Jump to content
Mae eich GCCarlein newydd yma
Newyddion

Mae eich GCCarlein newydd yma

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Gallwch chi nawr mewngofnodi i'ch cyfrif a diweddaru eich cofrestriad yn haws.  

Bydd y wybodaeth rydych chi wedi arfer ei gweld yn parhau i fod ar GCCarlein ond mae’n cael ei chyflwyno mewn ffordd wahanol. Mae'n wyrdd yn lle coch, ac mae’r cynllun yn fwy clir. Bydd yn haws ei ddefnyddio, yn enwedig os ydych chi’n defnyddio ffôn symudol.  

Rydyn ni wedi gwneud yn siŵr eich bod chi’n gallu cael gafael ar bethau pwysig fel eich: 

  • rhif cofrestru 
  • enw cyflogwr 
  • eich datblygiad proffesiynol parhaus 
  • dyddiadau pwysig. 

Os ydych chi’n gyflogwr, byddwch yn gweld negeseuon atgoffa ac awgrymiadau i’ch helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gofrestriad eich gweithlu. 

Fel rhan o’n hymrwymiad i wella GCCarlein yn barhaus, byddwn ni'n parhau i wrando ar eich syniadau ac yn gweithio i wneud GCCarlein yn well. 

Gwyliwch y fideo yma i ddysgu mwy am beth sydd wedi newid