Jump to content
Yr arweinydd chwilfrydig: cryfhau'r broses o wneud penderfyniadau a hyder
Digwyddiad

Yr arweinydd chwilfrydig: cryfhau'r broses o wneud penderfyniadau a hyder

Dyddiad
20 Mawrth 2026, 9.30am i 12.30pm
Lleoliad
Arlein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae'r sesiwn ryngweithiol hon ar gyfer arweinwyr ym maes gwaith cymdeithasol sydd am rymuso eu timau i wneud penderfyniadau hyderus a gwybodus, a chofleidio chwilfrydedd proffesiynol.

Byddwch chi'n archwilio strategaethau ymarferol i gefnogi staff sy’n llywio sefyllfaoedd cymhleth, yn herio rhagdybiaethau ac yn meithrin diwylliant o fod yn agored a dysgu. Drwy drafodaethau myfyriol a senarios o’r byd go iawn, byddwch chi'n datblygu dulliau sy’n hyrwyddo arweinyddiaeth foesegol, gwytnwch ac eglurder mewn cyfnodau ansicr.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y sesiwn, byddwch chi'n gallu:

  • defnyddio dulliau strwythuredig i arwain staff wrth wneud penderfyniadau ym maes gwaith cymdeithasol
  • meithrin hyder wrth gefnogi timau drwy sefyllfaoedd cymhleth ac o dan bwysau mawr
  • dangos ac annog chwilfrydedd proffesiynol i nodi risgiau a chyfleoedd
  • creu diwylliant o fod yn agored ac ymarfer myfyriol ar draws eich timau
  • cydnabod a herio rhagfarnau sy'n dylanwadu ar wneud penderfyniadau ar bob lefel.

Hwylusydd

Archebwch eich lle