Helo, Sarah ydw i, Prif Weithredwr newydd Gofal Cymdeithasol Cymru.
Dechreuais yn y rôl ddiwedd Gorffennaf, felly rwy wedi bod yn y rôl ers ychydig dros chwe wythnos erbyn hyn ac roeddwn i’n gobeithio defnyddio’r golofn hon i rannu pwysigrwydd y sectorau gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gael yn ein holl gymunedau.
Efallai na welwch chi nhw oherwydd eu bod yn gweithio mewn amrywiaeth o leoedd, gan gynnwys adeiladau cymunedol, cartrefi pobl, cartrefi gofal neu feithrinfeydd.
Ond maen nhw’n chwarae rôl hanfodol wrth alluogi pobl i wneud beth sy’n bwysig iddyn nhw a’u cynorthwyo nhw i gadw’n ddiogel.
Mae’r gwasanaethau hyn yn cynorthwyo pobl o bob oedran a bydd ar bob un ohonom ni angen eu defnyddio ar ryw adeg.
Mae dathlu a rhannu gwaith rhagorol ein gweithwyr gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gofal plant yn rhywbeth rwy’n awyddus i ganolbwyntio arnynt.
O’r hyn y mae gweithwyr wedi’i ddweud wrthym ni, rydyn ni’n gwybod bod llawer ohonyn nhw’n teimlo nad yw'r cyhoedd yn gwerthfawrogi’r gwaith amhrisiadwy a wnânt. Rwy’n benderfynol o newid hyn trwy godi ymwybyddiaeth a gwella proffil ein gweithlu.
Un o’n ffyrdd o wneud hyn yw trwy ein Gwobrau, sy’n cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu rhagoriaeth mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.
Wythnos yma, byddwn ni’n lansio Gwobrau 2025 ac yn gofyn i sefydliadau a thimau ymgeisio am wobr neu enwebu gweithwyr sy’n darparu gofal a chymorth eithriadol.
Bydd y seremoni wobrwyo fis Mai nesaf yn nodi 20fed pen-blwydd y Gwobrau.
Mae’r gwobrau wedi mynd o nerth i nerth, ond hoffwn i gael mwy o geisiadau ac enwebiadau nag erioed yn 2025, yn enwedig gan ei fod yn ben-blwydd arbennig.
Felly, os ydych chi’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar neu ofal plant, meddyliwch am wneud cais am y gwobrau eleni.
Neu, os ydych chi’n gwybod am weithiwr sy’n haeddu cael eu cydnabod am eu gwaith, beth am eu henwebu am wobr?
Cewch wybodaeth am y gwobrau a sut i wneud cais neu enwebu gweithiwr ar ein gwefan yn nes ymlaen wythnos yma. Y dyddiad cau yw 1 Tachwedd 2024.
Yn y dyfodol, bydda i’n rhannu rhywfaint o’r gwaith gwych rydyn ni’n ei ddarganfod trwy’r Gwobrau.
I orffen y dathliad hwn, hoffwn i sôn am un o’r digwyddiadau cyntaf y cefais i’r pleser o gael mynd iddo, sef seremoni wobrwyo Gofalu trwy’r Gymraeg, a gynhaliwyd ar 6 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd.
Mae’r wobr hon yn cydnabod gweithwyr gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl trwy eu defnydd o’r Gymraeg.
Mae gallu derbyn gwasanaethau yn yr iaith o’ch dewis yn ffactor pwysig mewn gofal o safon.
Rhoddodd y gwobrau eleni rai enghreifftiau gwefreiddiol i ni o weithwyr ysbrydoledig ac ymroddedig sy’n darparu gofal a chymorth rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y cyhoedd bleidleisiodd ar gyfer y gwobrau eleni ac roeddwn i wrth fy modd fod dros 5,200 o bobl wedi cymryd rhan yn y bleidlais gyhoeddus.
Llongyfarchiadau mawr i’r enillydd, Elain Fflur Morris, sy’n uwch-weithiwr gofal o Gonwy, ac i’r pedair arall uchel eu canmoliaeth a ddaeth i’r brig, sef Abbie Edwards, Leone Williams, Myfanwy Harman a Sian Jones.
Hoffwn ddiolch i Elain, Abbie, Leone, Myfanwy a Sian, a’r degau o filoedd o weithwyr eraill y blynyddoedd cynnar, gofal plant a gofal cymdeithasol yng Nghymru am gefnogi ein cymunedau.
Os hoffech chi wneud gwahaniaeth, ewch draw i gofalwn.cymru lle y gallwch chi ddysgu am y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael.