Gall fyfyrwyr gwaith cymdeithasol yng Nghymru elwa ar gyllid o hyd at £27,000 i'w helpu gyda chostau astudio.
Mae’r Cynllun Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol ar gael i fyfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni gradd a meistr gwaith cymdeithasol cymeradwy yn y prifysgolion yma:
- Prifysgol Bangor
- Prifysgol Caerdydd
- Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
- Prifysgol Abertawe
- Y Brifysgol Agored yng Nghymru
- Prifysgol De Cymru
- Prifysgol Wrecsam.
Mae £3,750 ar gael ar gyfer pob blwyddyn o astudiaethau israddedig a £12,715 ar gyfer pob blwyddyn o astudiaeth ôl-raddedig.
Rhoddir nifer benodol o fwrsariaethau i bob rhaglen gradd gwaith cymdeithasol i'w dyrannu i fyfyrwyr. Mae unrhyw fyfyriwr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru am 12 mis ac nad yw’n cael ei noddi gan gyflogwr yn gymwys i gael bwrsariaeth.
Yn ogystal â'r bwrsariaeth gwaith cymdeithasol, bydd myfyrwyr yn derbyn cyllid tuag at gost eu lleoliadau gwaith trwy'r Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer (PLOA).
Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn am bwy sy’n gymwys ar gyfer y fwrsariaeth a sut i wneud cais ar ein tudalennau ariannu myfyrwyr.