Pam rydym yn rheoleiddio addysg a hyfforddiant gwaith cymdeithasol
Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn ein galluogi i gymeradwyo cymwysterau mewn gwaith cymdeithasol. Trwy'r broses hon rydym yn sicrhau bod cymwysterau gwaith cymdeithasol ledled Cymru yn gyson, o safon uchel ac yn cwrdd ag anghenion pobl Cymru.
Gwnawn hyn drwy osod safonau ar gyfer hyfforddiant gwaith cymdeithasol ar lefelau cymhwyso ac ôl-gymhwyso sydd wedi'u cynnwys yn y rheolau a ddisgrifir isod. Rydym yn cymeradwyo rhaglenni yn erbyn y rheolau ac yn parhau i sicrhau ansawdd eu bod yn sicrhau bod y safonau'n cael eu cynnal.
Mae'r wybodaeth a geir o'n gwaith rheoleiddio yn rhoi gwybodaeth gwerthfawr am fyfyrwyr gwaith cymdeithasol a gwaith cymdeithasol ac fe'i cyhoeddir mewn adroddiad blynyddol, mae'r adroddiad diweddaraf ar gael isod.

Rhaglenni gwaith cymdeithasol cymwys
Mae’r Fframwaith ar gyfer y Radd Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru yn amlinellu’r safonau ar gyfer y cymhwyster proffesiynol ac yn cynnwys:
- y rheolau sy’n ymwneud â chymeradwyo a rheoleiddio’r rhaglen gymhwyso gwaith cymdeithasol
- rhestr yn gosod allan gofynion mwy manwl ar gyfer cymeradwyo rhaglenni.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi dogfen ar wahân sy'n darparu canllawiau atodol i'r rheolau sydd yn dehongli'r rheolau a fframwaith ar gyfer asesu myfyrwyr.
Dylech darllen y canllawiau atodol i’r rheolau ar y cyd gyda’r rheolau gan eu bod yn:
- Rhoi esboniad pellach o’r rheolau
- Rhoi fframwaith sy’n dangos bod pob myfyriwr sy’n llwyddo gwblhau’r gradd yng Nghymru yn cwrdd â’r gofynion cymhwysedd sylfaenol sy’n cael eu disgrifio yn y rheolau.

Mae’r ddogfen addasrwydd ar gyfer gwaith cymdeithasol yn rhoi canllawiau ar rolau a chyfrifoldebau sefydliadau addysg uwch, eu partneriaid cyflogi a Gofal Cymdeithasol Cymru er mwyn sicrhau bod myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn addas ar gyfer hyfforddiant a chofrestru proffesiynol.

Mae'r arweiniad ar addysg ymarfer ar gyfer y radd mewn gwaith cymdeithasol yng Nghymru yn rhoi mwy o wybodaeth am y disgwyliadau ar gyfer cefnogi dysgu ac asesu myfyrwyr yn ymarferol.

Mae safonau ar gyfer dysgu ymarfer yn y radd mewn gwaith cymdeithasol, maent yn sicrhau cysondeb a thegwch wrth ddysgu'n ymarferol i bob myfyriwr trwy gydol eu hamser ar raglen radd.

Rhaglenni gwaith cymdeithasol ôl-gymhwyso
Mae’r Rheolau Cymeradwyo ac Archwilio Cyrsiau ôl-gymhwyso ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol (Cymru) 2018 yn amlinellu’r safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-gymhwyso ac maent yn cynnwys:
- y rheolau sy’n ymwneud â chymeradwyo a rheoleiddio’r rhaglenni ôl-gymhwyso gwaith cymdeithasol
- rhestr yn gosod allan gofynion mwy manwl ar gyfer cymeradwyo rhaglenni.

Mae yna hefyd gofynion penodol ar gyfer rhai rhaglenni ôl-gymhwyso; mae’r gofynion penodol hyn yn ychwanegol i’r gofynion ôl-gymhwyso cyffredinol.



Rhaid i raglenni gwaith cymdeithasol gynnwys pobl ag anghenion gofal cymdeithasol wrth reoli a chyflwyno rhaglenni cymeradwy. Mae safonau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer cynnwys yn cael eu hadolygu yn 2019-20 a byddant yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Cysylltu â ni
Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.