Jump to content
Gwahardd gweithiwr gofal cartref am chwe mis oherwydd camymddygiad difrifol
Newyddion

Gwahardd gweithiwr gofal cartref am chwe mis oherwydd camymddygiad difrifol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae gweithiwr gofal cartref o Borthcawl wedi cael ei gwahardd am chwe mis ar ôl i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru ganfod bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.

Dywedwyd wrth y gwrandawiad deuddydd fod Nakita Evans, ym mis Gorffennaf 2020, wedi ymosod ar aelod o'r cyhoedd y tu allan i'w cartref. Cafodd yr ymosodiad ei ffilmio a'i rannu gyda chyflogwr Ms Evans, ac yna cafodd Ms Evans ei gwahardd dros dro o'i rôl.

Clywodd y panel hefyd fod Ms Evans, ym mis Medi 2020, wedi postio gwybodaeth gyfrinachol am blant yr un person, a oedd yn cael eu monitro gan y gwasanaethau cymdeithasol, ar y cyfryngau cymdeithasol.

Wrth ymddangos gerbron y panel dros Zoom yr wythnos diwethaf, cyfaddefodd Ms Evans y camymddygiad difrifol, gan ddweud wrth y panel ei bod wedi myfyrio ar ei hymddygiad a chymryd rhai camau i unioni ei hymddygiad.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daeth y panel i'r casgliad bod gweithredoedd Ms Evans yn methu bodloni’r safonau a nodir yn y Cod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol.

Penderfynodd y panel felly fod addasrwydd i ymarfer Ms Evans wedi amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddygiad difrifol.

Wrth esbonio ei benderfyniad, dywedodd y panel wrth Ms Evans: "Mae eich hymddygiad yn ddifrifol. Gwnaethoch ymosod ar unigolyn ac o bosibl rhoi defnyddwyr gwasanaethau cymorth mewn perygl o niwed drwy bostio copi o lythyr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a sensitif ar Facebook."

Ychwanegodd y panel: "Cydnabyddir eich bod wedi dangos mewnwelediad rhannol i'ch ymddygiad ac wedi derbyn eich camweddau eich hun, i'ch cyflogwr fel rhan o'u proses ddisgyblu ac i Ofal Cymdeithasol Cymru.

"Pan ofynnwyd i chi am eich mewnwelediad i ganlyniadau eich gweithredoedd, nid oeddem yn dawel ein meddwl eich bod yn deall graddau llawn yr hyn a allai fod wedi digwydd, yn enwedig mewn perthynas â phostio'r... llythyr ar Facebook. Felly, nid ydym yn fodlon eich bod wedi dangos dealltwriaeth lawn o ganlyniadau posibl eich gweithredoedd.

"O ganlyniad, ni allwn fod yn hyderus ar hyn o bryd na fyddai eich ymddygiad yn cael ei ailadrodd yn y dyfodol. Felly, nid ydym yn dawel ein meddwl nad ydych bellach yn peri risg i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth."

Penderfynodd y panel wahardd Ms Evans rhag gweithio mewn rôl gofal cymdeithasol gofrestredig yng Nghymru am chwe mis o fis Chwefror 2022. Bydd hyn yn cael ei adolygu mewn pedwar mis. Esboniodd y panel ei benderfyniad, gan ddweud wrth Ms Evans: "Rydym o'r farn bod y cyfnod gwahardd yn rhoi cyfle i chi gymryd camau i fodloni panel adolygu yn y dyfodol eich bod wedi unioni eich ymddygiad yn llawn drwy ddeall risgiau camddefnyddio data personol cyfrinachol a sensitif, datblygu mewnwelediad llawn i ganlyniadau posibl eich gweithredoedd a darparu tystiolaeth a fydd yn tawelu meddwl y panel nad ydych bellach yn peri risg i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth."