@gofalcymdeithasol.cymru os hoffech wybod mwy am y strategaeth a sut byddwn ni'n ei rhoi ar waith.

Byddwn ni hefyd wrth ein bodd yn clywed gennych chi os ydych yn teimlo y gallai gwaith eich sefydliad ein helpu i gyflawni'r strategaeth.