Jump to content
Gallwch chi fod yn un o'n haelodau panel addasrwydd i ymarfer ni?
Newyddion

Gallwch chi fod yn un o'n haelodau panel addasrwydd i ymarfer ni?

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni'n recriwtio aelodau panel i’n helpu ni i gadw pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru yn ddiogel.

Yn Ofal Cymdeithasol Cymru rydyn ni'n arwain ar reoleiddio a datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae gennym ni mwy na 62,000 o weithwyr ar ein Cofrestr sy’n rhoi gofal a chymorth pwysig i’r plant a’r oedolion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru. Mae gan weithwyr gofal cymdeithasol a gweithwyr cymdeithasol rôl hanfodol yn ein cymunedau heddiw.

Gall unrhyw un godi pryder gyda ni os ydyn nhw'n meddwl nad yw ymarfer rhywun yn cyrraedd y safonau disgwyliedig. Mae ein tîm addasrwydd i ymarfer yn ymchwilio i unrhyw bryderon sy'n cael eu codi ac mae rhai achosion yn cael eu hystyried gan banel annibynnol, sy’n cynnwys y bobl rydyn ni am eu recriwtio.

Gallwch chi helpu i gynnal y safonau uchel o ofal yn y sector gofal cymdeithasol drwy ddod yn aelod panel.

Rydyn ni'n chwilio am bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd, yn weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol profiadol a’r rhai sydd ddim yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.