Mae'r sesiwn hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol a myfyrwyr gwaith cymdeithasol sydd am ddeall chwilfrydedd proffesiynol yn well a sut mae'n cefnogi ymarfer effeithiol.
Byddwn ni'n edrych ar yr hyn sy’n helpu ac yn rhwystro chwilfrydedd proffesiynol, sut mae ‘chwilfrydedd sefyllfaol’ yn gweithio wrth weithio o bell, a mannau diogel ar gyfer chwilfrydedd.
Erbyn ddiwedd y sesiwn, byddwch chi'n gadael gydag offer a dulliau i gryfhau eich chwilfrydedd proffesiynol a chefnogi eich ymarfer.
Canlyniadau dysgu
Yn y sesiwn hon byddwn ni'n:
- edrych ar y fframwaith ‘beth, pam a sut’ fel sail i ymarfer gofal cymdeithasol
- archwilio beth a olygwn wrth chwilfrydedd proffesiynol
- ystyried pam mae chwilfrydedd proffesiynol mor bwysig
- gofyn pam rydyn ni'n cael trafferth gyda chwilfrydedd wrth ymarfer heddiw
- gofyn sut gallwn ni fod yn fwy chwilfrydig mewn ymarfer.
Hwylusydd