Helo, Sarah ydw i, Prif Weithredwr newydd Gofal Cymdeithasol Cymru. Dechreuais yn y rôl ddiwedd mis Gorffennaf, felly rydw i wedi bod yn y swydd bron i ddau fis nawr.
Rwy’n credu bod gennym ni rôl i gefnogi eich gwaith mewn nifer o ffyrdd – er enghraifft, rydyn ni’n darparu bwrsariaethau ar gyfer addysg gwaith cymdeithasol, yn rhoi mynediad at adnoddau llesiant, ac yn datblygu cyfleoedd cymwysterau a dysgu. Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn ni’n gwella ein prosesau cofrestru i’w gwneud yn haws i chi gofrestru ac ailgofrestru gyda ni.
Rydyn ni’n cefnogi cyflogwyr gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant a dysgu, fframweithiau, mynediad at dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio, hyfforddiant arloesi a chymorth gwerthuso. Rydyn ni hefyd yn rhoi mynediad iddynt i gymunedau i greu mannau diogel lle gallant rannu syniadau a beth sy'n gweithio.
Rydyn ni’n darparu tystiolaeth i lywio datblygiadau yn y sector gofal cymdeithasol, hefyd, ac mae arolwg y gweithlu yn un ffordd yr ydyn ni’n gwneud hyn. Diolch i bawb a gymerodd yr amser i ddweud eu dweud – byddwn ni’n rhannu’r hyn a ddywedoch wrthym yn ein diweddariad nesaf.
Rwy wedi ymrwymo i barhau i wella’r hyn rydyn ni’n ei wneud a byddwn ni’n croesawu unrhyw adborth ar ein gwaith yn newCEO@gofalcymdeithasol.cymru.
Mae dathlu a rhannu’r gwaith rhagorol rydych chi’n ei wneud yn rhywbeth rwy’n awyddus i ganolbwyntio arno, ac rwy’n benderfynol o barhau i godi ymwybyddiaeth a gwella’ch proffil.
Gwyddom ni o’r hyn rydych wedi’i ddweud wrthym nad yw llawer ohonoch yn teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi gan y cyhoedd am y gwaith amhrisiadwy rydych chi’n ei wneud. Ond pan rydyn ni wedi gofyn iddyn nhw, rydyn ni wedi canfod bod gan y mwyafrif ganfyddiad cadarnhaol o'ch gwaith.
Diolch am bopeth rydych chi’n ei wneud i gefnogi ein cymunedau!