Mae’n bleser gennym ni i gyhoeddi ein bod bellach yn edrych am noddwyr ar gyfer y Gwobrau 2026.
Mae ein Gwobrau blynyddol yn dathlu ac yn rhannu’r gwaith arbennig sy’n cael ei wneud ym maes gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Trwy noddi Gwobrau 2026, gallwch:
- ddangos eich cefnogaeth i dimau, prosiectau, sefydliadau a gweithwyr sy’n gwneud cymaint i gefnogi eraill yn ein cymunedau
- helpu i godi safonau gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol a gofal plant, chwarae a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru
- cael eich cysylltu â rhagoriaeth a chyflawniad.
Mae ceisiadau nawr wedi cau ac mae’r beirniadu yn mynd rhagddo. Byddwn yn cyhoeddi enillwyr ein saith categori mewn seremoni wobrwyo yn haf 2026.