Jump to content
'Cafodd ein paneli o feirniaid waith anodd iawn wrth ddewis y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol y Gwobrau'
Newyddion

'Cafodd ein paneli o feirniaid waith anodd iawn wrth ddewis y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol y Gwobrau'

| Sarah McCarty, Chief Executive

Rydyn ni'n anfon e-fwletin rheolaidd at bawb ar ein Cofrestr. Mae pob e-fwletin yn cynnwys neges gan ein Prif Weithredwr, Sarah McCarty.

Dyma neges Sarah o e-fwletin Mai 2025 yn ei gyfanrwydd.

Shwmae a chroeso i'n e-fwletin diweddaraf.

Y mis hwn, rydw i am ganolbwyntio ar ddathlu'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud ar draws gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gwasanaethau gofal plant.

Yn gynharach y mis hwn fe wnaethon ni cynnal y Gwobrau, ein seremoni wobrwyo flynyddol sy'n dathlu ystod o wasanaethau, timau ac ymarfer unigol.

Cawsom 127 o geisiadau ac roeddwn i eisiau diolch i bawb a gymerodd amser i gyflwyno cais. Cafodd ein panel o feirniaid waith anodd iawn wrth ddewis y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol.

Gallwch ddarganfod mwy am y rhai cyrhaeddodd y rownd derfynol a'n henillwyr yn ddiweddarach yn y bwletin hwn.

Rwy'n gwybod y gofal grymuso a person-ganolog rydych chi'n ei ddarparu i unigolion a theuluoedd yn ein holl gymunedau, ond mae'r Gwobrau yn rhoi cyfle i ni ddathlu hyn yn ehangach. Maen nhw'n helpu ni i roi hyder i ddinasyddion sydd efallai ddimyn defnyddio gofal eto yn ansawdd y cymorth sydd ar gael, yn ogystal ag ysbrydoli unigolion i ystyried gyrfa mewn gofal a rhannu gwahanol arloesiadau a syniadau ar draws gwasanaethau.

Ystyriwch wneud cais mewn dyfarniadau yn y dyfodol. Byddwn yn rhannu manylion yn y bwletin.

Rydyn ni hefyd yn dathlu pen-blwydd blwyddyn y Grŵp Gwybodaeth mis yma. Mae'r wefan yn darparu mynediad am ddim at ystod o gymorth, gan gynnwys tystiolaeth, cymunedau digidol ac arferion cadarnhaol i lywio eich gwaith.

Os nad ydych wedi defnyddio'r adnoddau eto, edrychwch. Rydyn ni’n ehangu'r adnoddau drwy'r amser, gan gydnabod bod meysydd rydych chi wedi dweud wrthym eu bod yn flaenoriaeth ar gyfer mwy o wybodaeth, mewnwelediadau neu gefnogaeth.

Diolch am bopeth rydych chi'n ei wneud i gefnogi unigolion sy'n defnyddio gofal a chefnogaeth. Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau darllen yr e-fwletin.

Sarah