Jump to content
Defnyddiwch ein dangosfwrdd newydd i weld y data diweddaraf am y gweithlu cofrestredig
Newyddion

Defnyddiwch ein dangosfwrdd newydd i weld y data diweddaraf am y gweithlu cofrestredig

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydyn ni wedi datblygu dangosfwrdd newydd a fydd yn ei gwneud hi'n haws i chi ddarganfod mwy am y gweithlu gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.

Bydd y dangosfwrdd yn rhoi trosolwg i chi o rai o'r data sydd gennym ni fel rhan o'n Gofrestr, a gallwch ei deilwra i ddangos y wybodaeth sydd o ddiddordeb mwyaf i chi.

Bydd yr offeryn newydd hwn yn ei gwneud hi'n haws i chi ddod o hyd i atebion i gwestiynau a allai fod gennych chi am y gweithlu cofrestredig.