Rydyn ni wedi creu adnodd fideo newydd sy'n esbonio sut y gall pobl mewn lleoliadau cofrestredig wella ansawdd gan ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau.
Mae'n addas ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio mewn lleoliad cofrestredig, gan gynnwys:
- Unigolion Cyfrifol
- rheolwyr cofrestredig
- goruchwylwyr.
Yn yr adnodd, mae hyfforddwr yn siarad gyda chi am ffyrdd ymarferol o wella profiadau i'r bobl rydych chi'n eu cynorthwyo.
Mae ymarferion ac enghreifftiau i'w defnyddio yn eich lleoliad. Gallwch wneud yr ymarferion fel unigolion neu mewn grŵp.
Mae gan yr adnodd ddwy ran.
Mae rhan 1 yn cynnwys:
- sut mae ymarfer seiliedig ar gryfderau’n cefnogi'r cyd-destun cyfreithiol
- sut i ddiffinio ansawdd trwy brofiad yr unigolyn
- sut i weithio gyda phobl mewn ffordd sy'n seiliedig ar gryfderau.
Mae rhan 2 yn ymdrin â sut i ddefnyddio ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau ac arweinyddiaeth dosturiol gyda'i gilydd i wella ansawdd gofal.