Jump to content
Symleiddio eich ymholiadau am gymhwysterau gyda’n chatbot newydd!
Newyddion

Symleiddio eich ymholiadau am gymhwysterau gyda’n chatbot newydd!

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod ein datblygiad diweddaraf, y chatbot cymwysterau, wedi'i lawnsio. Mae'r chatbot hwn yn helpu defnyddwyr i ffeindio gwybodaeth am ofynion a'r prosesau cymhwyster ar gyfer eu rolau.

Yn dilyn ymchwil defnyddwyr, casglwyd adborth i ddatblygu a gwella profiad y defnyddwyr o'r chatbot. Fe’i ddyluniwyd i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i gymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Bydd defnyddio'r dechnoleg hon yn ein helpu ni i wella profiad y defnyddiwr a bydd modd i ddefnyddwyr gallu gofyn cwestiwn i'r chatbot a derbyn atebion cyflymach a chywir. Trwy sicrhau bod pob ymholiad â'r chatbot yn cael ei gofnodi'n fanwl, byddwn ni’n datblygu ymddiriedaeth ac atebolrwydd o ran sut mae cymwysterau'n cael eu hasesu drwy'r sgyrsiau hyn.

Mae'r chatbot cymwysterau'n dilyn Safon Cofnodi Tryloywder Algorithmig (ATRS) gan Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg y DU. Ei nod yw helpu'r cyhoedd i ymddiried yn y modd y defnyddir algorithmau yn y sector cyhoeddus.

Mae'r safon yn enghraifft flaenllaw ledled y byd ac yn gosod ffordd glir i sefydliadau'r sector cyhoeddus rannu gwybodaeth am eu defnydd o algorithmau wrth wneud penderfyniadau.

Gall unrhyw gorff cyhoeddus sy'n defnyddio algorithmau ddefnyddio'r safon hon. Mae'n cynnig llawer o fanteision, fel adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd, dangos arferion da, nodi unrhyw broblemau yn gynnar, a dysgu oddi wrth ei gilydd.