Jump to content
Geirfa

Geirfa termau i gefnogi cwblhau'r AWIF, mae'r termau'n ymddangos yn nhrefn yr wyddor.

A

Gallai achosion sylfaenol gynnwys:

  • poen cronig neu acíwt
  • haint neu broblemau iechyd corfforol eraill
  • nam ar y synhwyrau
  • anaf a gafwyd i’r ymennydd neu gyflwr niwrolegol arall
  • anawsterau cyfathrebu
  • yr amgylchedd
  • ofn a phryder
  • anhapusrwydd
  • diflastod
  • unigrwydd
  • anghenion nas diwallwyd
  • gofynion
  • newid
  • trawsnewidiadau
  • digwyddiadau arwyddocaol diweddar, megis marwolaeth aelod o’r teulu
  • digwyddiadau neu brofiadau blaenorol
  • camdriniaeth neu drawma
  • bwlio
  • gofal gormodol
  • cael eich anwybyddu.

Byddai arferion annerbyniol yn cynnwys:

  • cysylltiad rhywiol gydag unigolyn neu blentyn sy’n defnyddio’r gwasanaeth neu aelod o’r teulu
  • achosi niwed corfforol neu anaf i unigolion
  • gwneud sylwadau, ystumiau neu awgrymiadau ymosodol neu sarhaus
  • gofyn am wybodaeth am hanes personol, lle nad yw’n angenrheidiol nac yn berthnasol
  • gwylio unigolyn neu blentyn neu berson ifanc yn dadwisgo, lle nad yw hynny’n angenrheidiol
  • rhannu gwybodaeth bersonol, lle nad yw hynny’n angenrheidiol
  • cyffwrdd, cofleidio neu fwytho amhriodol
  • celu gwybodaeth am unigolion neu blant a phobl ifanc oddi wrth gydweithwyr. Er enghraifft, peidio â chwblhau cofnodion, cydgynllwynio â gweithredoedd troseddol
  • derbyn rhoddion a lletygarwch yn gyfnewid am well triniaeth
  • lledaenu sïon neu adroddiadau ail-law am unigolyn neu blentyn a person ifanc, neu eraill sy’n agos atynt
  • camddefnyddio arian neu eiddo unigolyn, plentyn neu berson ifanc
  • annog unigolion neu blant a person ifanc i ddod yn ddibynnol er budd y gweithiwr
  • rhoi breintiau arbennig i ‘hoff unigolion neu blant a phobl ifanc’. Er enghraifft, treulio gormod o amser gyda rhywun, dod yn rhy agos ato neu ddefnyddio dylanwad i sicrhau mwy o fudd i un unigolyn nag eraill
  • darparu mathau o ofal na fyddant yn cyflawni’r canlyniad bwriedig
  • darparu cyngor neu gwnsela arbenigol, lle nad yw’r gweithiwr yn gymwys i wneud hynny
  • methu â darparu’r gofal a’r cymorth y cytunwyd arnynt ar gyfer unigolyn neu blentyn neu berson ifanc, neu ei wrthod. Er enghraifft, oherwydd teimladau negyddol am unigolyn neu blentyn neu berson ifanc
  • ceisio gorfodi credoau crefyddol, moesol neu wleidyddol y gweithiwr ar unigolyn
  • methu â hyrwyddo urddas a pharch
  • unrhyw arferion a waherddir yn benodol mewn deddfwriaeth, rheoliadau statudol, safonau a chanllawiau perthnasol

Byddai arferion gofal personol yn cynnwys hylendid personol, rhoi bath, golchi dannedd, mislif.

Arferion cyfyngol yw amrywiaeth o weithgareddau sy’n atal unigolion rhag gwneud pethau maen nhw’n dymuno eu gwneud neu’n eu hannog i wneud pethau dydyn nhw ddim yn dymuno eu gwneud. Gall y pethau hyn fod yn amlwg neu’n gynnil. Dylid eu deall fel rhan o gontinwwm, o gyfyngu ar ddewisiadau i ymateb adweithiol i ddigwyddiad neu argyfwng, neu os yw unigolyn yn mynd i niweidio’i hun neu rywun arall yn ddifrifol.

B

Gall y broses gynllunio gynnwys nodi targedau neu ganlyniadau a galluogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau, yn ogystal â monitro, adolygu a gwerthuso planiau.

C

Dylai’r codau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol gynnwys:

  • y Côd Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol
  • Côd Ymddygiad i Weithwyr Cynnal Gofal Iechyd yng Nghymru GIG Cymru
  • Côd Ymarfer ar gyfer Cyflogwyr GIG Cymru
  • unrhyw ganllawiau ymarfer a gyhoeddwyd gan GIG Cymru neu reoleiddwyr iechyd neu ofal cymdeithasol yng Nghymru, fel y canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr gofal preswyl i blant sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae cyfnodau pontio yn cynnwys sefyllfaoedd fel:

  • pobl neu blant a phobl ifanc yn gadael neu’n ymuno a’r gwasanaeth gofalu
  • genedigaethau
  • marwolaethau
  • priodasau
  • cyflogaeth
  • diswyddo
  • ymddeoliad
  • trosglwyddo rhwng blynyddoedd mewn ysgolion neu golegau
  • trosglwyddo rhwng sefydliadau addysg
  • newidiadau corfforol, fel dechrau’r glasoed
  • datblygu’n oedolyn
  • dod yn gofalwr.

Cyflogwr yn achos gofalwyr maeth neu ofalwyr lleoliadau oedolion / cysylltu bywydau, y cyflogwr fyddai’r asiantaeth. Yn achos cynorthwywyr personol, y cyflogwr fyddai’r person sy’n cyflogi’r gofalwyr i ddarparu gofal a chymorth.

Mae cyfranogiad gweithredol yn ffordd o weithio sy’n ystyried unigolion yn bartneriaid gweithredol yn y gofal neu’r cymorth a ddarperir, yn hytrach na bod yn dderbynwyr goddefol. Mae cyfranogiad gweithredol yn cydnabod hawl unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau a pherthnasoedd bywyd bob dydd, yn y modd mwyaf annibynnol posibl. Ar gyfer plant a phobl ifanc, bydd hyn yn dibynnu ar eu hoedran a’u cam datblygu.

Gall cymhwysedd digidol gael ei adnabod fel llythrennedd digidol neu dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

Mae cynlluniau personol yn amlinellu sut y darperir gofal unigolyn. Maent yn seiliedig ar wybodaeth a geir mewn asesiad, a chynlluniau gofal a chymorth. Byddant yn rhoi sylw i ddymuniadau personol, dyheadau, ac anghenion gofal a chymorth yr unigolyn. Bydd cynlluniau personol yn darparu:

  • gwybodaeth i unigolion a’u cynrychiolwyr am y gofal a’r cymorth y cytunwyd arnynt, a sut y byddant yn cael eu darparu
  • canllaw clir ac adeiladol i staff am yr unigolyn, ei anghenion gofal a chymorth, a’r canlyniadau yr hoffent eu cyflawni
  • sail ar gyfer adolygiad parhaus
  • dull y gall unigolion, eu cynrychiolwyr a staff ei ddefnyddio i fesur cynnydd ac a yw eu canlyniadau personol yn cael eu cyflawni.

D

Byddai deddfwriaeth berthnasol allweddol sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn cynnwys:

  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974
  • Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999
  • Rheoliadau (Iechyd, Diogelwch a Llesiant) yn y Gwaith 1992
  • Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario 1992
  • Rheoliadau Darparu a Defnyddio Cyfarpar Gwaith 1998
  • Rheoliadau Gweithrediadau Codi a Chario a Chodi Cyfarpar 1998
  • Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 2013
  • Rheoliadau Cyfarpar Diogelu Personol yn y Gwaith 1992
  • Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd 2002 (COSHH).

Deddfwriaeth a safonau allweddol sy’n ymwneud ag atal a rheoli heintiau. Gellir dod o hyd i rhain ar wefan Public Health Wales - infection and prevention control

Deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol a chodau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol sy’n ymwneud â diogelu unigolion:

  • oedolion – Mewn Dwylo Diogel: Rhoi Gweithdrefnau Amddiffyn Oedolion ar Waith yng Nghymru (Gorffennaf 2000)
  • oedolion – Trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid
  • oedolion – Polisi a Gweithdrefnau Interim Cymru ar gyfer Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed rhag cael eu Cam-drin 2010
  • plant – Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 1989
  • plant – Deddf Plant 1989 a 2004
  • plant – Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008
  • plant – Gweithio gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004
  • cyffredinol – Deddf Diogelu Data 1998
  • cyffredinol – Deddf Hawliau Dynol 1998
  • cyffredinol – diwygio Deddf Iechyd Meddwl 2007
  • cyffredinol – Deddf Galluedd Meddyliol 2005
  • cyffredinol – Deddf Cydraddoldeb 2010
  • cyffredinol – Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006
  • cyffredinol – Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • cyffredinol – Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Deddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol i gynnwys (ar gyfer ‘adran 1: egwyddorion a gwerthoedd (oedolion)’):

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Cydraddoldeb 2010;
  • Deddf Hawliau Dynol 1998, a chonfensiynau a phrotocolau cysylltiedig megis:
    • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau
    • Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn (1991)
    • Datganiad o Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru (2014)
  • Deddf Iechyd Meddwl 1989, Cod Ymarfer Cymru (2008) a Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) (2010)
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Cod Ymarfer cysylltiedig
  • Trefniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid
  • Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Mwy na Geiriau: Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol (Llywodraeth Cymru, 2012).

Deddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol i gynnwys (ar gyfer ‘adran 2: egwyddorion a gwerthoedd (plant a phobl ifanc)’):

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Cydraddoldeb 2010;
  • Deddf Hawliau Dynol 1998, a chonfensiynau a phrotocolau cysylltiedig megis:
    • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau
    • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 1989
    • Y Saith Nod Craidd ar gyfer plant a phobl ifanc Llywodraeth Cynulliad Cymru (2000)
  • Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Mwy na Geiriau: Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol (Llywodraeth Cymru, 2012).

Byddai Digwyddiadau mawr bywyd yn cynnwys newidiadau pwysig ym mywyd unigolyn neu blentyn neu berson ifanc, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol.

I unigolion sydd â rhai cyflyrau, gall fod yn newidiadau i’w harferion neu amharu arnynt. I eraill, gall fod yn gychwyn ar gyflwr dirywiol fel nam ar y synhwyrau neu ddementia. I eraill, gall fod yn newid sydyn yn eu bywyd fel strôc, damwain, colled a galar. I eraill, gall fod yn argyfwng sy’n effeithio arnynt.

I rai plant a phobl ifanc, gall fod yn newidiadau i’w harferion neu amharu arnynt, neu gychwyn ar gyflwr dirywiol fel nam ar y synhwyrau neu ddementia. I rai, gall fod yn newid sydyn yn eu bywyd fel colled a galar. I eraill, gall fod yn argyfwng sy’n effeithio arnynt.

Disgrifiad swydd – dyma restr o’r cyfrifoldebau sydd gennych, y dyletswyddau y disgwylir i chi eu cwblhau yn eich gwaith a’r bobl rydych yn adrodd iddynt. Efallai nad oes gan ofalwyr lleoliadau oedolion / cysylltu bywydau a gymeradwyir, gofalwyr maeth a chynorthwywyr personol ddisgrifiad swydd. Fodd bynnag, bydd ganddynt gontract, cytundeb lleoliadau neu gytundeb sy’n nodi sut y disgwylir iddynt gyflawni eu rôl.

E

Eiriolaeth – mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn diffinio gwasanaethau eirioli fel:

“[g]wasanaethau sy’n darparu cynorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth”.

Mae eiriolaeth yn cynorthwyo pobl sy’n cael anhawster cynrychioli eu buddiannau, ymarfer eu hawliau, mynegi eu safbwyntiau, ymchwilio i ddewisiadau a gwneud dewisiadau deallus ac yn eu galluogi i wneud hyn oll drwy ffyrdd sy’n cynnwys y canlynol:

  • hunan-eiriolaeth
  • eiriolaeth anffurfiol
  • eiriolaeth gyfunol
  • eiriolaeth cyfoedion
  • eiriolaeth dinasyddion
  • eiriolaeth gwirfoddolwyr annibynnol
  • eiriolaeth ffurfiol
  • eiriolaeth broffesiynol annibynnol.

Byddai eraill yn cynnwys cydweithwyr, gweithwyr eraill neu weithwyr proffesiynol eraill, a theuluoedd neu ofalwyr y gallech ddod i gysylltiad â hwy wrth ofalu am unigolyn a’i gefnogi.

Ff

Mae’r ffactorau amrywiol sy’n gallu effeithio ar iechyd, llesiant a datblygiad unigolion yn gallu cynnwys:

  • amgylchiadau anffafriol neu drawma cyn neu yn ystod genedigaeth
  • ymlyniad
  • cyflyrau ar y sbectrwm awtistig
  • dementia
  • amgylchiadau teuluol
  • eiddilwch
  • niwed neu gamdriniaeth
  • anaf
  • anabledd dysgu
  • cyflyrau meddygol (cronig neu acíwt)
  • iechyd meddwl
  • anabledd corfforol
  • salwch corfforol
  • aflonyddwch lleoliad
  • tlodi
  • anghenion dwys neu gymhleth
  • anghenion synhwyrau
  • sefydlogrwydd
  • amddifadedd cymdeithasol
  • camddefnyddio sylweddau.

Mae’r ffactorau sy’n gallu effeithio ar iechyd, llesiant a datblygiad personol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant a phobl ifanc yn gallu cynnwys:

  • amgylchiadau anffafriol neu drawma cyn neu yn ystod genedigaeth
  • ymlyniad
  • cyflyrau ar y sbectrwm awtistig
  • amgylchiadau teuluol
  • niwed neu gamdriniaeth
  • anaf
  • anabledd dysgu
  • cyflyrau meddygol (cronig neu acíwt)
  • iechyd meddwl
  • anabledd corfforol
  • salwch corfforol
  • aflonyddwch lleoliad
  • tlodi
  • anghenion dwys neu gymhleth
  • anghenion synhwyrau
  • sefydlogrwydd
  • amddifadedd cymdeithasol
  • camddefnyddio sylweddau.

Byddai ffactorau sy’n gallu cyfrannu at gwympiadau yn cynnwys:

  • problemau cydbwysedd
  • gwendid yn y cyhyrau
  • golwg gwael
  • cyflyrau iechyd tymor hir, megis clefyd y galon, dementia neu bwysedd gwaed isel, sy’n gallu arwain at y bendro neu golli ymwybyddiaeth am gyfnod byr
  • ffactorau amgylcheddol, megis:
    • lloriau gwlyb
    • goleuo gwael
    • rygiau neu garpedi sydd ddim yn sownd
    • annibendod
    • ymestyn at ardaloedd storio
    • mynd i fyny neu i lawr grisiau
    • brysio i fynd i’r toiled neu i ateb y drws.

Mae ffactorau sy’n gallu effeithio ar faetheg a hydradiad yn gallu cynnwys:

  • diwylliant a chrefydd
  • dewisiadau ac arferion unigolion
  • ffactorau ffisegol – lleoliad, hylendid y geg ac ati
  • ffactorau ffisiolegol – iselder, anhwylderau bwyta ac ati
  • incwm, ffordd o fyw a chonfensiwn cymdeithasol
  • hysbysebion a mympwyon
  • dylanwadau teulu a grwpiau cymheiriaid
  • moeseg, moesau a chredoau crefyddol.

G

Gall gweithredoedd, ymddygiad neu sefyllfaoedd sy’n cynyddu’r risg o niwed neu gamdriniaeth gynnwys:

  • ymofyn noddfa
  • troseddu
  • gwahanol fathau o fwlio
  • camdriniaeth domestig
  • anffurfio organnau rhywiol merched
  • priodasau gorfodol
  • trosedd casineb
  • digartrefedd
  • masnachu pobl / caethwasiaeth modern
  • anabledd dysgu
  • iechyd meddwl
  • radicaleiddio
  • hunan-esgeulustod
  • camfanteisio rhywiol
  • cam-driniaeth sylweddau.

Ystyr gweithle yw lleoliad lle darperir gofal a chymorth, er enghraifft gofal preswyl i blant, yng nghartref yr unigolyn, gofal maeth ac ati.

Gweithiwr yw’r person fydd yn darparu gofal a chymorth i unigolion.

Gweithwyr unigol yw’r rhai sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain heb oruchwyliaeth agos neu uniongyrchol, er enghraifft:

  • pobl sy’n gweithio gartref
  • pobl sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain am gyfnodau hir
  • pobl sy’n gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n ymweld ag eiddo eraill.

Byddai gofalwyr yn cynnwys unrhyw berson dros 18 oed sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal neu gymorth i oedolyn arall sydd angen gofal. Mae hyn yn cynnwys gofal a chymorth emosiynol, yn ogystal â gofal a chymorth corfforol. Nid yw person sy’n cael ei dalu i ddarparu gofal neu sy’n gwneud hynny fel gweithiwr gwirfoddol yn cael ei ystyried yn ofalwr.

p

Mae penderfyniad budd pennaf yn cael ei wneud pan nad oes gan rywun y galluedd meddyliol i wneud ei benderfyniadau cyfreithiol, gofal iechyd, lles neu ariannol ei hun. Dyma un o egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Gall y penderfyniad ond cael ei wneud ar ôl i asesiad ddod i’r casgliad nad oes gan yr unigolyn alluedd. Dylid dilyn egwyddorion a chodau ymarfer caeth wrth gynnal yr asesiad, fel y’u hamlinellir yn y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Mae polisïau a gweithdrefnau yn ddulliau gwaith gorfodol y cytunwyd arnynt yn ffurfiol sy’n berthnasol mewn llawer o leoliadau. Os nad oes polisïau a gweithdrefnau ar waith, mae’r term yn cynnwys dulliau gwaith eraill y cytunwyd arnynt.

U

Yr unigolyn yw’r person rydych chi’n darparu gofal neu gymorth iddo yn eich gwaith. Gallai hwn fod yn blentyn neu’n oedolyn.

Y

Mae ymagweddau cadarnhaol yn seiliedig ar egwyddorion gofal sy’n canolbwyntio ar y person:

  • dod i adnabod unigolyn
  • parchu a gwerthfawrogi ei hanes a’i gefndir, a deall:
    • ei hoff bethau a’i gas bethau
    • ei sgiliau a’i alluoedd
    • ei hoff ddull cyfathrebu a’i hoff strwythurau cymorth
  • deall effaith yr amgylchedd ar yr unigolyn a defnyddio hyn i nodi ffyrdd o gefnogi pobl yn gyson ym mhob agwedd ar y gofal y maent yn ei dderbyn
  • mae datblygu perthynas dda yn hollbwysig, a dylid defnyddio ymagweddau cadarnhaol bob amser. Maent yn hanfodol pan fo rhywun o dan straen, mewn trallod, yn ofnus, yn bryderus neu’n ddig, ac yn wynebu risg o ymddwyn mewn ffordd a fydd yn peryglu ei ddiogelwch a/neu ddiogelwch eraill.

Mae ymagweddau cadarnhaol yn cynnwys gweithio gydag unigolyn a’i systemau cymorth i:

  • geisio deall beth mae rhywun yn ei deimlo a pham mae’n ymateb fel y mae
  • gwneud unrhyw newidiadau gofynnol ac ymyrryd yn gynnar i geisio atal sefyllfaoedd anodd rhag codi, lle bo hynny’n bosibl
  • deall beth sydd angen ei gynllunio a’i roi ar waith i helpu’r unigolyn i reoli teimladau o drallod a dicter mewn ffordd sy’n lleihau’r angen am ymddygiad sy’n herio unrhyw gyfyngiadau
  • Dulliau cadarnhaol: lleihau arferion cyfyngol mewn gofal cymdeithasol.

Ymarfer diogel i sicrhau diogelwch yn y gweithle i gynnwys:

  • gweithio unigol
  • cynghori ar leoliad
  • mynediad i weithleoedd
  • ymdrin ag achosion o ymddygiad ymosodol.

Ystyr ymarfer myfyriol yw gallu myfyrio ar weithredoedd a dysgu ohonynt i wella ymarfer.

Gall ymddygiad ymosodol achosi niwed corfforol neu emosiynol i eraill. Gall amrywio o gamdriniaeth eiriol i gamdriniaeth gorfforol. Gall gynnwys difrod i eiddo personol hefyd. Yng nghyd-destun diogelwch yn y gweithle, mae hyn yn ymwneud ag ymddygiad ymosodol gan aelodau’r cyhoedd yn hytrach nag unigolion.

Cyhoeddwyd gyntaf: 5 Mehefin 2020
Diweddariad olaf: 14 Mehefin 2023
Lawrlwythwch y dudalen yma fel PDF (79.1 KB)
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch