Yn y sesiwn hon, byddwn ni'n archwilio pam mae'r Gymraeg yn bwysig ar gyfer meithrin ymarfer sy'n canolbwyntio ar berthnasedd. Bydd Louise Bretland-Treharne o People Speak Up CIC yn rhannu ei phrofiadau o ran yr iaith Gymraeg, hunaniaeth a gofal sy'n sensitif i iaith.
Bydd panel o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg sy'n gweithio ym maes gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn myfyrio ar, ac yn defnyddio eu profiadau eu hunain, ac yn egluro beth mae'r Gymraeg yn ei olygu iddyn nhw.
Byddwn ni'n cytuno ar gwestiwn arweiniol ar gyfer trafodaeth y panel, ac yn defnyddio fframweithiau sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd i ystyried sut mae iaith yn effeithio ar berthnasoedd mewn ymarfer.
Yn y sesiwn hon byddwn ni'n:
- defnyddio profiadau bywyd i archwilio effaith ymarfer sy'n sensitif i iaith a sut y gall hyn lywio ymarfer yn y dyfodol
- edrych ar ddulliau sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd yng nghyd-destun y Gymraeg, fel y Fframwaith Synhwyrau, i ddeall sut mae iaith yn helpu i greu ymdeimlad o ddiogelwch, perthyn, parhad, pwrpas, cyflawniad ac arwyddocâd
- nodi pam mae gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol yn dewis dysgu Cymraeg a'i defnyddio'n ymarferol, a sut mae hyn yn effeithio ar eu gwaith
- datblygu syniadau ymarferol i gryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg yn eich rôl, gwasanaeth neu dîm eich hun.
Siaradwyr