Jump to content
Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant o’r Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol
Newyddion

Tynnu gweithiwr gofal preswyl i blant o’r Gofrestr oherwydd camymddygiad difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal preswyl i blant o Wynedd wedi cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei addasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.

Clywodd y gwrandawiad fod Luke Foster, ym mis Mai 2020, wedi ysmygu cyffuriau anghyfreithlon tra ar ddyletswydd mewn cartref plant, a oedd yn gartref i bobl ifanc â hanes o gamddefnyddio sylweddau.

Dywedwyd wrth y panel bod Mr Foster, mewn cyfarfod gyda’i gyflogwr yn ddiweddarach y mis hwnnw, wedi cyfaddef ysmygu canabis tra ar ddyletswydd, a dywedodd ei fod yn “wirioneddol ddrwg ganddo.”

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod addasrwydd Mr Foster i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd ei gamymddygiad difrifol.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel: “Mae ymddygiad Mr Foster yn ddifrifol. Roedd yn ysmygu cyffur anghyfreithlon pan roedd ar shifft ac yn gyfrifol am les unigolion sy’n agored i niwed sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth. Roedd y ffaith fod Mr Foster o dan ddylanwad cyffuriau yn ystod ei shifft wedi rhoi’r bobl ifanc mewn perygl o niwed posibl.”

Ychwanegodd y panel: “Nid ydym ni wedi derbyn unrhyw dystiolaeth fod Mr Foster wedi cymryd camau i adfer ei ymddygiad ers y digwyddiad.

“Yn anffodus, yn absenoldeb ymgysylltiad a thystiolaeth o adferiad, ni allwn fod yn hyderus, pe byddai mewn sefyllfa debyg, dan straen eto, na fyddai’n ymateb mewn modd tebyg.

“Felly, ni allwn fod yn hyderus na fydd ei ymddygiad yn debygol iawn o ddigwydd eto.”

Penderfynodd y panel dynnu Mr Foster oddi ar y Gofrestr, gan ddweud: “Byddai hyder yn y proffesiwn gofal cymdeithasol yn cael ei danseilio trwy ganiatáu i Mr Foster barhau ar y Gofrestr mewn amgylchiadau lle mae wedi methu ymgysylltu nac adfer ei ymddygiad.

“Rydym o’r farn bod Gorchymyn Dileu yn gymesur ac yn angenrheidiol i ddiogelu’r cyhoedd a budd ehangach y cyhoedd.”

Nid oedd Mr Foster yn bresennol yn y gwrandawiad undydd, a gynhaliwyd dros Zoom yr wythnos diwethaf.