Jump to content
Gweminar: arwyddion a dangosyddion o gam-drin plant yn rhywiol
Digwyddiad

Gweminar: arwyddion a dangosyddion o gam-drin plant yn rhywiol

Dyddiad
10 Mawrth 2026 i 21 Ebrill 2026, 10am i 11.10am
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Ganolfan arbenigedd ar gam-drin rhywiol plant.

Mae’r gweminar hwn yn trafod pynciau a allai beri gofid i rai gwylwyr, gan gynnwys materion diogelu a sefyllfaoedd sy’n ymwneud â llesiant plant. Gofalwch am eich hun wrth wylio. Os oes angen cymorth arnoch chi, rydyn ni'n eich annog i siarad â’ch rheolwr neu gydweithiwr y gallwch ymddiried ynddo.

Bydd y sesiwn yn cyflwyno’r templed arwyddion a dangosyddion ac yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i chi weithredu pan rydych chi’n poeni am blentyn.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yng ngofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y sesiwn

Bydd y gweminar hwn yn eich helpu i sylwi ar arwyddion a allai awgrymu cam-drin rhywiol plant, a chofnodi a rhannu unrhyw bryderon sydd gennych chi.

Yn y gweminar hwn, byddwn ni’n:

  • dysgu am y templed arwyddion a dangosyddion a sut i’w ddefnyddio’n ymarferol
  • edrych ar sut i greu darlun o bryderon pan rydych chi’n poeni am blentyn
  • trafod arwyddion emosiynol, ymddygiadol a chorfforol o gam-drin rhywiol ac ymddygiad rhywiol niweidiol
  • darganfod pa ffactorau sy’n gallu cynyddu bregusrwydd plentyn i’r math hwn o niwed
  • adeiladu hyder wrth adnabod, trafod, archwilio a rhannu pryderon am blentyn.

Dyddiadau

Mae angen mynychu’r ddwy sesiwn i gael y mwyaf o’r gweminar.

  • 10am i 11.10am, 10 Mawrth
  • 10am i 11.10am, 21 Ebrill.