Jump to content
Pleidleisiwch dros enillydd gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2024
Newyddion

Pleidleisiwch dros enillydd gwobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2024

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae pleidleisio nawr ar agor i ddewis enillydd y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2024.

Mae’r wobr yn cydnabod ac yn dathlu gweithwyr cyflogedig ym maes gofal cymdeithasol, gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar sy’n darparu gofal rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae pump gweithiwr wedi’u dewis gan banel o feirniaid arbenigol i gyrraedd rownd derfynol y wobr eleni. Y pump sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw:

  • Abbie Edwards, Rheolwr Cofrestredig, Haulfryn Care Limited
  • Sian Jones, Rheolwr Busnes, Cartref Preswyl Dewi Sant
  • Myfanwy Harman, Arweinydd, Cylch Meithrin y Gurnos
  • Elain Fflur Morris, Uwch Ofalwr, Cartref Bryn yr Eglwys
  • Leone Williams, Gweithiwr gofal cymdeithasol, Canolfan Adnoddau Cae Glas

Rydyn ni nawr yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i bleidleisio dros y person maen nhw’n meddwl dylai gael ei goroni’n enillydd y wobr Gofalu gofalu trwy’r Gymraeg 2024.

Mae’r bleidlais ar agor tan 5pm, 31 Gorffennaf. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ar 6 Awst.

Dywedodd Sue Evans, ein Prif Weithredwr: “Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg 2024 a diolch i bawb a enwebodd weithiwr.

“Mae’r gallu i dderbyn gofal a chymorth gan rywun sy’n gallu siarad eich iaith yn rhan bwysig o dderbyn gofal urddasol, o ansawdd uchel.

“Cawsom safon uchel o geisiadau ac mae’r pump sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn dangos ystod y gofal rhagorol sy’n cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg ledled Cymru.

“Hoffwn i annog i bawb i ddangos eich cefnogaeth i’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg a’r pump gweithiwr gwych sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol drwy bleidleisio dros y gweithiwr y credwch chi y dylid ei enwi yr enillydd.”