Gwyliwch Jade Forbes ac Hanan Issa yn trafod gwrth hiliaeth mewn gofal cymdeithasol, mewn sgwrs wedi'i arwain gan David Piitchard ein Cyfarwyddwr Rheoleiddio.
-
1
00:00:07,760 --> 00:00:10,720
Wel, croeso i’r digwyddiad arbennig hwn
2
00:00:10,720 --> 00:00:14,680
sy'n rhan o wythnos gwaith cymdeithasol eleni.
3
00:00:15,080 --> 00:00:18,640
Heddiw, rydyn ni’n mynd i fod yn trafod hiliaeth.
4
00:00:19,160 --> 00:00:23,840
Ond hefyd yn fwy arwyddocaol gobeithio
gwrth-hiliaeth
5
00:00:24,000 --> 00:00:28,960
a’r rhan y gallwn ni i gyd ei chwarae i
greu Cymru wrth-hiliol.
6
00:00:29,600 --> 00:00:31,080
Fy enw i ydi David Pritchard.
7
00:00:31,080 --> 00:00:34,200
Fi yw cyfarwyddwr rheoleiddio Gofal
8
00:00:34,200 --> 00:00:38,800
Cymdeithasol Cymru, y corff cenedlaethol
sy’n gweithio i gefnogi'r gweithlu
9
00:00:39,560 --> 00:00:43,440
ac i gefnogi gofal cymdeithasol
a gwaith cymdeithasol yng Nghymru.
10
00:00:45,080 --> 00:00:48,080
Eleni, y themâu ar gyfer wythnos Gwaith Cymdeithasol yw
11
00:00:48,720 --> 00:00:50,920
hunaniaeth broffesiynol,
12
00:00:50,920 --> 00:00:54,560
llesiant,
a pherthnasoedd.
13
00:00:55,400 --> 00:00:57,920
Felly, rwy’n falch iawn o gael cwmni
14
00:00:57,920 --> 00:01:00,920
dau westai arbennig iawn heddiw.
15
00:01:01,160 --> 00:01:03,120
Yn gyntaf,
16
00:01:03,120 --> 00:01:07,160
Hanan Issa,
sef bardd cenedlaethol Cymru
17
00:01:07,160 --> 00:01:11,360
ond sydd hefyd â hanes o weithio
ym maes gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol.
18
00:01:11,680 --> 00:01:15,840
A hefyd, Jade Forbes, sy’n weithiwr cymdeithasol,
19
00:01:16,880 --> 00:01:19,880
ac sydd wedi bod yn llais,
20
00:01:20,960 --> 00:01:23,920
ac yn hyrwyddwr gwrth-hiliaeth
21
00:01:23,920 --> 00:01:27,080
yn ein cymdeithas dros y blynyddoedd diwethaf.
22
00:01:27,440 --> 00:01:31,640
Felly, rydyn ni’n mynd i gael sgwrs
am rai o’r themâu allweddol,
23
00:01:32,280 --> 00:01:38,000
am greu Cymru wrth-hiliol
a gobeithio y gallwn ni gael cipolwg
24
00:01:38,000 --> 00:01:42,520
ar sut brofiad mae hi wedi bod i fyw
yn ein gwlad ni dros y blynyddoedd diwethaf,
25
00:01:42,760 --> 00:01:46,640
yn ogystal â rhai syniadau ynghylch sut gallwn ni fynd ati i wneud bywyd yn well
26
00:01:47,200 --> 00:01:53,200
a symud tuag at y Gymru wrth-hiliol rydyn ni i gyd yn awyddus i'w gweld.
27
00:01:54,840 --> 00:01:57,040
Gwych. Wel, diolch i’r ddwy ohonoch am ymuno â ni.
28
00:01:57,040 --> 00:01:58,280
Mae’n ffantastig eich cael chi yma.
29
00:01:58,280 --> 00:02:00,680
Rwy’n mynd i ddechrau gyda chi, Hanan.
30
00:02:00,680 --> 00:02:03,560
Chi ydi bardd cenedlaethol Cymru.
31
00:02:03,560 --> 00:02:07,760
Rydych chi wedi cyhoeddi barddoniaeth a thraethodau
32
00:02:08,280 --> 00:02:11,360
am hunaniaeth.
33
00:02:11,360 --> 00:02:15,320
My Body Can House Two Hearts' ydi’r llyfr
34
00:02:15,320 --> 00:02:16,520
rydw i fwyaf cyfarwydd ag ef,
35
00:02:16,520 --> 00:02:21,080
ac rwyf wir yn annog pobl
i gadw llygad amdano oherwydd mae’r llyfr
36
00:02:22,080 --> 00:02:23,400
yn wirioneddol dreiddgar.
37
00:02:23,400 --> 00:02:27,600
Tybed, beth yw eich profiad chi
o hiliaeth yng Nghymru?
38
00:02:29,000 --> 00:02:31,800
Sut beth oedd tyfu i fyny
39
00:02:31,800 --> 00:02:34,800
a byw yng Nghymru fel rhywun o dras ddeuol?
40
00:02:36,200 --> 00:02:37,760
Ie.
41
00:02:37,760 --> 00:02:40,200
Mae hi wedi bod yn siwrnai ddiddorol.
42
00:02:40,200 --> 00:02:44,320
Fe ges i fy magu ym Mhenarth, sef
tref fach wrth ymyl Caerdydd.
43
00:02:45,120 --> 00:02:49,560
Wrth dyfu i fyny yno yn y 90au,
doedd o ddim yn lle arbennig o amrywiol.
44
00:02:49,560 --> 00:02:53,640
Pobl y siop gornel leol neu, un neu ddau
45
00:02:53,640 --> 00:02:56,160
o bobl roeddech chi’n gallu eu henwi oedd yn bobl o liw.
46
00:02:56,880 --> 00:03:01,560
Ac mae yna ambell beth
oedd yn rhan o fy mhlentyndod.
47
00:03:01,560 --> 00:03:04,760
Roedd geiriau oedd yn sarhaus yn hiliol
yn cael eu defnyddio
48
00:03:04,760 --> 00:03:07,760
nad oeddwn i’n gwybod oedd yn sarhad hiliol a dweud y gwir.
49
00:03:08,240 --> 00:03:11,200
Yn enwedig pethau fel y gair p,
50
00:03:11,200 --> 00:03:15,720
roedd hwnnw’n cael ei daflu o gwmpas ac roedd mam
yn gorfod dweud, wel allwch chi ddim dweud hynny.
51
00:03:15,720 --> 00:03:17,600
Mae hwnna’n air drwg.
52
00:03:17,600 --> 00:03:18,760
Mae hwnna’n air hiliol.
53
00:03:18,760 --> 00:03:24,040
A dyna oedd
dechrau’r peth, fel petai.
54
00:03:24,040 --> 00:03:27,160
Fe ges i brofiad eithaf ffurfiannol
pan oeddwn i tua 8 neu 9 oed,
55
00:03:29,040 --> 00:03:31,680
pan fu’n rhaid i mi wynebu’r
56
00:03:31,680 --> 00:03:34,680
ffaith nad oeddwn i’n wyn
achos tan hynny,
57
00:03:35,760 --> 00:03:39,680
doedd hil ddim yn rhan o
fy nealltwriaeth i o’r byd.
58
00:03:40,400 --> 00:03:42,400
Ond roedden ni’n chwarae ynddo.
59
00:03:42,400 --> 00:03:46,240
Roedden ni’n arfer byw y drws nesaf i gae ffermwr,
ac mi ges i a’r
60
00:03:46,520 --> 00:03:49,520
bachgen yma ffrae
oedd wedi troi’n ymladd.
61
00:03:50,400 --> 00:03:53,400
Fi wnaeth ennill.
62
00:03:53,600 --> 00:03:57,560
Doedd o ddim yn hapus,
felly aeth adref yn crio at ei fam.
63
00:03:57,760 --> 00:03:59,680
Daeth ei fam draw ataf
64
00:03:59,680 --> 00:04:02,680
a dweud wrtha’i yn fy wyneb i gadw fy
nwylo duon budr oddi arno.
65
00:04:02,760 --> 00:04:05,760
Ac wrth gwrs, dydw i ddim yn ddu.
66
00:04:06,440 --> 00:04:11,280
Ond fe wnaeth hynny wirioneddol
fy ngorfodi i wynebu’r syniad
67
00:04:11,800 --> 00:04:16,160
nad oeddwn i’n wyn ac nad oedd pobl eraill
yn fy ngweld i felly.
68
00:04:16,480 --> 00:04:20,040
Felly, mae fy nhaith i at ddeall
beth ydi hiliaeth,
69
00:04:20,040 --> 00:04:23,840
beth mae hil, hunaniaeth
a pherthyn yn ei olygu yn deillio o'r profiad hwnnw.
70
00:04:25,360 --> 00:04:27,880
Ac ie,
71
00:04:27,880 --> 00:04:32,000
yn anffodus, nid dyna oedd
fy unig brofiad o hiliaeth.
72
00:04:32,000 --> 00:04:34,920
Rwyf wedi cael profiadau
mewn rhinwedd broffesiynol.
73
00:04:34,920 --> 00:04:37,920
Rwyf wedi cael profiadau
dim ond wrth gerdded i lawr y stryd.
74
00:04:39,320 --> 00:04:41,600
Ond rwy’n credu fy mod i wedi
75
00:04:41,600 --> 00:04:42,640
dysgu rhywbeth o bob un o’r profiadau hynny
76
00:04:42,640 --> 00:04:45,320
ychydig bach mwy amdanaf fi fy hun
ac am yr hyn rydw i’n gallu ymdopi ag o
77
00:04:45,320 --> 00:04:49,400
a beth ydw i'n gallu ei wneud i oresgyn y sefyllfa
a chefnogi pobl eraill sy’n
78
00:04:49,560 --> 00:04:52,560
cael profiadau o’r fath.
79
00:04:53,680 --> 00:04:57,400
Mae’n anodd iawn
i rywun sydd ddim o
80
00:04:57,600 --> 00:05:01,360
gefndir du, Asiaidd a
lleiafrif ethnig i wirioneddol ddeall
81
00:05:01,360 --> 00:05:03,120
profiadau fel hyn.
82
00:05:03,120 --> 00:05:05,480
Rwyf innau hefyd yn ei chael hi’n anodd iawn.
83
00:05:05,480 --> 00:05:07,960
Rydych chi wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol
a gwaith cymdeithasol, Hanan,
84
00:05:07,960 --> 00:05:10,560
a Jade, rydych chi’n gweithio ynddynt ar hyn o bryd.
85
00:05:10,560 --> 00:05:15,160
Rydych chi’n gwneud gwaith pwysig iawn
86
00:05:15,160 --> 00:05:19,600
yn y sector hwnnw, ym maes iechyd meddwl
a galwadau argyfwng.
87
00:05:22,440 --> 00:05:26,720
Rydych chi wedi disgrifio hiliaeth mewn gofal cymdeithasol
a gwaith cymdeithasol fel blinedig iawn.
88
00:05:28,120 --> 00:05:30,440
Hoffech chi ddweud ychydig wrthym am
89
00:05:30,440 --> 00:05:32,800
beth sydd y tu ôl i ddisgrifiad o’r fath?
90
00:05:32,920 --> 00:05:35,920
Blinedig, rhwystredigaeth,
91
00:05:36,160 --> 00:05:39,280
rhwystredig, achos rwy’n meddwl pan ydych chi’n
92
00:05:39,680 --> 00:05:42,520
mynd am eich hyfforddiant gwaith cymdeithasol,
93
00:05:42,520 --> 00:05:46,200
rydych chi’n herio eich rhagfarn eich hun ac yn deall
94
00:05:46,200 --> 00:05:48,680
eich bod wedi byw
bywyd lle rydych chi’n profi hiliaeth.
95
00:05:49,000 --> 00:05:51,400
Rydych chi’n dod i broffesiwn lle
96
00:05:51,400 --> 00:05:54,320
yn gyffredinol, rydyn ni fel gweithwyr cymdeithasol
yno i herio
97
00:05:54,320 --> 00:05:56,360
gorthrwm a gwahaniaethu.
98
00:05:56,360 --> 00:06:00,000
Ond dod i broffesiwn a sylweddoli
99
00:06:00,000 --> 00:06:02,960
nad oes gan bawb y gwerthoedd cywir.
100
00:06:03,880 --> 00:06:06,880
Ac yna rydych chi’n dal i’w brofi
o ddydd i ddydd.
101
00:06:07,600 --> 00:06:10,520
Yn y gweithle, gan gydweithwyr,
102
00:06:10,520 --> 00:06:13,520
gan gydweithwyr
mewn gwahanol sefydliadau.
103
00:06:14,840 --> 00:06:17,160
Mae’n flinedig oherwydd
104
00:06:17,160 --> 00:06:20,560
pan mae'n rhaid inni ei herio
neu pan mae’n rhaid i ni godi rhywbeth,
105
00:06:20,920 --> 00:06:24,880
yn aml, ni wedyn yw’r un sy’n gorfod addysgu’r
person dan sylw am
106
00:06:25,200 --> 00:06:28,200
y diffyg dealltwriaeth.
107
00:06:28,640 --> 00:06:32,400
Ac yna rydyn ni’n aml mewn sefyllfa
lle rydyn ni’n gorfod cysuro rhywun
108
00:06:32,440 --> 00:06:37,000
oherwydd eu bod nhw wedi cynhyrfu
neu wedi digio oherwydd eu bod nhw wedi tramgwyddo yn eich erbyn chi.
109
00:06:38,000 --> 00:06:40,960
Mae’n sefyllfa eithaf anarferol.
110
00:06:40,960 --> 00:06:43,400
Felly, pan rydyn ni mewn gwirionedd
111
00:06:43,400 --> 00:06:46,400
yn ceisio mynegi ein rhwystredigaeth
112
00:06:46,560 --> 00:06:50,240
yn y pen draw, rydyn ni’n magu agwedd o achub
oherwydd bod rhywun yn cael ei hun
113
00:06:50,280 --> 00:06:51,360
mewn cyflwr dioddefwr.
114
00:06:51,360 --> 00:06:54,320
Felly mae’n flinedig tu hwnt.
115
00:06:54,320 --> 00:06:58,720
Mae hefyd yn flinedig gorfod ei godi
ar lefel swyddogol hefyd, achos,
116
00:06:59,400 --> 00:07:01,880
hyd yn oed heddiw mae’n debyg,
117
00:07:01,880 --> 00:07:06,440
does dim seilwaith
o fewn polisïau i wirioneddol amddiffyn pobl.
118
00:07:06,760 --> 00:07:10,960
Enghraifft o hynny yw fy mod i
yr wythnos ddiwethaf, wedi profi microymosodiad
119
00:07:11,240 --> 00:07:14,080
ac yn mynd drwy weithdrefn arall
120
00:07:14,080 --> 00:07:15,800
ar hyn o bryd lle mae’n rhaid i mi godi hyn.
121
00:07:15,800 --> 00:07:18,800
Rwy'n deall ei bod
122
00:07:18,960 --> 00:07:22,600
bob amser yn well ceisio cyfryngu yn y lle cyntaf.
123
00:07:22,600 --> 00:07:25,920
A dyna fy mwriad ar hyn o bryd.
124
00:07:25,920 --> 00:07:29,680
Ond mae'r bobl rydw i wedi’i godi
â nhw yn debyg o fod mewn panig
125
00:07:29,720 --> 00:07:32,320
oherwydd does ganddyn nhw
ddim dealltwriaeth ohono.
126
00:07:32,320 --> 00:07:34,840
A dydi pobl ddim
i weld yn cydweithredu â mi
127
00:07:34,840 --> 00:07:37,880
ar hyn o bryd, felly dydw i ddim yn clywed unrhyw beth
yn ôl.
128
00:07:37,880 --> 00:07:41,800
Felly eto,
dyma amser gwerthfawr
129
00:07:41,800 --> 00:07:44,200
y mae’n rhaid i mi ei neilltuo i
fynd i’r afael â rhywbeth.
130
00:07:44,200 --> 00:07:48,120
Achos, os ydi o’n digwydd i mi, a finnau mewn swydd reoli,
131
00:07:48,400 --> 00:07:51,400
os ydi o’n digwydd i mi,
yna mae’n bendant yn digwydd i
132
00:07:51,760 --> 00:07:55,080
weithwyr cymdeithasol, i fyfyrwyr
ac yn bwysicach,
133
00:07:55,080 --> 00:07:57,720
i’r bobl rydyn ni’n eu
cefnogi yn y gymuned.
134
00:07:57,720 --> 00:08:01,560
Rwy’n eich clywed chi’n nodio eich bo chi’n cytuno,
yn y bôn.
135
00:08:01,880 --> 00:08:06,800
Y syniad yma eich bod chi nid yn unig yn derbyn y
136
00:08:07,200 --> 00:08:10,560
microymosodiadau hyn,
ond ei bod bron yn ofynnol i chi
137
00:08:10,600 --> 00:08:13,600
eu trin a’u trafod
ac yna ymateb iddyn nhw.
138
00:08:14,160 --> 00:08:17,080
Ydi hyn yn rhan
o’ch profiad chi hefyd, Hanan?
139
00:08:17,080 --> 00:08:18,720
Ydi.
140
00:08:18,720 --> 00:08:20,920
Mae’n dal yn anodd clywed bod
141
00:08:20,920 --> 00:08:24,120
rhywun sy’n gwneud yr holl bethau anhygoel
rydych chi’n eu gwneud,
142
00:08:25,240 --> 00:08:29,400
Hynny yw, i ddyfynnu Toni Morrison,
sy’n dweud bod hiliaeth yn wrthdyniad.
143
00:08:29,400 --> 00:08:31,200
Mae’n tynnu ein sylw oddi ar y gwaith.
144
00:08:31,200 --> 00:08:32,760
Ac mae hynny mor wir.
145
00:08:32,760 --> 00:08:34,280
A dyna’n union beth rydw i’n ei glywed.
146
00:08:34,280 --> 00:08:35,920
Mae cymaint o
147
00:08:35,920 --> 00:08:39,080
pethau mwy teilwng
y gallech chi fod yn eu gwneud â’ch amser.
148
00:08:39,120 --> 00:08:43,440
Ac rwy’n poeni bod cymaint o’ch egni
yn mynd nid yn unig
149
00:08:43,440 --> 00:08:46,680
ar beth a ddywedoch chi, sef profi
a goddef y pethau hyn,
150
00:08:46,680 --> 00:08:49,680
ond wedyn gorfod maldodi’r
bobl sydd wedi eu gwneud.
151
00:08:50,120 --> 00:08:54,360
Ond i mi, rydw i’n meddwl
mai un o’r pethau sy’n bwysig iawn
152
00:08:54,360 --> 00:08:58,200
yw dechrau teimlo’n gyfforddus
gyda’r anghysur.
153
00:09:00,000 --> 00:09:01,080
Wyddoch chi,
154
00:09:01,080 --> 00:09:04,440
mae'n anghyfforddus
meddwl ein bod ni wedi gwneud camgymeriad,
155
00:09:04,440 --> 00:09:07,760
wedi dweud rhywbeth o’i le,
neu wedi mewnoli rhagfarn
156
00:09:08,040 --> 00:09:10,280
ac yna wedi gweithredu arno.
157
00:09:10,280 --> 00:09:13,320
Ond rhywbeth rydyn ni’n ei golli yn ystod plentyndod
158
00:09:13,320 --> 00:09:16,320
yw’r gallu i gyfaddef nad ydyn ni’n gwybod.
159
00:09:16,800 --> 00:09:19,320
Fel plant,
rydyn ni bob amser yn gofyn pam?
160
00:09:19,320 --> 00:09:20,840
Beth, ble?
161
00:09:20,840 --> 00:09:23,040
Dydw i ddim yn gwybod pam rydyn ni’n colli hynny.
162
00:09:23,040 --> 00:09:26,320
Dydw i ddim yn gwybod pam ein bod ni’n gwneud penderfyniad
ar ryw adeg yn ein bywyd
163
00:09:26,320 --> 00:09:29,320
bod yn rhaid inni wybod popeth
oherwydd dydyn ni wirioneddol ddim.
164
00:09:29,600 --> 00:09:32,160
Pe baech chi’n mynd i
ddosbarth nos am gelfyddyd y Dadeni
165
00:09:32,160 --> 00:09:35,280
unwaith yr wythnos
ar ddydd Gwener am awr,
166
00:09:36,000 --> 00:09:38,160
fyddech chi ddim yn dweud 'Dwi'n
arbenigwr ar gelfyddyd y Dadeni’.
167
00:09:38,160 --> 00:09:41,040
Fe fyddech chi’n meddwl, bobol bach, mae
gen i gymaint mwy i ddysgu amdano.
168
00:09:41,040 --> 00:09:43,040
Ac felly mae hi
gyda phopeth.
169
00:09:43,040 --> 00:09:47,040
Felly ydi, i mi, fel roeddech chi’n dweud,
mae gofal cymdeithasol yn ymwneud â
170
00:09:47,040 --> 00:09:50,040
chefnogi pobl
a mynd i’r afael â gorthrwm
171
00:09:50,240 --> 00:09:51,320
ac mewn gwirionedd
172
00:09:51,320 --> 00:09:54,320
fel rhan o hynny, dylem deimlo’n gyfforddus
â’r teimlad anghyfforddus o ofyn.
173
00:09:56,080 --> 00:10:01,480
Dywedwch ychydig mwy wrthym am
174
00:10:01,480 --> 00:10:04,120
brofiadau fel hyn,
o’ch safbwynt chi efallai, Jade.
175
00:10:04,120 --> 00:10:07,320
Ac un peth mae gen i eithaf diddordeb ynddo
ydi eich bod chi’n sôn am
176
00:10:07,880 --> 00:10:11,280
ymateb pobl
sy’n cael eu herio
177
00:10:11,280 --> 00:10:14,560
a’ch disgrifiad ohono fel
wal amddiffynnol yn cael ei chodi
178
00:10:14,560 --> 00:10:18,840
yn hytrach na bod yn agored
i ddysgu fel y dywedodd Hanan.
179
00:10:19,000 --> 00:10:19,840
Ie. Ie.
180
00:10:19,840 --> 00:10:24,960
Felly, rhai eithaf cyffredin,
dwi’n meddwl ond dydw i ddim yn siŵr
181
00:10:24,960 --> 00:10:28,160
a ydych chi’n cael yr un math o brofiad,
ond mae yna nenfwd gwydr yn bendant.
182
00:10:28,920 --> 00:10:34,040
Felly, rydw i wedi gorfod
ac rydw i wedi dweud hyn o’r blaen ac, ar adegau eraill
183
00:10:34,040 --> 00:10:37,920
rydw i wedi gorfod gweithio’n galetach ac wedi gorfod
disgleirio mwy er mwyn cyrraedd lle rydw i.
184
00:10:38,120 --> 00:10:42,240
Felly, rwy’n meddwl am yr hyfforddiant,
y cymwysterau
185
00:10:42,240 --> 00:10:46,280
sydd gen i, yr hyfforddiant parhaus
a’r cymwysterau rwy’n parhau i’w gwneud.
186
00:10:47,400 --> 00:10:49,280
Hyd yn oed nawr, rwyf wrthi’n gwneud
187
00:10:49,760 --> 00:10:53,080
ôl-radd arall a hyfforddiant arbenigol arall.
188
00:10:54,240 --> 00:10:57,240
Rydw i eisiau parhau i ddysgu
a bod y gorau y gallaf fod.
189
00:10:57,440 --> 00:10:59,720
Ond rwy’n ymwybodol iawn
190
00:10:59,720 --> 00:11:02,720
bod yn rhaid i mi fod bron,
191
00:11:03,000 --> 00:11:04,480
alla i ddim.
192
00:11:04,480 --> 00:11:06,200
Rhaid i chi fod yn ardderchog.
193
00:11:06,200 --> 00:11:08,160
Ie. Allwch chi ddim
hwylio mynd yn ddiddrwg ddidda.
194
00:11:08,160 --> 00:11:10,560
Yn hollol, yn hollol.
195
00:11:10,560 --> 00:11:12,240
A dydw i ddim yn gwybod ai
196
00:11:12,240 --> 00:11:13,360
dyna’r peth arall, yntê?
197
00:11:13,360 --> 00:11:15,320
Achos wedyn, yn aml rydyn ni’n gallu,
198
00:11:15,320 --> 00:11:19,280
cwestiynu ein meddyliau
a’n teimladau ein hunain am y peth.
199
00:11:19,280 --> 00:11:21,480
Ydw i’n gorfeddwl yn fan hyn?
200
00:11:21,480 --> 00:11:25,960
A dyna beth arall
y mae pobl o liw
a phobl o gefndiroedd ethnig
201
00:11:25,960 --> 00:11:29,640
eraill yn gorfod delio ag ef yn gyson
o ddydd i ddydd.
202
00:11:30,080 --> 00:11:33,320
Felly pan fyddwn ni’n delio â hynny o hyd
gan wybod am y rhwystrau hynny
203
00:11:34,040 --> 00:11:39,920
nad ydi pobl eraill yn eu gweld
204
00:11:41,040 --> 00:11:45,080
pan rydyn ni wedyn yn defnyddio ein pŵer proffesiynol
205
00:11:45,080 --> 00:11:49,000
a ffyrdd o leihau gorthrwm
206
00:11:49,440 --> 00:11:52,560
a galluogi pobl i gael gafael ar wasanaethau.
207
00:11:53,760 --> 00:11:56,760
Rydych chi wedyn yn cael eich galw’n bethau
fel ymosodol,
208
00:11:58,040 --> 00:12:01,320
goddefol ymosodol, bygythiol.
209
00:12:02,000 --> 00:12:05,920
I mi, mae pethau fel hyn,
pan fyddwch chi’n siarad felly
210
00:12:05,920 --> 00:12:09,280
yn ficroymosodiad
achos dydw i ddim yn fenyw ddu flin.
211
00:12:11,040 --> 00:12:13,440
Ond mae’r math hynny o iaith yn cael ei ddefnyddio
212
00:12:13,440 --> 00:12:17,360
i’ch tawelu chi mewn ffordd,
sef, does gennych chi ddim hawl i wneud hyn.
213
00:12:17,360 --> 00:12:20,000
Hyd yn oed fel rheolwr.
214
00:12:20,000 --> 00:12:21,640
Felly arhoswch funud. Gan bwyll, ara deg, daliwch arni.
215
00:12:21,640 --> 00:12:23,600
Dydych chi ddim yn cael gwneud hynny.
216
00:12:23,600 --> 00:12:26,600
Ac mae’n
217
00:12:26,960 --> 00:12:29,800
ie, mae’n un o’r pethau blinedig hynny
achos wedyn rydych chi’n gorfod,
218
00:12:29,800 --> 00:12:31,720
hyd yn oed ar lefel rheolwr,
219
00:12:31,720 --> 00:12:35,600
rydych chi wedyn yn gorfod
cyfiawnhau eich defnydd o bŵer proffesiynol.
220
00:12:35,680 --> 00:12:40,120
Wrth dyfu i fyny a chael profiad o bethau
nad oedd yn amlwg yn hiliol,
221
00:12:40,720 --> 00:12:43,720
doedd dim y gallech ei
ddiffinio a’i fynegi’n hawdd,
222
00:12:44,160 --> 00:12:46,320
ond roeddech chi’n teimlo bod rhywbeth
yn niweidiol ynddo.
223
00:12:46,320 --> 00:12:48,160
Roeddech chi’n teimlo bod rhywbeth o’i le
224
00:12:48,160 --> 00:12:51,160
ar yr hyn roedd yn cael ei ddweud
neu yr hyn y cawsoch chi brofiad ohono.
225
00:12:51,240 --> 00:12:56,320
Ac rwy’n teimlo ein bod ni mor lwcus nawr
bod gennym ni eirfa i fynegi ein hunain
226
00:12:56,320 --> 00:12:59,400
fel hyn a gallu dweud, ie, iawn,
doedd o ddim yn amlwg hiliol.
227
00:12:59,400 --> 00:13:02,000
I mi,
dyna beth ydi microymosodedd.
228
00:13:02,000 --> 00:13:06,600
Yr ardal anelwig yna
lle nad oes unrhyw beth wirioneddol amlwg hiliol.
229
00:13:06,600 --> 00:13:10,360
Ond wrth ei ddadansoddi,
rydych chi’n gweld bod rhagdybiaeth wedi’i gwneud,
230
00:13:10,360 --> 00:13:16,120
stereoteip, bwriad niweidiol
y tu ôl i ymadrodd neu weithred.
231
00:13:16,600 --> 00:13:21,840
Felly, rwy’n meddwl, yn ôl yr esboniad adnabyddus o
232
00:13:21,840 --> 00:13:25,600
ficroymosodiad,
rydych chi’n cael profiad ohono unwaith, ac efallai bod hynny’n iawn,
233
00:13:25,600 --> 00:13:26,640
fel brathiad mosgito.
234
00:13:26,640 --> 00:13:29,640
Ond os ydych chi’n cael profiad ohono ugain gwaith ar ôl ei gilydd
235
00:13:29,640 --> 00:13:33,840
mae’n gallu effeithio ar eich diwrnod, sy’n gallu effeithio ar
y ffordd rydych chi’n delio â phobl eraill.
236
00:13:34,960 --> 00:13:36,440
Felly mae’n bwysig iawn
237
00:13:36,440 --> 00:13:39,440
bod pobl yn cofio hynny.
238
00:13:40,680 --> 00:13:46,960
Fe alla’i ddyfynnu ystadegau
am rai o’r pethau hyn.
239
00:13:46,960 --> 00:13:51,640
Rydyn ni’n cynnal arolwg o bobl sy’n gweithio ym maes
gofal cymdeithasol bob blwyddyn.
240
00:13:52,040 --> 00:13:55,880
Maen nhw’n dangos bod pobl o gefndiroedd du,
Asiaidd a grwpiau lleiafrifoedd ethnig
241
00:13:55,880 --> 00:13:58,880
yn llawer mwy tebygol o ddweud eu bod wedi
242
00:13:59,680 --> 00:14:02,120
wynebu gwahaniaethu yn eu gwaith.
243
00:14:02,120 --> 00:14:05,440
Ac yn ddiddorol, Jade,
rydyn ni’n edrych ar ein hystadegau ac
244
00:14:05,800 --> 00:14:09,120
fel rheolwyr
ac fel pobl sy’n gweithio ym maes
245
00:14:09,320 --> 00:14:13,640
gofal oedolion, er enghraifft,
rydych chi bum gwaith yn fwy tebygol
246
00:14:13,960 --> 00:14:19,920
o fod yn reolwr os ydych chi'n wyn nag os ydych chi'n perthyn i grŵp du, Asiaidd neu leiafrif ethnig
247
00:14:19,920 --> 00:14:22,040
mewn perthynas â’r bobl sy’n weithwyr.
248
00:14:22,040 --> 00:14:26,280
Rydyn ni’n gweld anghysondeb enfawr
rhwng cynrychiolaeth pobl
249
00:14:26,280 --> 00:14:31,320
o grwpiau lleiafrifol ar y lefel honno
o’i gymharu â lefel rheoli.
250
00:14:34,120 --> 00:14:34,760
Rwy’n tybio
251
00:14:34,760 --> 00:14:37,760
nad ydi hynny’n syndod i chi
o’r hyn rydych chi wedi’i ddweud.
252
00:14:37,760 --> 00:14:41,400
Wrth gwrs, yng Nghymru, rydyn ni wedi dechrau,
drwy’r llywodraeth
253
00:14:41,400 --> 00:14:44,400
a thrwy gefnogaeth pobl o
254
00:14:44,600 --> 00:14:47,520
gefndiroedd du, Asiaidd a grwpiau
lleiafrifoedd ethnig, datblygu rhai cynlluniau
255
00:14:47,520 --> 00:14:51,960
a rhai syniadau am fynd i’r afael â hiliaeth
256
00:14:51,960 --> 00:14:56,160
ac mae Cynllun Gweithredu
Cymru Wrth-hiliol wrth galon hynny.
257
00:14:56,560 --> 00:15:01,720
Roeddwn i’n meddwl tybed a oes gennych chi unrhyw feddyliau
am yr ymdrech ehangach honno
258
00:15:02,080 --> 00:15:05,080
i newid y naratif yn ein cymdeithas
yng Nghymru?
259
00:15:06,040 --> 00:15:07,240
Ie.
260
00:15:07,240 --> 00:15:09,280
Yn amlwg
261
00:15:09,280 --> 00:15:11,320
mae geiriau yn bwysig i mi.
262
00:15:11,320 --> 00:15:14,320
Fel y byddech chi’n gobeithio, fel rhywun
sy’n gwneud bywoliaeth o’u hysgrifennu.
263
00:15:15,120 --> 00:15:18,240
O ran gwrth-hiliaeth,
264
00:15:18,640 --> 00:15:21,680
wrth edrych ar y rhagddodiad gwrth
a sut rydyn ni’n ei ddefnyddio.
265
00:15:21,680 --> 00:15:26,320
Fe allwch chi ddweud fod rhywbeth yn wrth-rhywbeth
sy’n golygu’r gwrthwyneb i rywbeth.
266
00:15:26,320 --> 00:15:29,520
Felly, yn y bôn, dau beth
sy’n gwbl groes i'w gilydd.
267
00:15:30,040 --> 00:15:34,520
Neu gallwn ni ddweud gwrthfacterol sef
atal bacteria rhag lledaenu.
268
00:15:35,040 --> 00:15:38,160
Ac i mi, mae hynny’n crynhoi beth ydi gwrth-hiliaeth
269
00:15:38,560 --> 00:15:43,120
oherwydd yn yr ymadrodd hwnnw
mae’r gair ‘gwrth’ yn rhagweithiol.
270
00:15:43,280 --> 00:15:47,680
Allwch chi ddim bod yn 'wrth’ unrhyw beth yn oddefol.
Os ydych chi’n mynegi neu’n dweud
271
00:15:47,680 --> 00:15:50,960
eich bod chi’n gwrthwynebu rhywbeth, mae
gweithred sy’n cyd-fynd â hynny.
272
00:15:50,960 --> 00:15:56,480
Felly, i mi, mae bod yn wrth-hiliol
yn golygu gwrthwynebu’n gryf
273
00:15:56,800 --> 00:16:00,440
ac atal hiliaeth rhag lledaenu.
274
00:16:02,520 --> 00:16:06,400
Rwyf wedi edrych ar Gynllun Gweithredu
Cymru Wrth-hiliol ac
275
00:16:06,760 --> 00:16:10,000
allwn i ddim credu rhai o’r ystadegau.
Roedd yn dweud, o fewn gofal cymdeithasol,
276
00:16:10,800 --> 00:16:15,760
bod nifer y bobl o dras ddu
wedi codi i bron 50%.
277
00:16:15,760 --> 00:16:20,200
Rwy’n meddwl bod 45, 46% o bobl
sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol
278
00:16:20,200 --> 00:16:23,040
sydd o dras ddu wedi profi
rhyw fath o hiliaeth.
279
00:16:23,040 --> 00:16:25,400
Ac rydych chi’n meddwl, yn 2025,
280
00:16:25,400 --> 00:16:28,400
dylai fod y nifer hwnnw yn gostwng, nid yn cynyddu.
281
00:16:29,320 --> 00:16:32,520
Ond yna pan welwch chi ar raddfa ehangach,
ar raddfa fyd-eang,
282
00:16:33,720 --> 00:16:36,720
pobl ddylanwadol
yn gwneud ystumiau ffasgaidd,
283
00:16:37,120 --> 00:16:39,320
beth mae rhywun yn ddisgwyl.
284
00:16:39,320 --> 00:16:41,080
Jade,
285
00:16:42,760 --> 00:16:45,760
rydw i ychydig yn hŷn na’r naill a’r llall ohonoch chi.
286
00:16:45,880 --> 00:16:48,880
Ond drwy gydol fy mywyd,
287
00:16:48,880 --> 00:16:52,320
rydw i wedi bod mewn amgylchedd lle mae pobl
yn siarad am gydraddoldeb, a dyna’r nod.
288
00:16:52,320 --> 00:16:55,960
Ac, rydw i’n mynd yn ôl i’r Ddeddf
Cysylltiadau Hil yn y 1970au.
289
00:16:56,560 --> 00:17:01,520
Fel cymdeithas, rydyn ni
i gyd wedi rhyw gytuno bod hiliaeth yn beth drwg.
290
00:17:02,160 --> 00:17:05,640
Felly pam ydyn ni mewn cyfnod
nawr lle mae angen
291
00:17:05,680 --> 00:17:09,600
newid y cydraddoldeb hwnnw yn rhywbeth
sydd ychydig yn fwy deinamig a gwrth pethau?
292
00:17:10,280 --> 00:17:13,200
Rwy’n meddwl bod angen rhywbeth
sydd ychydig yn fwy pendant.
293
00:17:15,400 --> 00:17:16,960
Rydw i wedi cael
294
00:17:16,960 --> 00:17:19,960
sgyrsiau â phobl fel
Gaynor Legall
295
00:17:20,720 --> 00:17:23,720
oedd yn weithiwr cymdeithasol.
296
00:17:23,960 --> 00:17:26,840
Roedd hi’n dweud ein bod ni yn yr un sefyllfa o hyd.
297
00:17:26,840 --> 00:17:27,880
Does dim byd wedi newid.
298
00:17:27,880 --> 00:17:30,080
Mae hi’n parhau i frwydro.
299
00:17:30,080 --> 00:17:31,640
Rwy’n credu mai’r anhawster ydi
300
00:17:31,640 --> 00:17:36,600
bod naratif sy’n dweud nad yw hiliaeth yn bod.
301
00:17:36,960 --> 00:17:39,800
Dydi pobl sydd ddim yn profi
ac sydd heb fyw drwy
302
00:17:39,800 --> 00:17:43,080
brofiad o'r fath yn gweld
bod yna broblem.
303
00:17:43,320 --> 00:17:46,120
A dwi’n meddwl mai dyna lle
304
00:17:46,120 --> 00:17:49,320
rydyn ni’n dod ar draws yr
anhawster mwyaf ym mhob rhan o gymdeithas.
305
00:17:50,640 --> 00:17:52,520
Mae'r cyfryngau cymdeithasol,
306
00:17:52,520 --> 00:17:56,840
y newyddion, y naratif ar y newyddion a’r agendâu gwleidyddol
307
00:17:56,840 --> 00:18:02,600
ac ati yn newid,
rwy’n credu bod hynny’n dwysáu’r sefyllfa,
308
00:18:03,880 --> 00:18:06,920
y siarad am hiliaeth ac yna,
309
00:18:07,440 --> 00:18:10,400
amddiffyn
310
00:18:10,400 --> 00:18:13,360
beth mae rhai pobl yn ei ystyried yn wladwriaeth Brydeinig
311
00:18:13,360 --> 00:18:17,600
neu’n fath Cymreig o wladwriaeth,
ac rwy’n credu,
312
00:18:18,880 --> 00:18:20,840
yn hanesyddol,
313
00:18:20,840 --> 00:18:23,560
mae yna
314
00:18:23,560 --> 00:18:26,560
bobl wedi bod
sy’n gweld pobl o wahaniaeth fel bygythiad.
315
00:18:26,760 --> 00:18:27,080
Ie.
316
00:18:27,080 --> 00:18:31,280
Rwy’n credu ei bod yn debyg
ein bod yn cael ein gwthio
317
00:18:31,280 --> 00:18:35,600
yn fwy pendant
tuag at ffyrdd llwythol o feddwl.
318
00:18:36,800 --> 00:18:39,200
Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig dros ben
319
00:18:39,200 --> 00:18:42,800
ein bod yn arwain o’r brig i lawr.
320
00:18:43,800 --> 00:18:49,040
O ran y sefydliadau,
y strwythurau o fewn cymdeithas
321
00:18:49,040 --> 00:18:52,240
mae bod yn wrth-hiliol mewn gwirionedd yn
322
00:18:52,240 --> 00:18:55,480
ymwneud â'r geiriau sy’n cael eu defnyddio,
a hefyd gweithredoedd,
323
00:18:55,480 --> 00:18:57,240
ac yna’r goblygiadau
324
00:18:57,240 --> 00:19:00,320
o ran yr unigolion
sy’n defnyddio
325
00:19:00,320 --> 00:19:03,320
neu hyd yn oed sy’n gweithio yn y gwasanaethau.
326
00:19:04,120 --> 00:19:04,880
Ie.
327
00:19:04,880 --> 00:19:07,680
Mae'r gair y gwnaethoch chi ei ddefnyddio yn fan'na, ‘gwahaniaeth’, yn ddiddorol,
328
00:19:07,680 --> 00:19:10,360
oherwydd rydyn ni’n wahanol,
rydyn ni i gyd yn wahanol mewn ffyrdd gwahanol.
329
00:19:10,800 --> 00:19:13,640
Ac, rwy’n meddwl am yr hyn
rydych chi wedi ysgrifennu amdano yn eich cerddi,
330
00:19:13,640 --> 00:19:18,200
am hunaniaeth ac nad ydy hynny
efallai yn un peth.
331
00:19:18,200 --> 00:19:20,280
Mae llawer o bethau
sy’n cyfrannu ato.
332
00:19:20,280 --> 00:19:23,240
Er enghraifft y syniad o gymhwysedd diwylliannol
sydd o gwmpas erbyn hyn.
333
00:19:24,400 --> 00:19:27,600
A’r syniad, rwy’n meddwl, bod gennym,
334
00:19:28,760 --> 00:19:32,280
gefndiroedd gwahanol
a chyd-destunau gwahanol rydyn ni’n byw ynddyn nhw.
335
00:19:32,280 --> 00:19:34,360
Ac mae deall
hynny’n wirioneddol bwysig.
336
00:19:34,360 --> 00:19:36,320
Felly nid ein bod ni i gyd yr un fath ydi’r peth.
337
00:19:36,320 --> 00:19:41,760
Ond bod gennym i gyd agweddau gwahanol
sy’n gyfoethog ac yn wych.
338
00:19:42,480 --> 00:19:44,520
Ydi hynny’n gwneud synnwyr i chi, Hanan?
339
00:19:44,520 --> 00:19:48,680
Yn enwedig o ystyried eich cerddi
a’ch gwaith?
340
00:19:50,520 --> 00:19:52,840
Ydi, am wn i, mewn achosion
341
00:19:52,840 --> 00:19:55,840
fel hyn, rwyf bob amser yn gofyn i mi fy hun,
beth fyddai Miriam Margolyes yn ei wneud?
342
00:19:56,800 --> 00:20:00,880
Mae hi’n rhywun sydd, dwi’n meddwl bod yna ryw gamsyniad
343
00:20:00,880 --> 00:20:03,440
eich bod yn cyrraedd oedran penodol
a dydych chi ddim yn gallu dysgu mwyach.
344
00:20:03,440 --> 00:20:06,040
Allwch chi ddim gofyn cwestiynau mwyach,
ac eto mae hi’n rhywun,
345
00:20:06,040 --> 00:20:07,320
sydd,
346
00:20:07,320 --> 00:20:10,320
yn ei 80au nawr,
neu yn ei 70au hwyr beth bynnag.
347
00:20:10,400 --> 00:20:13,400
Ac eto mae hi’n dal yn llawn chwilfrydedd.
348
00:20:13,400 --> 00:20:17,440
Mae hi’n mynd o amgylch y byd
ac yn dod ar draws pobl sy’n byw
349
00:20:17,440 --> 00:20:21,120
bywydau hollol wahanol iddi hi
ac mae’n gofyn cwestiynau.
350
00:20:21,440 --> 00:20:25,520
Ond hefyd, does ganddi hi ddim ofn dweud,
ie, roedd yr hyn wnes i ei ddweud ddeng mlynedd yn ôl yn anghywir.
351
00:20:26,480 --> 00:20:28,720
Rydw i wedi dysgu o hynny.
352
00:20:28,720 --> 00:20:31,800
Ac i mi, mae mor syml â hynny.
353
00:20:32,480 --> 00:20:35,680
Gweld gwahaniaeth fel rhywbeth brawychus.
354
00:20:35,680 --> 00:20:40,120
Ydyn, rydyn ni’n gwybod mai dyna’r gwir,
ond mae’n rhy syml ceisio gwrthddweud
355
00:20:40,120 --> 00:20:43,120
hynny drwy ddweud ein bod ni i gyd yn un,
i gyd yr un fath oherwydd dydyn ni ddim.
356
00:20:43,680 --> 00:20:46,680
Rwy’n meddwl bod yna ffordd llawer mwy
357
00:20:47,480 --> 00:20:49,600
pendant o wrthwynebu hyn
358
00:20:49,600 --> 00:20:54,640
sef drwy ailgyfeirio ein naratif tuag at
edrych ar wahaniaeth gyda chwilfrydedd
359
00:20:54,960 --> 00:20:57,520
a mynd yn ôl
i ofyn cwestiynau.
360
00:20:57,520 --> 00:20:59,240
Ie, mae hynny’n ddiddorol iawn.
361
00:20:59,240 --> 00:21:03,160
Ac mae hynny’n dod â fi at hyn,
rydych chi’n ymarferwr ym maes gwaith cymdeithasol ar hyn o bryd
362
00:21:03,160 --> 00:21:06,160
ac yn arwain tîm o weithwyr cymdeithasol.
363
00:21:06,960 --> 00:21:08,440
Wyddoch chi,
364
00:21:08,440 --> 00:21:10,920
mae gen i’r
365
00:21:10,920 --> 00:21:15,680
syniad naïf bod pawb ym maes gofal
cymdeithasol yn glên ac yn neis-neis,
366
00:21:15,680 --> 00:21:19,720
ac mai’r cyfan sy’n bwysig iddyn nhw ydi byd gwych y dyfodol.
367
00:21:19,720 --> 00:21:25,160
Ond mae’n amlwg eich bod chi’n gwybod bod yna
heriau a phroblemau go iawn ym maes gwaith cymdeithasol.
368
00:21:25,320 --> 00:21:29,440
Ac mae’n rhaid i chi ofyn cwestiynau ym maes
gofal cymdeithasol, does?
369
00:21:30,640 --> 00:21:33,720
Ac, yn y cyd-destun hwnnw mae’n debyg,
370
00:21:33,720 --> 00:21:37,440
na ddylai gweithwyr cymdeithasol
fod ofn gofyn y cwestiynau hynny.
371
00:21:37,600 --> 00:21:42,080
Na, na, rwy'n meddwl y dylai chwilfrydedd proffesiynol
fod ar frig agenda pawb.
372
00:21:43,000 --> 00:21:46,040
Ac rwy’n meddwl fel gweithwyr cymdeithasol,
373
00:21:46,640 --> 00:21:49,400
rydw i’n aml yn siarad am
fod mewn sefyllfa
374
00:21:49,400 --> 00:21:52,840
lle rwy'n siarad â phobl ar yr adegau mwyaf
bregus yn eu bywydau,
375
00:21:53,840 --> 00:21:57,680
ac yn gallu
cael y sgyrsiau mwyaf anodd.
376
00:21:57,920 --> 00:22:00,880
Ac mae pobl eisiau i chi ofyn y cwestiynau hynny
oherwydd weithiau
377
00:22:00,880 --> 00:22:04,320
mae’r gallu ganddyn nhw
i fynegi hynny’n rhydd.
378
00:22:04,640 --> 00:22:07,520
Bydd meddyg yn gofyn
379
00:22:07,520 --> 00:22:10,600
cwestiynau personol iawn
am faterion yn ymwneud ag iechyd corfforol,
380
00:22:10,920 --> 00:22:13,920
a does arnyn nhw ddim ofn gofyn
oherwydd mewn gwirionedd, dyna eu
381
00:22:14,040 --> 00:22:14,840
proffesiwn.
382
00:22:14,840 --> 00:22:15,880
Dyna beth y mae angen iddyn nhw ei wybod.
383
00:22:15,880 --> 00:22:17,840
Felly dwi’n meddwl ei fod yr un fath i ni hefyd.
384
00:22:17,840 --> 00:22:20,680
Rydyn ni’n gweithio
gyda chymaint o wahanol bobl
385
00:22:20,680 --> 00:22:22,320
ac allwn ni ddim rhagdybio dim.
386
00:22:22,320 --> 00:22:25,520
Byddwn i’n dweud bod Wayne Reid, sy’n
387
00:22:26,320 --> 00:22:29,320
gwneud llawer o waith gwrth-hiliaeth i BASW hefyd
388
00:22:29,960 --> 00:22:33,960
yn disgrifio sut
nad un grŵp unffurf yw pobl.
389
00:22:34,280 --> 00:22:38,640
Rydych chi’n gweld grŵp o bobl
o Jamaica, dydyn nhw ddim yn un grŵp homogenaidd.
390
00:22:38,640 --> 00:22:41,200
Bydd pob un yn y grŵp hwnnw
yn wahanol.
391
00:22:41,200 --> 00:22:42,680
Enghraifft o hyn yw bod
392
00:22:42,680 --> 00:22:46,560
fy nhaid a fy nain o
Jamaica yn Dystion Jehofa.
393
00:22:47,480 --> 00:22:50,000
Mae pobl yn meddwl "Mae yna Neuaddau’r Deyrnas
yn Jamaica?”
394
00:22:50,000 --> 00:22:51,640
oherwydd eu bod yn tybio
395
00:22:51,640 --> 00:22:54,440
efallai, nad oedd Tystion Jehofa
396
00:22:54,440 --> 00:22:57,720
wedi cyrraedd Jamaica, ond
rwy'n credu
397
00:22:57,720 --> 00:23:01,040
bod yr holl dybiaethau yma’n bodoli
ac rwy’n credu bod angen gofyn y cwestiynau hyn.
398
00:23:01,240 --> 00:23:04,320
Ac yn fy marn i, rydyn
ni’n cael y gorau allan o unigolion
399
00:23:04,320 --> 00:23:07,320
pan maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u deall.
400
00:23:07,440 --> 00:23:11,720
Mae gennym gymaint o bŵer mewn gwaith cymdeithasol,
401
00:23:12,400 --> 00:23:16,280
ond sut mae defnyddio'r pŵer hwnnw’n briodol
a’r gallu i'w ddefnyddio’n briodol
402
00:23:16,320 --> 00:23:18,840
a chael dealltwriaeth lawn
o’r unigolion rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
403
00:23:20,080 --> 00:23:20,760
Yn hollol.
404
00:23:20,760 --> 00:23:22,560
Rwy'n meddwl am y bobl
405
00:23:22,560 --> 00:23:26,480
fydd yn gwylio hwn,
gweithwyr cymdeithasol yn bennaf mae’n debyg.
406
00:23:27,800 --> 00:23:29,560
Ac fe fydd yna bobl
407
00:23:29,560 --> 00:23:33,200
sydd wedi dioddef hiliaeth,
yn gwylio hwn.
408
00:23:33,920 --> 00:23:36,560
Fe fydd yna bobl hefyd
sydd wedi gweld hiliaeth,
409
00:23:36,560 --> 00:23:39,560
p’un ai ydyn nhw wedi ei herio
ai peidio.
410
00:23:40,320 --> 00:23:43,320
Ac rwy’n siŵr
y bydd yna rai sydd wedi cyflawni hilaeth
411
00:23:43,320 --> 00:23:46,320
yn gwylio hwn hefyd
ac efallai yn myfyrio ar hynny.
412
00:23:46,920 --> 00:23:49,920
Pa gyngor
413
00:23:49,920 --> 00:23:54,280
fyddech chi’n ei roi i bobl sy’n gwrando
neu sy’n gwylio hwn
414
00:23:54,960 --> 00:23:57,960
o ran beth mae nhw’n gallu ei wneud i helpu
415
00:23:58,160 --> 00:24:01,760
i greu Cymru wrth-hiliol, sector
416
00:24:02,040 --> 00:24:05,760
gwaith cymdeithasol wrth-hiliol neu dîm gwrth-hiliol?
417
00:24:06,160 --> 00:24:10,200
Ac iddyn nhw eu hunain
ddod yn wrth-hiliol.
418
00:24:10,440 --> 00:24:14,760
Oes gennych chi unrhyw gyngor penodol,
y gallen nhw fod eisiau ei gymryd?
419
00:24:14,840 --> 00:24:17,360
Hanan?
420
00:24:17,360 --> 00:24:21,160
Mae gofalu yn ferf weithredol, dydi?
421
00:24:21,160 --> 00:24:24,600
Iawn. Felly er mwyn gofalu
422
00:24:24,720 --> 00:24:28,400
am y bobl sydd o’n cwmpas
yn y lle rydyn ni’n byw,
423
00:24:29,840 --> 00:24:31,800
mae angen gweithredu.
424
00:24:31,800 --> 00:24:35,000
Yn union fel
mae bod yn wrth-hiliol yn galw am weithredu.
425
00:24:35,000 --> 00:24:40,520
Ac mae’n swnio’n ofnadwy o syml,
ond mae’n ymwneud â
426
00:24:40,520 --> 00:24:43,880
hunanfyfyrio a meddwl,
sut fyddwn i eisiau cael fy nhrin?
427
00:24:44,280 --> 00:24:46,160
Fel rydych chi wedi’i ddweud,
428
00:24:46,160 --> 00:24:49,240
rydych chi’n cwrdd â phobl,
pan mae nhw ar eu mwyaf bregus fel arfer.
429
00:24:49,680 --> 00:24:52,720
Ac os nad yw o reidrwydd
yn ddefnyddiwr gwasanaeth neu’n gleient,
430
00:24:53,560 --> 00:24:57,040
rydych chi’n gweithio gyda chydweithwyr
sydd dan straen anhygoel.
431
00:24:57,400 --> 00:25:01,000
Ac ydyn, rydyn ni i gyd yn torri corneli,
rydyn ni i gyd yn gwneud penderfyniadau difyfyr
432
00:25:01,040 --> 00:25:03,320
a rhagdybiaethau difyfyr yn y mannau hynny.
433
00:25:03,320 --> 00:25:06,320
Ond yna mae angen rhoi amser i
hunanfyfyrio a meddwl.
434
00:25:06,320 --> 00:25:07,240
Arhoswch funud.
435
00:25:07,240 --> 00:25:08,320
Holwch eich hun.
436
00:25:08,320 --> 00:25:11,320
Ydw i wedi rhagdybio
yma? Rydych chi newydd wneud y pwynt am
437
00:25:11,480 --> 00:25:15,120
bobl o Jamaica
ac mae bob amser yn gwneud i mi feddwl am
438
00:25:15,440 --> 00:25:16,960
yr awdures wych, Malorie Blackman.
439
00:25:16,960 --> 00:25:18,920
Fe wnaeth hi ysgrifennu'r llyfr
anhygoel yma, Noughts and Crosses.
440
00:25:19,960 --> 00:25:22,960
Roedd hi’n
ysgrifennu am deulu o Jamaica yn bwyta swper,
441
00:25:23,320 --> 00:25:25,480
ac roedden nhw’n bwyta sbageti.
442
00:25:25,480 --> 00:25:26,960
A’r adborth a gafodd hi
443
00:25:26,960 --> 00:25:30,640
gan y golygydd oedd, wel, fydden nhw
ddim yn bwyta reis a phys?
444
00:25:30,800 --> 00:25:33,760
Ac os mai chi yw’r un sy’n gofyn y cwestiwn hwnnw,
445
00:25:33,760 --> 00:25:38,200
meddyliwch am funud
o, ydw i’n rhagdybio yma?
446
00:25:38,360 --> 00:25:41,000
Fyddwn i’n ei hoffi
pe bai’r sefyllfa’n cael ei gwrthdroi
447
00:25:41,000 --> 00:25:43,960
a bod pobl yn rhagdybio
mai dim ond ffa pob ar dost rydw i’n ei fwyta neu
448
00:25:43,960 --> 00:25:46,160
beth bynnag yw’r stereoteip.
449
00:25:46,160 --> 00:25:49,840
Rwy’n meddwl ei fod yn ymwneud â
chymryd amser i feddwl,
450
00:25:49,960 --> 00:25:52,960
sut byddwn i eisiau cael fy nhrin
yn y sefyllfa hon?
451
00:25:53,160 --> 00:26:00,600
Ac rydych chi, Jade, yn arwain tîm gwaith cymdeithasol.
Rydych chi eisiau bod yn dîm gwaith cymdeithasol gwrth-hiliol?
452
00:26:01,000 --> 00:26:05,320
Yn eich barn chi, pa fath o bethau sy’n nodweddu
453
00:26:05,320 --> 00:26:08,920
tîm gwrth-hiliol
sy’n gweithio yn y ffordd honno?
454
00:26:09,000 --> 00:26:13,840
Rwy’n meddwl y byddwn i’n defnyddio, ac rydw i wedi siarad o’r blaen
am addasrwydd, am bopeth rydyn ni’n ei wneud
455
00:26:13,840 --> 00:26:16,840
a meddwl amdano
yn nhermau addasrwydd.
456
00:26:17,000 --> 00:26:21,440
Ac os ydyn ni’n ymroi i geiso gofyn
cwestiynau
457
00:26:21,680 --> 00:26:25,320
mae angen iddo fod yn fwy na symboleiddiaeth hefyd,
achos, wel, dydw i ddim yn meddwl ein bod ni eisiau hynny.
458
00:26:25,720 --> 00:26:29,640
A dyna beth sy’n digwydd os oes
ton fawr o bobl yn mynd, o, ie.
459
00:26:29,640 --> 00:26:32,200
Hynny yw, rwy’n chwarae rhan weithredol yn hyn.
460
00:26:32,200 --> 00:26:35,040
Ac rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gyfranogwyr
ac yn y blaen.
461
00:26:35,040 --> 00:26:38,040
Ac yna mae’n gwanhau.
462
00:26:38,480 --> 00:26:41,480
Mae bron fel rhyw fath o chwiw ymarfer corff.
Rydych chi’n gwneud ymarfer corff am fis,
463
00:26:41,480 --> 00:26:43,880
rydych chi’n meddwl eich bod yn ffit
ac wedyn dydych chi ddim yn ymarfer.
464
00:26:44,840 --> 00:26:47,840
Felly dwi’n meddwl bod angen i ni fod yn gwneud pethau
bob dydd.
465
00:26:48,040 --> 00:26:52,560
Mae angen i ni edrych ychydig y tu hwnt i
ni ein hunain, ac mae angen i ni edrych ar gymdeithas.
466
00:26:52,880 --> 00:26:57,240
Ac rwy’n meddwl nad dim ond
pan fydda i’n gweithio gyda rhywun
467
00:26:57,360 --> 00:27:01,600
y dylwn i ofyn cwestiynau. O ddydd i ddydd, byddaf yn gofyn cwestiynau.
468
00:27:01,600 --> 00:27:04,240
Dydw i byth
eisiau rhagdybio.
469
00:27:04,240 --> 00:27:07,240
Rwy’n credu bod hynny’n ychwanegu
at gyfoeth y sgwrs hefyd.
470
00:27:07,520 --> 00:27:09,720
Mae hefyd yn cryfhau cymeriad rhywun.
471
00:27:09,720 --> 00:27:13,320
Rwy’n meddwl bod angen i ni
er mwyn cynnal
472
00:27:13,320 --> 00:27:17,000
addasrwydd o'r fath yng nghyswllt gwrth-hiliaeth,
mae angen i ni fod yn gwneud pethau bob dydd.
473
00:27:17,200 --> 00:27:18,640
Mae angen inni fod yn gofyn cwestiynau.
474
00:27:18,640 --> 00:27:21,640
Mae angen i ni wneud hyn nid yn unig â’r bobl rydyn ni’n gweithio
475
00:27:21,640 --> 00:27:25,680
â nhw, ond â phobl ar raddfa ehangach mewn cymdeithas,
ffrindiau nad ydych chi erioed wedi gofyn
476
00:27:25,680 --> 00:27:29,240
cwestiynau yn eu cylch efallai. Efallai y byddwch chi’n gweld
ochr gwbl wahanol iddyn nhw.
477
00:27:29,360 --> 00:27:31,640
Rwy’n meddwl ei fod yn agoriad llygaid aruthrol.
478
00:27:31,640 --> 00:27:34,360
Mae'r gyfatebiaeth yna â ffitrwydd yn un mor dda,
479
00:27:34,360 --> 00:27:37,360
oherwydd rwy’n meddwl eich bod wedi dweud o’r blaen,
cyhyr ydi ein hymennydd.
480
00:27:37,480 --> 00:27:38,640
Felly, os ydych chi am
481
00:27:38,640 --> 00:27:42,400
gynnal y chwilfrydedd hwnnw,
y ddealltwriaeth honno o wrth-hiliaeth,
482
00:27:42,640 --> 00:27:44,480
mae angen i chi ddal
ati. Peidiwch â gwneud un cwrs yn unig
483
00:27:44,480 --> 00:27:46,480
ac yna dweud rydw i’n wrth-hiliol,
rydw i wedi cael y bathodyn.
484
00:27:50,120 --> 00:27:54,480
Rwy’n cofio’r gair y gwnaethoch chi ei ddefnyddio yn gynharach, Hanan - maldodi.
485
00:27:54,640 --> 00:27:57,640
Rwy’n casáu’r syniad
y gallwn i gael fy maldodi yn y pen draw.
486
00:27:57,720 --> 00:28:02,120
Mae angen i mi edrych arnaf fi fy hun
a chymryd perchnogaeth dros yr hyn rwy’n ei wneud.
487
00:28:02,680 --> 00:28:06,360
Ac os caf fy herio,
efallai y dylwn fyfyrio ar y mater
488
00:28:06,360 --> 00:28:10,320
a dysgu ohono, yn hytrach
na bod yn amddiffynnol ac yn bryderus am hynny.
489
00:28:10,320 --> 00:28:13,320
Rwy’n ei weld fel cyfle
i ddysgu a gwella.
490
00:28:14,520 --> 00:28:14,880
Iawn.
491
00:28:14,880 --> 00:28:15,480
Diolch yn fawr.
492
00:28:15,480 --> 00:28:18,120
Wel,
rwyf wedi bod ychydig bach yn ddigywilydd a dweud y gwir.
493
00:28:18,120 --> 00:28:22,080
Rwyf wedi manteisio ar
gael bardd cenedlaethol Cymru
494
00:28:22,320 --> 00:28:25,240
yn rhan o'r sgwrs hon, ac rwyf wedi gofyn i Hanan
495
00:28:25,240 --> 00:28:28,640
a fyddai hi’n
fodlon rhannu peth o’i barddoniaeth â ni.
496
00:28:28,920 --> 00:28:32,680
Felly rwy’n siŵr y byddwch chi wrth eich bodd
ein bod yn mynd i gloi’r sesiwn hon
497
00:28:33,040 --> 00:28:36,640
ag ychydig bach
o farddoniaeth gan Hanan.
498
00:28:39,080 --> 00:28:42,080
My body can house two hearts.
499
00:28:42,160 --> 00:28:44,640
We say "qalbayn" for ‘two hearts’
500
00:28:44,640 --> 00:28:47,200
Pumping parts through crimson sea.
501
00:28:47,200 --> 00:28:48,840
Tied to land's history
502
00:28:48,840 --> 00:28:51,840
split I've tried to fit uneasily.
503
00:28:51,920 --> 00:28:54,880
A blazing of blood. Combined. Obsess.
504
00:28:54,880 --> 00:28:55,680
Rewind.
505
00:28:55,680 --> 00:28:59,240
Frustrate me say between two stools
I fall.
506
00:28:59,440 --> 00:29:02,440
Those boundary walls formed early.
507
00:29:02,520 --> 00:29:04,800
But my body is enough.
508
00:29:04,800 --> 00:29:08,080
Gently tough, stretched, agony, growing
509
00:29:08,080 --> 00:29:11,200
a love, embracing. Rejecting patriarchy.
510
00:29:11,200 --> 00:29:15,440
No need to shame my peers
or let my fears rat race me.
511
00:29:15,720 --> 00:29:18,320
Two hearts my body can hold.
512
00:29:18,320 --> 00:29:20,960
So I mould my legacy.
513
00:29:20,960 --> 00:29:22,680
To make space enough for all.
514
00:29:22,680 --> 00:29:25,600
Standing tall I rise.
515
00:29:25,600 --> 00:29:28,360
Breathe free, two hearts
516
00:29:28,360 --> 00:29:31,800
A strength none can take, love's a lake.
517
00:29:32,040 --> 00:29:35,040
And the world is thirsty.
518
00:29:38,520 --> 00:29:40,960
Wel, roedd hwnna’n arbennig.
519
00:29:40,960 --> 00:29:42,960
Diolch yn fawr iawn i chi Hanan.
520
00:29:42,960 --> 00:29:48,400
Ac i Jade
am ymuno â ni ar gyfer y sgwrs hon.
521
00:29:48,520 --> 00:29:54,400
Rwyf wedi dysgu llawer, ac rwy'n gobeithio y bydd fy addasrwydd
wedi cael ei adfywio heddiw,
522
00:29:54,400 --> 00:29:58,480
ond rwy’n cydnabod y bydd
yn rhaid i mi ddal i weithio ar hyn
523
00:29:58,720 --> 00:30:01,560
os ydw i am gyflawni fy uchelgeisiau.
524
00:30:01,560 --> 00:30:04,400
Ac, rwy’n meddwl, uchelgeisiau Gofal Cymdeithasol
525
00:30:04,400 --> 00:30:08,400
i ddatblygu
cymdeithas wrth-hiliol yma yng Nghymru.
526
00:30:08,760 --> 00:30:12,440
Diolch am wrando
ac am ymuno â ni ar gyfer y sgwrs hon.
527
00:30:13,000 --> 00:30:16,320
Cofiwch daro golwg ar y gweithgareddau eraill
yn ystod Wythnos Gwaith Cymdeithasol.
528
00:30:16,320 --> 00:30:21,520
Mae amrywiaeth eang o weithgareddau
sydd wirioneddol werth cadw llygad amdanyn nhw.
529
00:30:22,040 --> 00:30:26,680
A chofiwch, os ydych chi’n
cael sgwrs â phobl,
530
00:30:26,880 --> 00:30:30,760
rhannwch yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu heddiw
gyda nhw a rhannu’r
531
00:30:30,880 --> 00:30:35,200
ddolen i'r sgwrs hon a fydd ar gael
ar y wefan.
532
00:30:35,280 --> 00:30:36,680
Diolch i chi i gyd. Hwyl fawr.