Jump to content
Canllawiau ar ei ddefnyddio

Mae Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Rheolwyr Gofal Cymdeithasol yn nodi gwybodaeth ac arfer y dylid eu dangos dros amser, gan reolwyr gofal cymdeithasol sy'n newydd i'w rôl.

Pam mae sefydlu da yn bwysig

Dylai pob sefydliad gofal cymdeithasol, boed fawr neu fach, sicrhau bod pob aelod newydd o staff yn cael cyfnod sefydlu i'w paratoi ar gyfer eu rôl newydd. Gall cyfnod sefydlu da eich helpu i ymgartrefu'n dda a dod yn fwy effeithiol yn eich rôl yn gyflymach. Ni ellir diystyru pwysigrwydd sicrhau bod gennych gyflwyniad trylwyr sydd wedi'i strwythuro'n dda i'ch rôl reoli newydd.

Bydd cyfnod sefydlu da yn eich helpu i:

  • integreiddio'n effeithiol i'r sefydliad a datblygu perthynas waith gadarnhaol ag eraill
  • gwybod beth a ddisgwylir gennych a pha gymorth y gallwch ei ddisgwyl gan eraill
  • ymgyfarwyddo â'ch amgylchedd gwaith newydd a'r wybodaeth y mae angen i chi ei gwybod i wneud eich gwaith yn ddiogel ac yn llwyddiannus
  • gwybod ble mae'r sefydliad wedi cyrraedd, o ble y daeth a ble mae am fod.

Rydych chi a'ch cyflogwr yn gyfrifol am sicrhau bod eich cyflwyniad i'ch rôl newydd mor effeithiol â phosibl. Yn dilyn eich apwyntiad, dylech drefnu trafodaeth gynnar gyda'ch cyflogwr/rheolwr am eich cyfnod sefydlu a'ch anghenion dysgu a datblygu ar gyfer y cyfnod hwn. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn ymgymryd â rôl newydd yn eich sefydliad presennol gan y bydd yn eich helpu i deilwra'r cyfnod sefydlu i ddiwallu eich anghenion unigol.

Mae rhai meysydd allweddol y dylid eu cynnwys mewn unrhyw gyfnod sefydlu i gefnogi ymgyfarwyddo, sef:

  • deall y sefydliad yr ydych yn gweithio ynddo
  • deall eich rôl yn y sefydliad
  • dod i adnabod eich tîm
  • dod i adnabod y bobl sy'n defnyddio eich gwasanaeth a'u gofalwyr
  • dod i adnabod y gweithwyr proffesiynol eraill rydych chi'n gweithio gyda nhw

Dylech gael eich cefnogi hefyd a chael cyfle i ddatblygu eich sgiliau arwain a rheoli ar draws pob agwedd ar eich cyfrifoldebau yn ogystal ag arbenigedd sy'n gysylltiedig â'ch maes gwasanaeth.

Mae’r Canllawiau Statudol i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol ar fodloni rheoliadau safon gwasanaeth ar gyfer: gwasanaethau cartrefi gofal; gwasanaethau cymorth cartref; gwasanaethau llety diogel; a gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd (Rheoliad 36) yn dweud y dylai darparwyr gwasanaethau:

'Sicrhau bod ganddynt raglen sefydlu sy'n galluogi pob aelod newydd o staff i fod yn hyderus yn eu rolau a'u hymarfer ac sy'n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth.'

Bydd rhoi'r Fframwaith Sefydlu hwn ar waith yn eich helpu i fodloni'r gofyniad hwn.

Beth yw'r Fframwaith Sefydlu ar gyfer Rheolwyr Gofal Cymdeithasol?

Mae'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Rheolwyr Gofal Cymdeithasol (Fframwaith Sefydlu) yn gyfres o safonau sy'n deillio o gynnwys cymhwyster Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5.

Mae'n egluro'r wybodaeth a'r ymarfer y dylid eu dangos, dros amser, gan reolwyr gofal cymdeithasol sy'n newydd i'w rôl.

Mae dwy ran i'r Fframwaith Sefydlu:

Rhan 1 - Generig sy'n berthnasol i bob rheolwr gofal cymdeithasol

Mae'r adrannau generig sy'n berthnasol i bob rheolwr gofal cymdeithasol yn ymdrin â phob agwedd ar y cyfrifoldebau ar gyfer arwain a rheoli gwasanaethau gofal cymdeithasol, gan gynnwys; ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn/plentyn, perfformiad tîm effeithiol, ansawdd darpariaeth gwasanaethau, ymarfer proffesiynol, diogelu ac iechyd a diogelwch. Dylai'r adrannau hyn gael eu cwblhau gan bob rheolwr gofal cymdeithasol sy'n newydd i'w rôl.

Rhan 2 - Adrannau gwasanaeth-benodol

Mae'r adrannau gwasanaeth-penodol yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd fel dementia neu blant sy'n derbyn gofal, dylech ddewis yr adran/adrannau yma sy'n cyd-fynd agosaf â'ch rôl newydd er enghraifft byddai rheolwr sy'n gweithio mewn lleoliad gofal preswyl plant yn dewis Adran 7 : Arwain a rheoli darpariaeth gwasanaethau i blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal, yn dibynnu ar eu rôl, gall hefyd ddewis Adran 9: Arwain a rheoli cymorth i leihau arferion cyfyngol drwy ddulliau cadarnhaol o gefnogi ymddygiad.

Byddai rheolwr gwasanaethau eiriolaeth annibynnol yn dewis Adran 19: Arwain a rheoli gwasanaethau eiriolaeth.

Pwy ddylai gwblhau'r Fframwaith Sefydlu a faint o amser ddylai hynny ei gymryd?

Rheolwyr gofal cymdeithasol sy'n newydd i'w swydd

Dylai gael ei gwblhau gan bob rheolwr gofal cymdeithasol sy'n newydd i'w swydd fel cyflwyniad sefydlu cyffredinol i'w rôl. Os ydych chi'n rheolwr profiadol neu gymwysedig, byddem yn disgwyl bod gennych chi rywfaint o dystiolaeth o wybodaeth ac ymarfer eisoes yn sgil cwblhau eich cymhwyster neu drwy gyflogaeth flaenorol, tra gall fod gan rai ohonoch lai o brofiad neu eich bod yn gwneud eich cymhwyster ar yr un pryd. Rydym yn argymell y dylai pob rheolwr ei gwblhau o fewn 12 mis i'r dyddiad dechrau mewn rôl newydd. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ymgorffori eich dysgu yn eich ymarfer a diweddaru gwybodaeth am fframweithiau deddfwriaethol, ymarfer ar sail tystiolaeth a meysydd arbenigol.

Rheolwyr penodol

I rai rheolwyr penodol, bydd cwblhau'r fframwaith yn ofyniad hyfforddi rhwng y pwynt cofrestru ac adnewyddu'r cofrestriad. Mae angen cymwysterau gofynnol i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol. Lle nad oes gennych un o'r rhain ond bod gennych gymhwyster arall sy'n bodloni meini prawf hanfodol y cytunwyd arnynt, gellir defnyddio cwblhau'r Fframwaith Sefydlu fel elfen atodol os ydych am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru naill ai:

  • am y tro cyntaf neu;
  • symud i ran wahanol o'r Gofrestr.

Os hoffech ddefnyddio'r llwybr hwn i gofrestru, bydd angen i chi gyflwyno cais i'r tîm cofrestru. Os bydd y cais yn llwyddiannus, dylech gwblhau'r Fframwaith Sefydlu o fewn 12 mis cyntaf eich cofrestriad, a rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o hyn fel rhan o adnewyddu eich cofrestriad.

Rydym wedi datblygu casgliad o astudiaethau achos i'ch helpu i ddeall sut y gellir defnyddio'r Fframwaith Sefydlu i gofrestru fel Rheolwr Gofal Cymdeithasol os nad oes gennych un o'r cymwysterau gofynnol.

Pryd ddylai cyflogwyr ddechrau defnyddio'r Fframwaith Sefydlu?

Mae’r Fframwaith nawr ‘yn fyw’ (ers Medi 2021). Mae hwn ar gyfer rheolwyr newydd ac i'r rhai sydd angen ei ddefnyddio os yw wedi'i bennu fel 'gofyniad hyfforddi' ar gyfer adnewyddu cofrestriad.

Sut y dylid cwblhau'r Fframwaith Sefydlu

Dylech gwblhau pob un o'r adrannau generig ac unrhyw adrannau gwasanaeth-benodol sy'n briodol i'ch rôl. Dylai'r rhain gael eu cytuno â'ch cyflogwr. Os yw’r Fframwaith Sefydlu wedi’i osod fel ‘gofyniad hyfforddi’ ar gyfer adnewyddu cofrestriad fel rheolwr gofal cymdeithasol, byddwn yn argymell yr adran / adrannau gwasanaeth-benodol mwyaf priodol ar gyfer eich rôl.

Lle bo hynny'n bosibl, fel rheolwr sy'n newydd i'ch rôl, dylid rhoi mentor a/neu hyfforddwr i chi a all ddarparu cyngor ac arweiniad gwrthrychol, adborth adeiladol a'ch helpu i dyfu a datblygu.

Logiau cynnydd

Mae'r logiau cynnydd yn cwmpasu'r holl adrannau yn y fframwaith, dylid defnyddio'r rhain i nodi tystiolaeth a dynnwyd ar i gadarnhau cyflawni'r safon sefydlu e.e. cwblhau cymhwyster, goruchwyliaeth, cofnodion, arsylwi ymarfer neu dystiolaethau tyst.

Pwy all lofnodi i gadarnhau bod y Fframwaith Sefydlu wedi'i gwblhau?

Llofnodi cofnodion cynnydd

Dylai pob adran o'r cofnodion cynnydd gael ei dyddio a'i llofnodi gennych chi a'r sawl sydd wedi barnu bod pob un safon sefydlu wedi'i chyflawni.

Rhaid i'r sawl sy'n barnu bod y safonau sefydlu wedi'u cyflawni:

  • feddu ar wybodaeth ymarferol am y safonau sefydlu y maent yn eu barnu
  • fod yn gymwys yn alwedigaethol yn y maes y maent yn mynegi barn yn ei gylch
  • fod yn gyfarwydd â'ch ymarfer

Gallai hyn fod yn amrywiaeth o wahanol bobl e.e. yr Unigolyn Cyfrifol, mentor dynodedig, arweinydd datblygu ymarfer neu reolwr arall sy'n goruchwylio eich gwaith.

Llofnodi tystysgrif cwblhau

Lle bynnag y bo modd, dylai'r Unigolyn Cyfrifol lofnodi'r dystysgrif cwblhau a chi, y rheolwr sydd wedi cyflawni'r fframwaith. Rhaid i'r Unigolyn Cyfrifol allu rhoi sicrwydd o broses gadarn sydd wedi cadarnhau eich bod wedi bodloni'r safonau sefydlu. Nid oes angen iddo lofnodi tystiolaeth o bob safon yn y cofnodion cynnydd, ond dylai lofnodi'r dystysgrif cwblhau gyffredinol.

Efallai y bydd rhai achosion lle nad yw'n bosibl i'r Unigolyn Cyfrifol lofnodi i gadarnhau cwblhau'r Fframwaith Sefydlu e.e. sefydliadau bach lle mai'r Unigolyn Cyfrifol yw'r rheolwr. Yn yr achosion hyn, dylai'r dystysgrif cwblhau gael ei llofnodi gan rywun y tu mewn neu'r tu allan i'r sefydliad sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer mynegi barn am y safonau sefydlu. Dylai'r unigolyn fod yn weithiwr proffesiynol yr ydych wedi'i adnabod yn broffesiynol wrth gwblhau'r Fframwaith Sefydlu ac ni ddylai fod yn perthyn i chi na bod mewn perthynas bersonol â chi mewn unrhyw ffordd.

Dim ond os caiff ei ddefnyddio fel 'gofyniad hyfforddi' ar gyfer adnewyddu cofrestriad y mae angen cyflwyno'r dystysgrif cwblhau i Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r Canllawiau Statudol i ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol ar fodloni rheoliadau safon gwasanaeth ar gyfer: Gwasanaethau cartrefi gofal; Gwasanaethau cymorth cartref; Gwasanaethau llety diogel; a Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd (Rheoliadau 66 – 68) yn egluro rôl yr Unigolyn Cyfrifol o ran sicrhau bod gan unrhyw reolwr cofrestredig a benodir wybodaeth, sgiliau a chymhwysedd priodol i reoli'r gwasanaeth yn ddiogel yn unol â'r rheoliadau a'i fod yn cael eu cefnogi i ennill sgiliau ar gyfer datblygiad proffesiynol a fydd yn ei gefnogi yn ei rôl. Felly, mae'n bwysig ei fod yn ysgwyddo cyfrifoldeb am sicrhau bod rheolwyr yn cael cymorth priodol i gwblhau'r Fframwaith Sefydlu ac y gall roi sicrwydd bod y safonau sefydlu wedi'u bodloni.

Sut mae'r Fframwaith Sefydlu'n cysylltu â Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)?

Gan fod y Fframwaith Sefydlu'n cynnwys set o safonau y cytunwyd arnynt ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol, gellir ei ddefnyddio hefyd fel adnodd i'ch cefnogi os oes gennych gymwysterau hŷn neu os oes angen i chi uwchsgilio/diweddaru eich ymarfer. Gellir ei ddefnyddio hefyd i lywio prosesau gwerthuso er mwyn i gyflogwyr wirio cymhwysedd ac i sicrhau eich bod yn cael y cymorth cywir i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich rôl. Mae gennym becyn cymorth DPP a allai eich helpu i feddwl am hyn.

Rhaid i bob rheolwr cofrestredig gwblhau 90 awr o datblygiad proffesiynol parhaus DPP (a elwid gynt yn PRTL) bob tair blynedd er mwyn adnewyddu ei gofrestriad. Gellir defnyddio cwblhau'r Fframwaith Sefydlu tuag at hyn – cadwch nodyn o unrhyw ddysgu a wneir a'i gofnodi ar eich cyfrif GCCarlein.

Adnoddau i'ch helpu chi

Mae gan Fanyleb Cymhwyster Arwain a Rheoli Lefel 5 Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol uned ar gyfer pob un o'r adrannau. Rydym wedi cymryd y deilliannau dysgu o bob uned ac wedi'u haddasu'r ar gyfer y safonau.

O fewn yr unedau, mae gan bob deilliant dysgu set o feini prawf asesu sy'n gysylltiedig ag ef, er na fyddem yn disgwyl i unrhyw reolwyr gael ei dywys drwy bob un o'r rhain yn fanwl, byddant yn rhoi syniad i chi o'r mathau o wybodaeth ac ymddygiad y byddech yn disgwyl cael tystiolaeth ohonynt. Mae gennym enghreifftiau o logiau cynnydd wedi'u cwblhau i chi weld sut y gallai hyn edrych.

Mae yna ystod o adnoddau eraill i'ch helpu chi i gwblhau'r Fframwaith Sefydlu hwn.

Cysylltu â ni

Os oes gennych gwestiwn neu os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.

Cynnwys cysylltiedig

Cyhoeddwyd gyntaf: 1 Rhagfyr 2020
Diweddariad olaf: 13 Medi 2024
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (62.4 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch