Jump to content
Rhowch wybod i ni sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eich iechyd a’ch llesiant
Newyddion

Rhowch wybod i ni sut mae’r pandemig wedi effeithio ar eich iechyd a’ch llesiant

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Os ydych chi’n weithiwr cymdeithasol neu’n weithiwr gofal cymdeithasol, hoffem ni glywed gennych i ddysgu am yr heriau rydych chi wedi’i hwynebu yn ystod pandemig Covid-19 a sut rydych chi wedi ymdopi â nhw.

Gallwch rannu'ch profiadau trwy gwblhau arolwg byr 15 munud gan Brifysgol Ulster, rydyn ni wedi bod yn ei gefnogi, sy'n edrych ar sut mae'r pandemig yn effeithio ar lesiant meddyliol a bywyd gwaith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU.

Yr arolwg yw'r pedwerydd mewn cyfres sy'n archwilio iechyd a llesiant y rhai sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal Cymdeithasol yn y DU, a hoffai'r tîm ymchwil ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolygon cynharach.

Mae'r tri arolwg cyntaf wedi dangos bod llesiant meddyliol ac ansawdd bywyd gwaith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi gostwng yn sylweddol ers i'r pandemig ddechrau.

Fodd bynnag, mae canlyniadau'r trydydd arolwg yn y gwanwyn/haf 2021 wedi dangos bod cynnydd bach mewn llesiant meddyliol ac ansawdd bywyd gwaith gweithwyr ers yr ail arolwg a gynhaliwyd yn y gaeaf 2020-21.

Bydd y wybodaeth a gesglir gan yr arolygon yn cael ei defnyddio i ffurfio argymhellion ymarfer da ar gyfer rheolwyr, cyflogwyr a rheoleiddwyr ynghylch y ffordd orau i gefnogi’r gweithlu, yn ystod ac ar ôl y pandemig.

Cymerwch ran yn yr arolwg a dysgwch mwy am y prosiect.