Mae prosiect o Sir Gaerfyrddin sy’n helpu preswylwyr i fyw a heneiddio’n dda, gwasanaeth cymorth i deuluoedd o Flaenau Gwent a gwarchodwr plant o’r Barri ymhlith enillwyr y Gwobrau 2025.
Y Gwobrau yw ein gwobrau blynyddol sy’n dathlu ac yn rhannu gwaith rhagorol ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Cyflwynwyd gwobrau i chwe enillydd yn y seremoni eleni a gynhaliwyd yng Ngwesty Holland House Caerdydd ddydd Iau, 1 Mai.
Cafodd y gwobrau, a noddwyd gan Llais, BASW Cymru, Hugh James, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Practice Solutions, eu cyflwyno gan y darlledwr adnabyddus Garry Owen a Phrif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sarah McCarty.
Roedd dros 125 o brosiectau a gweithwyr gofal o bob cwr o Gymru wedi cymryd rhan neu wedi cael eu henwebu ar gyfer y gwobrau eleni. Yna, fe wnaeth panel o feirniaid arbenigol eu cwtogi i restr fer derfynol o 11 prosiect a saith gweithiwr.
Roedd y beirniaid yn cynnwys aelodau o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru, cynrychiolwyr o sefydliadau ar draws y meysydd gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar, a phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gofal a chymorth.
Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: "Mae'r Gwobrau yn dangos y rhagoriaeth ar draws ein sectorau gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Mae eu hymroddiad a'u tosturi yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl bob dydd.
"Wrth i ni nodi 20 mlynedd o'r gwobrau hyn, rydw i'n hynod falch o ddathlu'r unigolion a'r prosiectau rhagorol hyn sy'n esiampl o'r gofal a'r gefnogaeth orau yng Nghymru. Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr haeddiannol a phawb a enwebwyd."
Dywedodd Mick Giannasi CBE, Cadeirydd Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae’r bobl a’r sefydliadau sy’n darparu gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn wirioneddol amhrisiadwy. Rydyn ni’n gwybod, er gwaethaf yr heriau sylweddol maen nhw’n eu hwynebu, eu bod yn parhau i ddarparu gofal a chymorth rhagorol i rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed.
“Mae’r bobl a’r prosiectau rydyn ni wedi’u cydnabod heddiw yn rhoi cipolwg i ni ar ehangder gwaith y sector gofal yng Nghymru a’r gwahaniaeth enfawr y mae gofal a chefnogaeth yn ei wneud i fywydau pobl.
“Mae eleni’n nodi 20fed penblwydd y Gwobrau ac yn yr amser hwnnw, rydyn ni wedi dathlu cannoedd o brosiectau ac unigolion rhyfeddol. Mae digwyddiadau fel yr rhain mor bwysig os yr ydym am barhau â’n gwaith o godi proffil y cyhoedd o’r gwasanaethau gofal a chymorth hanfodol a ddarperir i blant, oedolion a theuluoedd o ddydd i ddydd ledled Cymru.”
Ychwanegodd Sarah McCarty: “Eleni, roeddem yn falch iawn o dderbyn yr ail nifer fwyaf o geisiadau ac enwebiadau erioed ers sefydlu’r gwobrau 20 o flynyddoedd yn ôl.
“Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cofrestru neu enwebu timau neu weithwyr oherwydd mae’n golygu y gallwn ni barhau â’r gwaith hynod bwysig hwn o gydnabod, dathlu a rhannu rhagoriaeth mewn gofal.
“Llongyfarchiadau i bob un o’n henillwyr haeddiannol. Mae mor bwysig ein bod ni’n cymryd yr amser hwn i gydnabod, dathlu a rhannu eich llwyddiannau, ac yn hollbwysig – i ddiolch i chi am bopeth rydych chi’n ei wneud. Felly diolch yn fawr!
“Mae yna rai unigolion a gwasanaethau eithriadol yn y gwobrau, a byddwn yn cyhoeddi’r fideos ar ein gwefan i gefnogi’r broses o rannu’r arfer hwn ledled Cymru.”