Jump to content
Datganiad Gofal Cymdeithasol Cymru am ddigwyddiadau'r wythnos diwethaf
Newyddion

Datganiad Gofal Cymdeithasol Cymru am ddigwyddiadau'r wythnos diwethaf

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn credu bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol, ac mae rhoi parch at holl bobl Cymru yn reiddiol i ni.

Rydyn ni wedi cael ein brawychu gan yr ymddygiad hiliol a threisgar ar draws rhannau o’r DU. Rydyn ni’n parhau i fod yn ymrwymedig i Gymru wrth-hiliol, ac yn sefyll yn erbyn hiliaeth o bob math.

Rydyn ni’n croesawu amrywiaeth y gweithlu gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant, sy’n chwarae rhan hollbwysig yn ein holl gymunedau, gan gefnogi a grymuso unigolion o bob cenedl, ffydd ac ethnigrwydd. Rydyn ni’n cydnabod eich ymroddiad, a’ch cefnogaeth ar gyfer yr unigolion mwyaf agored i niwed ym mhob cymuned yng Nghymru.

Ond rydym hefyd yn cydnabod y gall digwyddiadau fel y rhain fod yn frawychus ac yn ofidus.

Peidiwch â bod ofn estyn allan at gydweithwyr neu eich rheolwyr os oes angen cymorth arnoch, neu os ydych chi’n teimlo y gallai rhywun arall fod yn cael trafferth, yn enwedig cydweithwyr sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan hiliaeth.

Ac wrth gwrs mae help ar gael ar-lein ar ein gwefan neu drwy Canopi, y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl cyfrinachol am ddim i staff gofal cymdeithasol a’r GIG yng Nghymru sy’n 18 oed a hŷn.