Jump to content
Gan ddymuno hwyl fawr i'n Prif Weithredwr Sue Evans – diolch Sue!
Newyddion

Gan ddymuno hwyl fawr i'n Prif Weithredwr Sue Evans – diolch Sue!

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Heddiw rydyn ni’n ffarwelio â’n Prif Weithredwr Sue Evans, sy’n ymddeol ar ôl wyth mlynedd wrth y llyw gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a gyrfa 32 mlynedd yn y sector cyhoeddus.

Dywedodd Mick Giannasi, ein Cadeirydd: “O dan arweiniad Sue, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi esblygu i fod yn gorff cyhoeddus y gellir ymddiried ynddo a’i werthfawrogi, sy’n cyflawni ei addewidion ac yn darparu amgylchedd gwerth chweil a chefnogol i’n pobl weithio ynddo.

“Wrth wraidd ei llwyddiant mae ei hegni a’i hangerdd di-ben-draw am ofal cymdeithasol, ei phenderfyniad diflino i wella bywydau pobl yng Nghymru sydd angen gofal a chymorth ac arddull arweinyddiaeth ofalgar sy’n canolbwyntio ar bobl, ac sy’n cymell ac yn ysbrydoli eraill ar bob lefel i roi eu gorau.

“Mae llawer i'w wneud o hyd i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r sector gofal cymdeithasol. Ond gall Sue ymddeol gan wybod ei bod wedi creu seiliau cadarn i’w holynydd adeiladu arnynt a gadael gwaddol, a fydd yn para am flynyddoedd lawer i ddod.”

Daeth Sue yn Brif Weithredwr i’n sefydliad rhagflaenol, Cyngor Gofal Cymru, yn 2016, gan oruchwylio ei drawsnewidiad i Ofal Cymdeithasol Cymru y flwyddyn ganlynol.

Dan arweiniad Sue, mae’r Gofrestr o Weithwyr Gofal Cymdeithasol wedi tyfu o 11,000 i fwy na 60,000 o bobl, wrth ychwanegu gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr gofal cartref.

Mae hyn yn golygu bod mwy na 80 y cant o’r gweithlu bellach yn cael eu rheoleiddio a’u cefnogi i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd da ledled Cymru.

Mae Sue hefyd wedi goruchwylio datblygiad cymwysterau galwedigaethol newydd ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant, a phorth swyddi sy’n ddarparu siop-un-stop ar gyfer cyflogwyr a cheiswyr gwaith yng Nghymru.

Ar ben hynny, bu Sue a’i thîm yn gweithio ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddatblygu’r strategaeth gyntaf ar y cyd ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ac yn fwy diweddar, mae tîm Sue wedi sefydlu ystod eang o wasanaethau i gefnogi'r sector gydag ymchwil, data ac arloesi.

I nodi ei gyrfa eithriadol yn y sector cyhoeddus, dyfarnwyd OBE i Sue yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin yn ddiweddar am ei gwasanaethau i ofal cymdeithasol.

Diolch yn fawr iawn Sue! Rydyn ni’n dymuno pob lwc i chi a chofion gofau ar gyfer y bennod newydd gyffrous hon yn eich bywyd.

Bydd Sarah McCarty, ein Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu presennol, yn camu i’w rôl newydd fel Prif Weithredwr o ddydd Llun, 29 Gorffennaf.