Jump to content
Mewn undod mae nerth - gweithio amlasiantaethol mewn cyd-destun diogelu
Digwyddiad

Mewn undod mae nerth - gweithio amlasiantaethol mewn cyd-destun diogelu

Dyddiad
17 Mawrth 2026, 10am i 11.30am
Lleoliad
Arlein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd y sesiwn hon yn edrych ar pam mae gwaith amlasiantaeth yn hanfodol ar gyfer diogelu ac yn tynnu sylw at y camau cadarnhaol sydd wedi cael eu cymryd yng Nghymru i wneud hyn yn fwy effeithiol. Byddwn ni hefyd yn edrych ar rai o’r rhwystrau a pham mae “rhannu gwybodaeth” yn dal i gael ei ystyried yn bryder mewn adolygiadau diogelu. Rydyn ni'n gwybod fod pobl yn cyflawni gwell canlyniadau pan fydd gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda'i gilydd. Felly beth sy'n atal hyn rhag digwydd, a beth allwn ni ei wneud yn ei gylch?

Canlyniadau dysgu

Yn y sesiwn hon byddwn ni'n:

  • archwilio egwyddorion gwaith amlasiantaeth a pham eu bod yn bwysig o ran diogelu
  • nodi'r rhwystrau sy'n gallu atal pobl a'u gofalwyr rhag cyflawni’r canlyniadau gorau
  • tynnu sylw at y newidiadau cadarnhaol ac ystyrlon y gallwn eu gwneud i gryfhau arferion da
  • myfyrio ar enghreifftiau bywyd go iawn o waith amlasiantaeth effeithiol.

Siaradwyr

Archebwch eich lle