Jump to content
Rydyn ni wedi newid ein gofynion DPP er mwyn ei symleiddio
Newyddion

Rydyn ni wedi newid ein gofynion DPP er mwyn ei symleiddio

| Gofal Cymdeithasol Cymru

O 1 Ebrill 2025, os ydych chi wedi cofrestru gyda ni, ni fydd angen i chi gofnodi manylion eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) yn GCCarlein.

Rydyn ni'n cael gwared ar y targed oriau o DPP

Rydyn ni’n cydnabod mai’r hyn sydd bwysicaf yw ansawdd ac effaith eich dysgu fel sydd yn safonau’r Cod Ymarfer Proffesiynol. Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi dangos tystiolaeth o wneud 45 neu 90 awr o hyfforddiant bob tair blynedd.

Ni fyddwn ni’n gofyn am gofnod hyfforddiant pan fyddwch chi'n adnewyddu eich cofrestriad

Bydd angen o hyd i chi gyfarfod yn rheolaidd gyda’ch rheolwr i drafod DPP i sicrhau ei fod yn helpu i wella sut rydych chi’n darparu gofal a chymorth, a gwneud yn siŵr ei fod yn bodloni safonau’r Cod Ymarfer Proffesiynol. Gallen ni gysylltu â chi i wirio sampl o gofnodion.