Mae gweithiwr gofal cartref o Sir Ddinbych wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad canfod bod ei euogfarn droseddol yn amharu ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.
Ym mis Tachwedd 2021, plediodd Mark Weaver yn euog yn Llys Ynadon Llandudno i yrru dan ddylanwad cocên a chanabis.
Yn dilyn hynny, cafodd Orchymyn Cymunedol 12 mis gyda gofyniad gweithgaredd adsefydlu a’i wahardd rhag gyrru am 23 mis.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod euogfarn droseddol Mr Weaver yn amharu ar ei addasrwydd i ymarfer ar hyn o bryd.
Gan esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Rydym yn derbyn bod y dystiolaeth sydd ger ein bron yn ymwneud ag un digwyddiad ar un diwrnod a'i fod wedi codi ar ôl gyrfa o dair blynedd o leiaf yn y sector gofal, sydd – hyd y gwyddom ni – yn ddilychwin fel arall.
“Fodd bynnag, cafodd nifer o droseddau eu cyflawni ar y diwrnod hwnnw, sy’n cynnwys cymryd dau gyffur gwahanol sydd wedi’u gwahardd gan gyfraith trosedd. Cafodd hyn ei waethygu gan yrru cerbyd modur ar ffordd gyhoeddus tra bod cyfran y cyffuriau hynny yn ei waed yn uwch na’r terfyn a bennwyd.”
Ychwanegodd y panel: “Yn anochel, mae’r ffaith bod Mr Weaver wedi cyfaddef i’r heddlu ei fod yn defnyddio cyffuriau’n rheolaidd yn codi amheuaeth ynghylch ei addasrwydd i weithio gyda phobl agored i niwed.”
Ychwanegodd y panel: “Does dim tystiolaeth o’n blaen bod Mr Weaver wedi myfyrio ynghylch sut roedd ei ymddygiad – a gyflawnwyd ryw 16 mis yn unig ar ôl iddo gael ei gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru – gryn dipyn yn is na’r safon a ddisgwylid.
“Does dim byd o’n blaenau yn ymwneud â sut mae wedi cymryd – neu sut byddai’n cymryd – mesurau i warchod rhag y risg o ymddwyn mewn ffordd debyg yn y dyfodol.
“Gan nad oes unrhyw dystiolaeth i’r gwrthwyneb, mae risg wirioneddol a phendant y gallai Mr Weaver ddychwelyd at y math hwn o ymddygiad yn y dyfodol.”
Penderfynodd y panel dynnu Mr Weaver oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Nid ydym yn credu y byddai unrhyw ymateb llai difrifol yn diogelu’r cyhoedd, ac ystyried y diffyg dirnadaeth ac adferiad yr ydym wedi cyfeirio ato’n barod, a’r ffaith nad oes tystiolaeth o’n blaenau i’n darbwyllo bod Mr Weaver yn gallu datblygu’r ddealltwriaeth sydd ei hangen i ddechrau’r broses o wneud iawn.”
Nid oedd Mr Weaver yn bresennol yn y gwrandawiad undydd a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.