Jump to content
Bydd cyllid newydd yn ein helpu i gefnogi diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol
Newyddion

Bydd cyllid newydd yn ein helpu i gefnogi diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol

| Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae ein gwaith i ymgorffori diwylliannau cadarnhaol o fewn gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi cael hwb diolch i gyllid gan raglen Better Careers for Better Care y Rayne Foundation.

Mae y Rayne Foundation yn cefnogi rhaglenni sy'n creu ac yn hyrwyddo newid cymdeithasol cadarnhaol. Bydd y cyllid yn ein galluogi i weithio gyda darparwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru i ddysgu am eu profiadau o gefnogi a mesur diwylliannau cadarnhaol o fewn eu sefydliadau. Yna byddwn yn defnyddio ein canfyddiadau i ddylunio a phrofi ffyrdd o ymgorffori diwylliannau cadarnhaol ar draws gofal cymdeithasol.

Dwy fenyw yn chwerthin wrth olchi llestri

Beth yw diwylliannau cadarnhaol?

Mae diwylliannau cadarnhaol yn cynnwys creu amgylcheddau gweithle diogel lle mae tosturi, parch a grymuso wrth wraidd gofal cymdeithasol.

Mae ein gwaith a'n hymchwil ar ddiwylliannau cadarnhaol yn dangos cysylltiadau clir rhwng sefydliadau sydd â diwylliant da a gwell canlyniadau llesiant i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth a'r bobl sy'n gofalu amdanynt.

Sut rydyn ni'n cefnogi diwylliannau cadarnhaol

Ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Cymru, yn ddiweddar fe wnaethon ni lansio canllaw newydd Cefnogi diwylliannau cadarnhaol i helpu arweinwyr a rheolwyr gofal cymdeithasol i adeiladu a thyfu diwylliannau cadarnhaol yn eu sefydliadau.

Wrth i ni symud ymlaen â'n gwaith gyda y Rayne Foundation, byddwn ni’n gwahodd darparwyr gofal cymdeithasol i rannu eu profiadau o gefnogi a mesur diwylliannau cadarnhaol yn eu sefydliadau. Byddwn ni’n ceisio darganfod pa ddulliau sydd wedi'u profi, beth sydd wedi gweithio iddyn nhw, yr heriau maen nhw wedi'u profi a pha gymorth pellach sydd ei angen arnynt.

Wrth sôn am y dyfarniad ariannu, dywedodd Holly Baine, arweinydd datblygu'r rhaglen ar gyfer y Rayne Foundation:

"Dyma ein prosiect cyntaf yng Nghymru o fewn y rhaglen ariannu Better Careers for Better Care, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i gefnogi dysgu ar sut i weithredu diwylliannau cadarnhaol mewn gofal cymdeithasol i oedolion a mesur ei effaith ar y gweithlu ac ansawdd gofal i bobl hŷn."

Dywedodd Lisa Trigg, ein Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu:

"Mae gan bobl sydd â phrofiad byw, darparwyr, comisiynwyr a rheoleiddwyr i gyd rôl wrth arwain, dylanwadu a galluogi diwylliannau cadarnhaol.

"Rydyn ni’n gyffrous i fod yn gweithio ochr yn ochr â'r Rayne Foundation a phartneriaid yng Nghymru i gydgynhyrchu, profi a nodi'r ffyrdd gorau o gefnogi darparwyr i feithrin diwylliannau cadarnhaol yn eu sefydliadau a'u gwasanaethau".

I ddarganfod mwy am ein gwaith yn cefnogi diwylliannau cadarnhaol, cysylltwch â ni drwy diwylliannaucadarnhaol@gofalcymdeithasol.cymru