Jump to content
Gwobr Gofalu trwy'r Gymraeg 2024

Dysgwch fwy am y wobr sy’n dathlu’r rheini sy’n darparu gofal trwy gyfrwng y Gymraeg a sut i enwebu gweithiwr.

Beth yw’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg?

Mae’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn wobr flynyddol sy’n gydnabod, dathlu a rhannu gwaith y rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl trwy ddarparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r wobr yn cydnabod gwaith pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yn y sector cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.

Pwy oedd yn cael ei enwebu?

Unrhyw weithwyr cyflogedig ym maes gofal cymdeithasol neu ofal plant, chwarae neu’r blynyddoedd cynnar sy’n darparu gofal a chymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Er enghraifft, gallan nhw fod yn gweithio mewn cartref gofal, meithrinfa neu fod yn weithiwr gofal cartref.

Gallent nhw fod ag unrhyw lefel o Gymraeg – rhugl, rhywfaint o Gymraeg neu’n ddysgwr. Y peth pwysig yw eu bod nhw’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith gyda’r bobl y maen nhw’n gofalu am.

Bydd ein beirniaid yn chwilio am weithwyr sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl trwy ddefnyddio’r Gymraeg.

Y beirniadu

Bydd panel bach o feirniaid yn mynd trwy’r enwebiadau ac yn llunio rhestr fer.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi a’r person rydych chi wedi’i enwebu os yw wedi cael ei ddewis ar gyfer y rownd derfynol.

Byddwn wedyn yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i bleidleisio dros enillydd o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol drwy’r cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.

Cyhoeddi'r enillydd

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn digwyddiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, o 12.30pm ddydd Mawrth, 6 Awst 2024.

Telerau ac amodau

Dylech chi wneud yn siŵr eich bod chi a’r person rydych chi’n ei enwebu wedi darllen a deall y telerau ac amodau cyn i chi anfon eich enwebiad atom:

Cyhoeddusrwydd

Rhaid i chi a’r person rydych chi’n ei enwebu gytuno i ni ddefnyddio’r wybodaeth yn eich ffurflen enwebu i wneud y canlynol:

  • hyrwyddo a rhoi cyhoeddusrwydd i’r wobr Gofalu trwy’r Gymraeg yn cynnwys datganiadau i'r wasg, negeseuon cymdeithasol ac erthyglau ar-lein
  • rhannu arferion nodedig a helpu pobl eraill i ddysgu yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.

Gallai pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol gael cyhoeddusrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru.

Beirniadu

Bydd ein panel beirniadu yn dewis yr enillwyr a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Dim ond un enillydd fydd.

Ni ddylai aelodau’r panel beirniadu fod ag unrhyw gysylltiad â’r gweithwyr sydd wedi’u henwebu ar gyfer y wobr Gofalu trwy’r Gymraeg.

Bydd penderfyniad y beirniaid yn derfynol ac ni fyddwn yn gohebu ynghylch eu penderfyniad.

Y seremoni wobrwyo

Byddwn yn rhoi tlws i’r enillydd a thystysgrif i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Ni fydd unrhyw wobr ariannol na’r hyn sy’n cyfateb iddi.

Bydd pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo Gofalu trwy’r Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ddydd Mawrth, 6 Awst 2024. Os na fydd y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn gallu dod i’r seremoni, bydd angen iddyn nhw roi gwybod i ni ymlaen llaw a dweud wrthym pwy fydd yn derbyn y wobr neu’r dystysgrif ar eu rhan.

Os byddwn yn canfod bod rhywun sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol neu fod ei enwebydd wedi torri’r rheolau – cyn neu ar ôl cyflwyno’r wobr – efallai y bydd y beirniaid yn gwahardd y gweithiwr. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid anfon y tlws a/neu’r dystysgrif yn ôl atom ar unwaith.

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 7 Mehefin 2023
Diweddariad olaf: 26 Mehefin 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (34.5 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch