Rydyn ni wedi lansio canllaw i weithwyr sy'n newydd i weithio ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn darparu gofal a chymorth hanfodol i'r bobl sy'n byw yma, ac rydyn ni'n croesawu ac yn gwerthfawrogi eich cyfraniad.
Rydyn ni wedi casglu rhai o'n hadnoddau mewn un lle cyfleus ar ein gwefan i chi eu defnyddio i'ch helpu i ymgartrefu. Rydyn ni wedi creu'r canllaw hwn i'ch helpu chi i deimlo'n gartrefol ac yn rhan o'r gymuned yng Nghymru.
Fe welwch chi wybodaeth am yr iaith a'r diwylliant Cymraeg, adnoddau i gefnogi eich lles, ac ychydig mwy am ein rôl ni.