Mae’r bleidlais nawr ar agor i ddewis enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2025.
Mae’r wobr yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr cyflogedig ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar sy’n darparu gofal rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae chwech gweithiwr wedi’u dewis gan banel o feirniaid arbenigol i gyrraedd rownd derfynol y wobr eleni. Y chwech sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw:
- Dafydd Beatie, gweithiwr cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
- Leah Davies, rheolwr cofrestredig, Mental Health Care UK Ltd
- Myfanwy Harman, rheolwr, Cylch Meithrin y Gurnos
- Shan Jones, gweithiwr gofal cartref, My Choice Healthcare
- Sharon Parry, rheolwr cartref preswyl i blant, Keys Group
- Rhiannon Faulkner, cyfarwyddwr, Meithrinfa Joio Day Nursery
Rydyn ni nawr yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i bleidleisio dros y person maen nhw’n meddwl dylai gael ei goroni’n enillydd y wobr Gofalu gofalu trwy’r Gymraeg 2025.
Mae’r bleidlais ar agor tan 1 Awst. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ar 7 Awst.
Dywedodd Sarah McCarty, ein Prif Weithredwr: “Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2025 a diolch i bawb a enwebodd weithiwr.
“Mae’r gallu i dderbyn gofal a chymorth gan rywun sy’n gallu siarad eich iaith yn rhan bwysig o dderbyn gofal urddasol, o ansawdd uchel.
“Cawsom ni safon uchel o geisiadau ac mae’r chwech sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dangos ystod y gofal rhagorol sy’n cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg ledled Cymru.
“Hoffwn i annog i bawb i ddangos eich cefnogaeth i’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg a’r chwech gweithiwr gwych sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol drwy bleidleisio dros y gweithiwr y credwch chi y dylid ei enwi yr enillydd.”