Jump to content
Adroddiad newydd yn rhoi darlun o weithlu gofal cymdeithasol Cymru
Newyddion

Adroddiad newydd yn rhoi darlun o weithlu gofal cymdeithasol Cymru

| Gofal Cymdeithasol Newydd

Mae adroddiad newydd gennym yn datgelu fod tua 91,000 o bobl yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos fod mwy na 80 y cant o’r gweithlu yn fenywaidd.

Wedi ei lunio o ddata sydd wedi ei gasglu drwy arolwg o holl awdurdodau lleol Cymru, mae Adroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol yn rhoi darlun clir o’r gweithlu ar 31 Mawrth 2021.

Dyma’r tro cyntaf i ni ymgymryd â’r arolwg yn ei gyfanrwydd, gan i’r wybodaeth gael ei gasglu ar wahân yn flaenorol. Ymatebodd pob awdurdod lleol yng Nghymru a chafwyd data gan 2,173 o leoliadau neu ddarparwyr o ofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae rhai o brif ganfyddiadau’r arolwg yn cynnwys:

  • mae 81 y cant ohonynt yn fenywaidd
  • gofal preswyl i oedolion yw’r rhan fwyaf o’r sector, gan gyfrif am ychydig dros 28 y cant o’r gweithlu gofal cymdeithasol
  • cynlluniau lleoli oedolion yw’r rhan leiaf o’r gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynrychioli 0.2 y cant o’r cyfanswm
  • mae rhyw 61,000 o bobl yn cael eu cyflogi mewn gwasanaethau a gomisiynir a 30,000 o bobl mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol y mae awdurdodau yn eu rhedeg, gan olygu bod y farchnad annibynnol ddwywaith maint gwasanaethau y mae awdurdodau yn eu rhedeg
  • mae 78 y cant o’r gweithlu gofal cymdeithasol yn cael eu cyflogi ar gontractau parhaol
  • mae 50 y cant o’r gweithlu’n gweithio 36 awr neu fwy yr wythnos
  • daw bron i 90 y cant o’r gweithlu gofal cymdeithasol o gefndir ethnig Gwyn
  • mae gan fwy na 40 y cant o’r gweithlu rywfaint o allu yn y Gymraeg.

Dywedodd Sarah McCarty, Cyfarwyddwr Gwella a Datblygu Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae’r data’n rhoi cipolwg gwerthfawr i’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Mae ein dealltwriaeth o’r data a’r hyn y mae’r data yn ei ddweud wrthym yn bwysig i wneud yn siŵr bod y sector yn gallu darparu’r cymorth gorau i’r gweithlu a’r gofal a’r cymorth gorau i bobl Cymru.

“Bydd gwybodaeth o’r adroddiad yn hanfodol i gefnogi dulliau llwyddiannus o gynllunio’r gweithlu yn effeithiol, sef cam gweithredu allweddol yn y Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a arweiniwn gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru.”

Gallwch lawrlwytho Adroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol isod.