Noder, bydd y sesiwn hon yn cael ei recordio, a bydd fersiwn wedi'i olygu ar gael fel adnodd ar ein gwefan ar ôl y sesiwn. Dim ond y cyflwynwyr fydd yn ymddangos yn y recordiad - ni fydd modd gweld y cyfranogwyr.
Gall technoleg, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI), fod yn ddefnyddiol iawn, ond mae hefyd yn dod â risgiau o ran pethau fel preifatrwydd, diogelwch a hawliau pobl. Yn y sesiwn hon, bydd arbenigwr o Blake Morgan LLP yn siarad am rai o'r heriau hyn, y cyfreithiau sy'n ymwneud â'r materion ymarfer gwaith cymdeithasol cymhleth hyn, ac yn meddwl am sut gall gweithwyr cymdeithasol ddelio â'r materion hyn yn effeithiol.
Canlyniadau dysgu
Yn y sesiwn hon byddwn ni'n:
- archwilio sut mae cyfryngau cymdeithasol, gwyliadwriaeth a thechnolegau newydd yn effeithio ar ymarfer gwaith cymdeithasol
- edrych ar sut i gydbwyso hawliau unigolion â rheoli risg yn effeithiol
- esbonio'r fframweithiau cyfreithiol a phroffesiynol sy'n cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau, gydag enghreifftiau o ymarfer gwaith cymdeithasol.
Siaradwyr