Jump to content
Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2025
Newyddion

Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2025

| Gofal Cymdeithasol Cymru
Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2025

Wythnos yma, rydyn ni’n dathlu Wythnos Gwaith Cymdeithasol!

Mae Wythnos Gwaith Cymdeithasol yn rhoi'r cyfle i ni nodi'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud ledled y wlad, a diolch i'n gweithwyr cymdeithasol proffesiynol.

Bob dydd ledled Cymru, mae gweithwyr cymdeithasol yn dangos eu hymroddiad i gefnogi a grymuso pobl sy'n wynebu heriau cymhleth ac a allai fod mewn perygl o niwed. Rydyn ni am ddangos ein gwerthfawrogiad i weithwyr cymdeithasol proffesiynol sy'n gweithio'n galed ac sy’n grymuso a chefnogi eraill.

Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Mae gweithwyr cymdeithasol yn aml yn anweledig, yn gweithio yn aml gydag unigolion a theuluoedd yn eu cartrefi a'u cymunedau. Maen nhw’n gallu ein helpu drwy rai o heriau anodd bywyd a gwneud hynny drwy ffocysu ar ein cryfderau a beth sydd o bwys i unigolion a'u teuluoedd.

“Diolch o waelod calon i bob un gweithiwr cymdeithasol. Hoffen ni ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad, tosturi ac am ddewis y proffesiwn hwn.”

Rydyn ni wedi trefnu rhaglen o ddigwyddiadau diddorol, ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru, ac ar ddydd Mawrth 18 Mawrth byddwn ni'n dathlu Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd.

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar dair thema allweddol:

  • cryfhau ein perthnasau proffesiynol
  • cynnal ein hunaniaeth gwaith cymdeithasol
  • cefnogi ein llesiant yn y gwaith.

Bydd siaradwyr ysbrydoledig o brifysgolion, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS), yn ogystal â gweithwyr cymdeithasol ac arbenigwyr mewn meysydd fel anaf moesol a niwroamrywiaeth.

Byddwn ni hefyd yn rhannu fideos am bwysigrwydd gwaith cymdeithasol a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i fywydau pobl ledled Cymru.

Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol trwy gydol yr wythnos i weld negeseuon ysbrydoledig.

Dilynwch ni ar:

Gwyliwch ein fideos Wythnos Gwaith Cymdeithasol

Dyma neges gan Sarah McCarty, ein prif weithredwr, yn diolch i weithwyr cymdeithasol yng Nghymru am eu hymroddiad.