Mae'r sesiwn hon yn edrych ar y gwerthoedd a'r ffyrdd o weithio mae gweithwyr cymdeithasol yn dal atyn nhw, hyd yn oed pan fydd pethau o'u cwmpas yn newid. Mae'n adeiladu ar yr hyn y mae pobl â phrofiad byw ac ymarferwyr rheng flaen wedi'i ddweud wrthym sy'n wirioneddol bwysig.
I rhywun sydd â phrofiad byw mae hyn yn golygu "bod rhywun yn gwrando arnyn nhw, yn eu deall a'u cydnabod fel person gyfan - nid fel tasgau i'w cwblhau neu flychau i'w ticio. Maen nhw eisiau eu straeon, eu cryfderau a'u gobeithion i siapio'r cefnogaeth maen nhw'n ei dderbyn.
Ar gyfer gweithwyr rheng flaen, yr hyn sy'n bwysig yw teimlo'n egnïol, gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, a chael eu cefnogi i ymarfer gyda hyder a chreadigrwydd. Maen nhw eisiau'r gofod i adeiladu perthnasoedd cryf, cadw mewn cysylltiad â'u pwrpas, a gweithio mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu eu gwerthoedd.
Gyda'n gilydd, byddwn ni’n archwilio'r heriau y mae gweithwyr cymdeithasol yn eu hwynebu, tra hefyd yn rhannu syniadau gobeithiol ac ymarferol ar gyfer y dyfodol.
Byddwch chi’n clywed straeon gan gydweithwyr sy'n gweithio mewn gwasanaethau plant ac oedolion. Byddwn ni’n canolbwyntio ar ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a pherthynas-ganolog, a'r hyn sy'n ein helpu i gadw pobl wrth wraidd ein gwaith.
Dewch gyda meddwl agored, yn barod i fod yn chwilfrydig, myfyriol a thosturiol.
Erbyn diwedd y sesiwn, byddwn ni wedi:
- archwilio'r gwerthoedd a'r dulliau sy'n ein cadw yn llawn cymhelliant ac gyda’n traed ar y ddaear
- siarad yn agored am heriau a rennir yn ymarferol
- rhannu straeon sy'n adeiladu cysylltiad, hyder a gobaith
- edrych ar gyfleoedd i ymarfer yn greadigol a gyda sicrwydd
- adeiladu hyder wrth ddisgrifio canlyniadau ystyrlon sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig i bobl.
Siaradwyr
- Rhoda Emlyn Jones, OBE
- Laurel Morgan - Rheolwr Tîm Dros Dro y Gwasanaeth Therapiwtig, Cyngor Sir Ddinbych
- Rachel Hopkins
- Becky Evans - Prif Swyddog Galluogi, Credu
Hwylusydd