Rydyn ni wrth ein bodd gan y cyhoeddiad bod y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Neil Ayling i’n Bwrdd.
Ac yntau’n gyn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint ac yn gyn Lywydd ADSS Cymru, bydd Neil yn ymuno â’n Bwrdd ar 1 Ebrill.
Bydd Neil yn ymgymryd â’r rôl ochr yn ochr â phum aelod Bwrdd newydd arall, a gyhoeddwyd gwanwyn diwethaf: Dr Edwin Mutambanengwe, Katija Dew, Dr Odosamawen Progress Igbedion, Isobel Lloyd a Sue Phelps.
Penodwyd y chwech am dymor pedair blynedd tan fis Mawrth 2029.
Fel aelodau ein Bwrdd, byddan nhw i gyd yn chwarae rhan arwyddocaol yn craffu ar ein gwaith ac yn sicrhau bod ein llywodraethiant yn dilyn ymarfer da.
Meddai Mick Giannasi, ein Cadeirydd: “Mae’n bleser gen i fod y Gweinidog wedi cyhoeddi bod Neil Ayling wedi cael ei benodi i’n Bwrdd.
“Mae gan Neil yrfa hir a disglair yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
“Ac yntau’n weithiwr cymdeithasol wrth ei waith, mae gan Neil brofiad o wasanaethau oedolion a phlant, a hanes o ddatblygu partneriaethau amlasiantaeth effeithiol ar lefel strategol.
“Daw â chyfoeth gwerthfawr o wybodaeth a phrofiad i’r Bwrdd ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at weithio gydag ef.”