Jump to content
Diweddariadau i'n porth data yn gwneud data gofal cymdeithasol yn haws i gael mynediad ato a'i ddeall
Newyddion

Diweddariadau i'n porth data yn gwneud data gofal cymdeithasol yn haws i gael mynediad ato a'i ddeall

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi diweddaru Porth Data Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol Cymru gyda golwg newydd a mwy o nodweddion i’ch cefnogi yn eich gwaith.

Mae’r porth data yn siop un stop ar gyfer data gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae’n cynnwys data am ofal cymdeithasol ei hun a rhai o’r pethau a allai effeithio ar alw ac angen, fel iechyd, amddifadedd a’r boblogaeth.

Rydyn ni’n cael y data o amrywiaeth o ffynonellau. Daw llawer o’r data ar ofal cymdeithasol o gasgliadau sy'n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru, fel y Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth. Daw data arall gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac awdurdodau lleol. Mae'r porth hefyd yn cynnwys ein data cofrestru ein hunain.

Beth sy'n newydd?

  • Mae setiau data newydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i chi ddewis pa wybodaeth hoffech chi ei gweld mewn gwahanol fathau o dablau, graffiau a siartiau.
  • Mae mwy o fathau o graffiau i'w harchwilio, a gallwch nawr weld sawl mesur ar yr un graff.
  • Mae cynllun lliw’r porth data hefyd wedi’i ddiweddaru i adlewyrchu'r Grŵp Gwybodaeth – ein gwasanaeth ymchwil, data, arloesi a gwella newydd.

Gwneud synnwyr o'r data

Rydyn ni hefyd yn ychwanegu crynodebau data i’r porth, i’ch helpu i wneud synnwyr o’r data sy’n cael ei gasglu ym maes gofal cymdeithasol.

Bydd y crynodebau'n amlygu tueddiadau mewn setiau data, yn rhoi mwy o gyd-destun iddyn nhw, neu'n gwneud cysylltiadau rhwng y data a'r ymchwil.

Rydyn ni eisoes wedi cyhoeddi pedwar crynodeb a byddwn yn ychwanegu mwy dros amser.

Y crynodebau data sydd eisoes ar y porth yw:

Darganfod mwy

Mae Claire Miller, ein Harweinydd Porth Data, wedi ysgrifennu blog sy’n disgrifio’r newidiadau sydd wedi’u gwneud i’r porth yn fanylach.

Mae'r blog yn amlygu gwerth y setiau data newydd ac yn darparu dadansoddiad o'r gwahanol fathau o graffiau y bydd gennych chi fynediad iddyn nhw ar y porth nawr.

Ewch i’n gwefan Grŵp Gwybodaeth i ddarllen blog Claire.

Cysylltwch

Os oes gennych chi unrhyw adborth neu gwestiynau, neu os hoffech chi awgrymu pwnc ar gyfer crynodeb data, anfonwch e-bost at data@gofalcymdeithasol.cymru.