Jump to content
Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2026
Newyddion

Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2026

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Ymunwch â ni rhwng 16 a 20 Mawrth, i ddathlu Wythnos Gwaith Cymdeithasol!

Yn ystod yr wythnos, byddwn ni'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein am ddim, ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwaith cymdeithasol, a gallwch ymuno â chymaint o ddigwyddiadau ag y dymunwch.

Byddwn ni’n:

  • dathlu effaith gadarnhaol gweithwyr cymdeithasol ledled Cymru a'r gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud bob dydd
  • archwilio rhai o'r heriau sy'n wynebu gwaith cymdeithasol heddiw a sut y gallwn ni ymateb i'r rhain gyda'n gilydd
  • rhannu dysgu a phrofiadau i gryfhau ymarfer a gwella canlyniadau.
Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar dair thema allweddol:
  • ymarfer gwaith cymdeithasol creadigol, risg, a hawliau
  • cydweithio a chydgynhyrchu i gyflawni canlyniadau gwell
  • datblygu a chynnal ymarfer hyderus.