Jump to content
Mae eich llesiant yn bwysig: caniatâd i flaenoriaethu’ch hun
Digwyddiad

Mae eich llesiant yn bwysig: caniatâd i flaenoriaethu’ch hun

Dyddiad
6 Mai 2026, 10am i 11.10am
Lleoliad
Ar-lein, Teams
Sefydliad
Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae’r sesiwn hon yn gyflwyniad i’r syniad o flaenoriaethu’ch hun a’ch llesiant. Bydd hyn yn eich helpu i fod yn fwy effeithiol yn eich rôl yn y gwaith.

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.

Cynnwys y sesiwn

Yn y sesiwn hon, byddwn yn edrych ar becyn cymorth o dechnegau, gyda ffocws ar:

  • leihau straen a phryder
  • godi’ch ysbryd
  • gynyddu gwytnwch
  • wella llesiant.