Jump to content
Gwaith cymdeithasol ym maes gwasanaethau iechyd meddwl - ydyn ni'n ddewr?
Digwyddiad

Gwaith cymdeithasol ym maes gwasanaethau iechyd meddwl - ydyn ni'n ddewr?

Dyddiad
16 Mawrth 2026, 10am i 11.30am
Lleoliad
Arlein
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd y sesiwn hon yn edrych ar rôl hanfodol gweithwyr cymdeithasol mewn gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion a phlant. Byddwn yn edrych ar y thema “lleisiau dewr” ac ynysu yn y broses o wneud penderfyniadau critigol gan Weithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (AMHP) a gwasanaethau iechyd meddwl ehangach.

Yn aml, gall gweithwyr cymdeithasol deimlo'n ynysig mewn rolau eraill hefyd, felly mae'r sesiwn hon hefyd yn berthnasol i'r rheini sy'n gweithio y tu allan i faes iechyd meddwl.

Canlyniadau dysgu

Ein nod yw:

  • tynnu sylw at gyfraniad unigryw gwaith cymdeithasol mewn timau amlddisgyblaethol, lle gall y rôl deimlo’n ynysig yn aml
  • annog dewrder ac eiriolaeth ar gyfer y proffesiwn ei hun a'r bobl a'r gofalwyr rydyn ni'n eu cefnogi, yn enwedig lle gallai lleisiau gwaith cymdeithasol fod yn llai niferus
  • myfyrio ar lesiant a gwytnwch gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio mewn cyd-destunau iechyd meddwl heriol, gan gydnabod pwysigrwydd y cymorth cywir ar yr adeg gywir.

Ein nod yw creu gofod ar gyfer dysgu, rhannu profiadau, a chryfhau hyder yn y gwerthoedd a'r safbwyntiau penodol a ddaw yn sgil gwaith cymdeithasol.

Siaradwyr

Archebwch eich lle